Neidio i'r prif gynnwy

Mae £1.8 miliwn o gyllid brys wedi'i gadarnhau i atgyweirio difrod seilwaith amddiffyn rhag llifogydd oherwydd Storm Claudia.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwelodd awdurdodau lleol ledled Cymru asedau yn dioddef difrod sylweddol yn ystod tywydd eithafol ym mis Tachwedd.
Bydd y cyllid brys yn galluogi 11 cyngor i wneud gwaith atgyweirio brys i sicrhau y gall amddiffynfeydd rhag llifogydd barhau i amddiffyn cymunedau'n effeithiol trwy gydol y gaeaf.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am y Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

"Mae llifogydd yn cael effaith dinistriol, a dyna pam rydym wedi buddsoddi mwy na £377 miliwn i leihau perygl llifogydd ledled Cymru dros oes y llywodraeth hon.

"Mae'r tywydd eithafol a welsom ym mis Tachwedd wedi achosi difrod sylweddol i seilwaith amddiffyn rhag llifogydd hanfodol ledled Cymru.

"Mae amddiffyn cymunedau yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i'r llywodraeth hon ac mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu'n gyflym i atgyweirio'r asedau hyn fel y gallant barhau i amddiffyn rhag digwyddiadau tywydd eithafol yn y dyfodol.

"Bydd y cyllid brys hwn o £1.8 miliwn yn caniatáu i awdurdodau lleol ddechrau gwaith atgyweirio brys ar unwaith, gan sicrhau bod ein hamddiffynfeydd yn cael eu hadfer i'r capasiti llawn cyn gynted â phosibl"

Bydd awdurdodau lleol yn derbyn cost lawn y gwaith atgyweirio cymwys, sy'n adlewyrchu maint ac effaith y difrod a achoswyd gan Storm Claudia.

Bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu drwy Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.