Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £15.4 miliwn ar gael i gefnogi'r sectorau celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru yn ystod pandemig parhaus COVID-19, mae'r Dirprwy Weinidog Dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cymorth ychwanegol, fel rhan o drydedd rownd y Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru, ar gael i'r sectorau diwylliannol yng Nghymru wrth iddo barhau i gael ei effeithio gan bandemig COVID-19.

Bydd y gronfa yn cefnogi sefydliadau yr effeithir arnynt gan y mesurau lefel rhybudd 2 diweddar y mae Gweinidogion wedi'u rhoi ar waith i gadw Cymru'n ddiogel, ac yn helpu i reoli lledaeniad cyflym yr amrywiolyn Omicron newydd.

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn lansio ei broses ymgeisio ar gyfer sefydliadau o fewn y sector celfyddydau heddiw. Mae'r gronfa sefydlogrwydd y gaeaf a gyhoeddwyd yn flaenorol bellach wedi'i chyfuno â thrydedd rownd Cronfa Adfer y Gaeaf er mwyn sicrhau aliniad â'r cymorth ariannol sydd ar gael.

Cysylltir â sectorau eraill yr effeithiwyd arnynt gan gynnwys lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, lleoliadau digwyddiadau a threfnwyr, amgueddfeydd lleol annibynnol, llyfrgelloedd cymunedol ac annibynnol, orielau a sinemâu annibynnol a gefnogwyd yn flaenorol drwy y Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru drwy lythyr yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 17 Ionawr.  Bydd y llythyr yn  nodi sut y gallant gael gafael ar gymorth ariannol.

Bydd cefnogaeth hefyd i fusnesau a sefydliadau cymwys nad ydynt wedi derbyn cymorth drwy’r Gronfa Adfer Diwylliannol hyd yma, sy'n gallu bodloni'r meini prawf.  Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar Yn cefnogi busnesau Cymru.

Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

"Rydym yn gwbl ymwybodol bod ein sectorau celfyddydau a diwylliant yn parhau i wynebu pwysau newydd, a dyna pam rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor y Celfyddydau i sicrhau bod yr arian ychwanegol hwn ar gael cyn gynted â phosibl.

"Mae'r arloesedd a'r gwydnwch a ddangoswyd gan y bobl a'r sefydliadau sy'n gwneud y sectorau yma mor fywiog wedi bod yn rhyfeddol, rydym am sicrhau bod y sector yn parhau i chwarae rhan yn ein hadferiad o'r pandemig ac wrth ddod â phobl at ei gilydd unwaith eto.

"Mae'r sector diwylliant hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ein heconomi ac mae hwn yn gam arall eto yn y gefnogaeth rydym yn ei chynnig i fusnesau. Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi darparu dros £2.6 biliwn o gymorth i fusnesau ledled Cymru i'w helpu i reoli eu ffordd drwy amgylchiadau anodd.

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Trwy’r gronfa hon, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i ddarparu cefnogaeth allweddol er mwyn sicrhau bod sefydliadau diwylliannol led-led Cymru yn goroesi, ac yn parhau yn hyfyw wrth iddynt wynebu cyfnod pellach o heriau ariannol difrifol.

“Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, rydym yn benderfynol y bydd sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yn cyfrannu yn allweddol at les cymunedau led-led Cymru ac y byddant yn parhau i ddod â chysur, llawenydd a gweledigaeth o’r newydd i gymunedau wrth iddynt ymateb i heriau’r pandemig ond hefyd wrth i ni oll geisio adferiad ac ail-adeiladu ar ei ôl. Mae’r angen am y gefnogaeth hon wedi dod yn fater o frys amlycach fyth o ganlyniad i sgîl effeithiau yr amrywiolyn Omicron.

I fod yn gymwys, bydd yn rhaid i fusnesau hunan-ddatgan eu bod wedi gweld effaith sylweddol drwy lai o drosiant rhwng mis Rhagfyr 2021 a mis Chwefror 2022.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymwybodol o'r effaith y mae'r mesurau rhybydd lefel 2 presennol yn ei chael ar ein cymuned llawrydd greadigol yn y celfyddydau perfformio ac yn ceisio cynyddu lefel y cymorth sydd ar gael iddynt. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu am hyn yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 17 Ionawr.

Mae'r drydedd rownd hon yn adeiladu ar y cymorth blaenorol lle rydym wedi darparu £93 miliwn o gyllid ar draws dau gam y Gronfa Adfer Diwylliannol sydd wedi cefnogi busnesau, sefydliadau ac unigolion yn y sectorau diwylliannol allweddol.