Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun newydd gwerth £1.85 miliwn yn helpu pum awdurdod lleol yng Nghymru i fynd i'r afael â staeniau gwm cnoi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd cynghorau Blaenau Gwent, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Casnewydd ac Abertawe yn derbyn arian gan Gynllun Grant y Tasglu Gwm Cnoi i'w helpu i lanhau palmentydd yn eu hardal leol yr haf hwn, a buddsoddi mewn newid ymddygiad hirdymor i helpu i atal y broblem yn y dyfodol.

Mae sbwriel gwm cnoi yn gwastraffu miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr bob blwyddyn; amcangyfrifir mai costau glanhau ar gyfer y DU gyfan yw £7 miliwn.

Cafodd y Tasglu Gwm Cnoi ei greu y llynedd gan Lywodraeth y DU. Mae’n  cydweithio â Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ac yn dwyn ynghyd brif gynhyrchwyr gwm cnoi'r wlad, gan gynnwys Mars Wrigley, GlaxoSmithKline a Perfetti Van Melle, mewn partneriaeth newydd i waredu sbwriel gwm cnoi o strydoedd mawr y DU.

O dan y cynllun, sy'n cael ei weinyddu gan yr elusen amgylcheddol annibynnol Keep Britain Tidy, bydd y cwmnïau gwm cnoi yn buddsoddi hyd at £10 miliwn dros bum mlynedd.

Bydd dros 45 o grantiau’n cael eu dyfarnu ledled y DU eleni, a bydd chwech o'r rhain yn cael eu defnyddio i ariannu prosiectau arloesol sy'n annog newid ymddygiad hirdymor.  

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:

"Mae’r angen i gael gwared â gwm cnoi yn syth ar ôl ei defnyddio yn golygu ei fod yn eitem sydd yn aml yn cael ei gwaredu mewn modd anghyfrifol, gyda staeniau gwm yn bresennol ar fwy na dwy o bob tair stryd yng Nghymru.

"Mae glanhau gwm oddi ar y strydoedd yn ddrud ac yn llafurus. Rwy'n falch iawn bod y gronfa newydd hon wedi cael ei sefydlu i gefnogi cynghorau ar draws Cymru ac i annog pobl i feddwl am y problemau mae sbwriel gwm cnoi yn eu hachosi"

Dywedodd Allison Ogden-Newton OBE, Prif Weithredwr Keep Britain Tidy:

"Mae hwn yn gyfle newydd cyffrous i gynghorau fynd i'r afael â phroblem barhaus llygredd gwm cnoi.

"Bydd y grantiau'n galluogi cynghorau i lanhau’r staeniau gwm cnoi sydd wedi bod mor gyffredin yn ein trefi a'n dinasoedd, yn ogystal â gweithredu er mwyn atal pobl rhag taflu gwm cnoi yn y lle cyntaf."

Bydd y gronfa ar agor i gynghorau ledled y DU, gyda grantiau mwy ar gael i ddau gyngor neu fwy sy’n gweithio gyda'i gilydd er mwyn cael effaith well.

Bydd y grantiau’n cynnwys dyfarniad ariannol i ariannu glanhau strydoedd yn ogystal â mynediad at becyn atal sbwriel gwm cnoi. Mae cynlluniau peilot blaenorol wedi lleihau sbwriel gwm cnoi hyd at 64%.

Mae taflu sbwriel yn drosedd a gall awdurdodau lleol Cymru roi cosbau o hyd at £150, gan godi i hyd at £2,500 yn dilyn euogfarn yn y llys.

Drwy Ddeddf Amgylchedd y DU 2022, bydd modd i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pwerau gorfodi yn cael eu defnyddio gyda lefel uchel o broffesiynoldeb, boed hynny gan staff y cyngor neu gontractwyr preifat, a chyflwyno canllawiau gorfodi newydd.

Mae’r Tasglu Gwm Cnoi yn rhan o gamau ehangach Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â sbwriel a gwarchod ein hamgylchedd.  Mae hyn yn cynnwys datblygu Cynllun Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon newydd, cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes newydd ar gyfer cynwysyddion diodydd, a chynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer deunyddiau pecynnu.