Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi rhoi hwb i'r gwaith sy'n mynd rhagddo i droi'r adeilad uchaf yng Nghasnewydd, Chartist Tower, yn westy pedair seren.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r pecyn £2 miliwn yn gyfuniad o gyllid grant a benthyciad gan Croeso Cymru a rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru, a fydd yn darparu £100 miliwn o gymorth cyfalaf ledled Cymru ar gyfer prosiectau adfywio dros y tair blynedd nesaf.

Mae Garrison Barclay Estates wedi prynu prydles hir ar Chartist Tower, ac mae gwaith yn mynd yn ei flaen i drawsnewid yr adeilad yn westy pedair seren ac iddo 154 gwely, campfa, sawna, ystafell frecwast a bwyty ar y to sy'n cynnig golygfeydd o'r holl ddinas.

Ystyrir bod y gwaith o ailwampio'r adeilad yn ddatblygiad hanfodol yn y cyfnod nesaf o fuddsoddi ac adfywio yng Nghasnewydd, ac mae mewn lleoliad delfrydol i fanteisio i'r eithaf ar y dwristiaeth sy'n gysylltiedig ag agor y ganolfan confensiynau ryngwladol newydd,  ICC Cymru.   

Bydd y prosiect yn creu 45.5 swydd ac yn cyfrannu at greu 15 arall. Bwriedir i'r gwesty gael ei agor erbyn haf 2019. Bydd y gwaith o ddatblygu'r tŵr hefyd yn cynnwys llawr manwerthu is, cyfleusterau hamdden a lle ar gyfer busnesau – yn ogystal â bwyty ar y to ar y 15fed llawr. 

Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Mae hwn yn brosiect gwych a fydd yn rhoi bywyd newydd i dirnod lleol arwyddocaol, gan greu swyddi a rhoi hwb i'r economi leol. Rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn dod at ei gilydd." 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

Mae'n wych clywed am y gwesty uchel ei ansawdd hwn yn cael ei ddatblygu yng nghanol Casnewydd, ac rwyf wrth fy modd clywed bod Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi cymorth i brosiect a fydd yn ddatblygiad eiconig ar gyfer y ddinas. Mae'r datblygiad hwn yn unol â'n strategaeth twristiaeth sy'n rhoi blaenoriaeth i brosiectau uchelgeisiol, uchel eu hansawdd. Yn ogystal, mae'r cynlluniau i ymgorffori enw a hanes y Siartwyr yn y datblygiad yn ceisio tynnu sylw at hanes a diwylliant lleol – gan roi ymdeimlad cryf o le.

Dywedodd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda Garrison Barclay i helpu'r prosiect cyffrous hwn i ddwyn ffrwyth, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i sicrhau cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld y datblygiad hwn yn cael ei agor. Bydd yn cyfrannu at ein huchelgais hirdymor i sicrhau bod yr hyn sydd ar gael yng nghanol y ddinas yn fwy amrywiol, er mwyn gwneud y ddinas yn fwy bywiog a cynaliadwy.