Neidio i'r prif gynnwy

Mae prosiect arloesol yng Nghastell-nedd Port Talbot i helpu gweithgynhyrchwyr i roi hwb i gynhyrchiant a chynaliadwyedd wedi derbyn £1.5 miliwn o gyllid arloesi Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Catapwlt Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel Baglan, menter ar y cyd gan HMV Catapult y DU a Llywodraeth Cymru, yn cynnwys swyddfa a hyb ffatri ddigidol ac yn cael ei ariannu gan HVM Catapult. Bydd yn rhoi cefnogaeth, offer, technegau a chyngor i gwmnïau gweithgynhyrchu i wella eu galluoedd.

Bydd y £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn darparu technoleg ac offer i AMRC Cymru, sy'n rhan o rwydwaith HVM Catapult, i arddangos yr ymchwil, y datblygiad a'r arloesedd diweddaraf i ddiwydiannau gweithgynhyrchu lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r ardaloedd cyfagos, yn ogystal â darparu safle lansio ar gyfer ymgysylltu ehangach a chydweithio â rhanddeiliaid a phartneriaid yn yr ardal.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: 

Mae buddsoddi ar gyfer Twf yn flaenoriaeth genedlaethol i’n Cenhadaeth Economaidd ac mae’r cyfle cyffrous hwn yn enghraifft arall o’r gefnogaeth yr ydym yn ei roi i fusnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru mewn economi newydd.  Drwy eu helpu i ddefnyddio pŵer ymchwil ac arloesi, gallwn adeiladau ar gryfderau y sector gweithgynhyrchu gwydn a gwerth uchel yng Nghymru sy’n cefnogi cynifer o swyddi da.

Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd yn uniongyrchol â strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru, Cymru'n Arloesi, a bydd yn rhoi hwb sydd i'w groesawu i Ganolfan Technoleg Bae Baglan a datblygiad safle Datblygu Bae Baglan.

Wedi'i sefydlu a'i gefnogi gan Innovate UK, mae HVM Catapult yn rhwydwaith o ganolfannau ymchwil ac arloesi sy'n gweithio i drawsnewid gweithgynhyrchu yn y DU.

Maent yn helpu busnesau i wneud y gorau o gynhyrchion, prosesau a gweithluoedd drwy roi mynediad i weithgynhyrchwyr at gyfleusterau ymchwil a datblygu o'r safon uchaf a fyddai fel arall y tu hwnt i'w cyrraedd.

Meddai Prif Swyddog Gweithredol HVM Catapult, Katherine Bennett CBE:

Mae'r cyhoeddiad hwn, sy'n dod â gallu cyfan HVM Catapult i Dde Cymru, yn ffordd wych o gychwyn 2024.

Mae llwyddiant ein safle cyntaf yng Ngogledd Cymru, AMRC Cymru, wedi profi pa mor agos y gall cydweithio agos rhwng y llywodraeth, diwydiant a'r byd academaidd hybu cynhyrchiant a chynaliadwyedd ar draws cadwyni cyflenwi Cymru. Bydd y presenoldeb ychwanegol hwn yn galluogi'r buddion hynny i lawer mwy o weithgynhyrchwyr yng Nghymru wrth iddynt fanteisio ar arbenigedd AMRC Cymru a rhwydwaith HVM Catapult, mewn meysydd fel datgarboneiddio, digideiddio a datblygu sgiliau.

Amcangyfrifir bod gweithgynhyrchu yn cyfrif am 18.4% o allbwn economaidd Cymru, sy'n cyfateb i £11.3 biliwn y flwyddyn, gan gefnogi 147,000 o swyddi. Mae'r prosiect yn gam tuag at Lywodraeth Cymru yn sefydlu ei Sefydliad Gweithgynhyrchu Cenedlaethol Cymru (NMIW) ei hun sydd wrthi'n trafod gydag Innovate UK. 

Bydd y safle gweithredu yn cael ei reoli gan HVM Catapult a bydd canolfan y ffatri ddigidol yn cael ei rhedeg gan AMRC Cymru, sy'n rhan o Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Prifysgol Sheffield. Bydd yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.