Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Gartrefi

Bydd 159 o gartrefi fforddiadwy newydd yn cael eu darparu ledled Cymru ar ôl i Lywodraeth Cymru gytuno i roi benthyciadau gwerth cyfanswm o £45 miliwn i bum Landlord Cymdeithasol Cofrestredig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y benthyciadau llog isel yn ariannu cymysgedd o gartrefi rhenti cymdeithasol, cartrefi rhenti canolradd a chartrefi rhanberchnogaeth. Bydd pob eiddo yn effeithlon o ran ynni ac yn bodloni safonau ansawdd Llywodraeth Cymru. Bydd y cyllid yn cael ei dalu mewn dau gam: £33.3 miliwn eleni, a £11.7 miliwn ym mis Mawrth 2027.

Y pum cymdeithas dai lwyddiannus yw Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd, Codi Properties Limited, Tai Hedyn Cyfyngedig, Cymdeithas Tai Taf a Cymoedd i'r Arfordir. Gyda'i gilydd byddant yn darparu cartrefi ar draws Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Torfaen, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae cynllun benthyciadau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig Llywodraeth Cymru wedi bod yn fecanwaith ariannu sylweddol. Mae wedi darparu cyfanswm o £210 miliwn mewn cyllid llog isel i gymdeithasau tai ledled Cymru ac wedi helpu i gyflwyno ychydig o dan 900 o gartrefi fforddiadwy.

Dywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai:

Mae pawb yng Nghymru yn haeddu lle diogel, cynnes a fforddiadwy i'w alw'n gartref. Bydd y benthyciadau hyn yn rhoi 159 yn fwy o deuluoedd mewn cartrefi o safon sydd wedi'u hadeiladu i bara, ac yn effeithlon i'w gwresogi. Trwy gefnogi cymdeithasau tai i gyflawni ledled Cymru, rydym yn gwneud gwahaniaeth ymarferol i fywydau pobl.

Dywedodd Sophie Wint, Cyfarwyddwr Cyllid Tai Hedyn Cyfyngedig:

Mae mynediad at y benthyciadau cost isel hyn yn helpu i gynyddu capasiti o fewn y sefydliad, gan ddarparu mwy o gartrefi i helpu i liniaru'r argyfwng tai, a buddsoddi yn ein stoc bresennol i gefnogi canlyniadau gwell i'n trigolion."