Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a lles mewn prifysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid yn helpu i ddelio ag effaith yr argyfwng costau byw sy’n wynebu dysgwyr a myfyrwyr o bob oed. Bydd yn gwella ac yn hyrwyddo gwasanaethau cyngor ariannol mewn addysg uwch, gan gynnwys ar gyfer y rhai sy’n symud o’r coleg neu’r ysgol i addysg uwch.

Bydd hefyd yn helpu i gefnogi myfyrwyr sy’n wynebu pwysau ariannol drwy ehangu’r cyllid caledi.

Mae’r cyllid wedi’i roi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), a’i nod yw helpu myfyrwyr prifysgol a’r rhai sy’n symud i mewn i addysg uwch.

Bydd CCAUC yn gofyn i brifysgolion a cholegau weithio gydag undebau myfyrwyr i wneud yn siŵr bod y cyllid yn cael yr effaith orau bosibl ar fywydau myfyrwyr.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Mae’r cam o’r coleg neu’r ysgol i’r brifysgol yn gallu bod yn gyfnod heriol, yn enwedig os yw rhywun yn byw oddi cartref am y tro cyntaf. Dw i’n falch dros ben o gael cyhoeddi cyllid ychwanegol i wneud yn siŵr bod ein prifysgolion yn parhau i chwarae rôl allweddol wrth gefnogi myfyrwyr.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

Mae cynnig gwasanaethau iechyd meddwl a lles yn ffordd hollbwysig o gefnogi myfyrwyr, yn enwedig wrth iddyn nhw wynebu newidiadau mawr fel gadael cartref am y tro cyntaf. Dw i’n falch ein bod ni wedi gallu buddsoddi yn y gefnogaeth yma ac ehangu’r cyllid caledi er mwyn helpu i ysgafnhau’r pwysau ariannol sydd ar fyfyrwyr hefyd.

Dywedodd Llywydd NUS Cymru, Orla Tarn:

Mae'r buddsoddiad hwn yn cydnabod yr effaith sylweddol y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar iechyd meddwl myfyrwyr. Mae'r ffocws ar roi hwb i wasanaethau cymorth ariannol a sicrhau bod arian caledi ychwanegol ar gael i'w groesawu ac yn angenrheidiol o ystyried y straen sylweddol ar bocedi myfyrwyr prifysgol ar hyn o bryd. Bydd parhau i weithio mewn partneriaeth ag undebau myfyrwyr, sy'n rhoi cefnogaeth hanfodol i'w myfyrwyr yn ystod yr argyfwng hwn, yn helpu i sicrhau bod y cyllid hwn yn cael yr effaith fwyaf bosibl.