Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Mudwyr, cyhoeddwyd bod £2.3m yn cael ei neilltuo i gefnogi ffoaduriaid a mudwyr ac i hyrwyddo gwell cydlyniant cymunedol ar draws Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw'r cyllid newydd hwn fel rhan o Gyllideb ddrafft 2020/2021 Llywodraeth Cymru a lansiwyd ddydd Llun gan y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.

Mae'n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio tuag at fod yn 'genedl noddfa' ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, ar ôl cyhoeddi cynllun gweithredu yn gynnar eleni.

Mae 'Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' yn tynnu sylw at amrywiol gymorth diwylliannol briodol, gan gydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau wedi'u teilwra at anghenion unigryw.

Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae Cyllideb 2020/2021 yn cyhoeddi:

  • £760,000 i gyflogi swyddogion cydlyniant cymunedol i weithio yn uniongyrchol mewn cymunedau ar draws Cymru i ymateb i densiynau yn codi o ganlyniad i ymadael â'r UE
  • £600,000 i ariannu sefydliadau llawr gwlad i weithio gyda chymunedau ffydd lleiafrifol a lleiafrifoedd ethnig mewn ysgolion, colegau a gweithdai cymunedol i atal a lliniaru troseddau casineb, yn ogystal â darparu gwasanaethau cymorth penodol i ddioddefwyr drwy Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr Cymru
  • £500,000 i ddarparu cyngor i 1,200 o ddinasyddion yr UE mewn perthynas â'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog a chymorth i 4,500 o bobl ar hawliau yn y gweithle a materion lles cymdeithasol
  • £355,000 ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth ar achosion unigol, i 2,500 o bobl sy'n ceisio lloches ledled Cymru
  • £40,000 i ariannu amrywiol ddathliadau Diwrnod Windrush ledled Cymru
  • £50,000 i sicrhau bod pobl sy'n ceisio noddfa yn cael cymorth i gyflwyno eu ceisiadau am loches yn effeithiol.

Yn ogystal â'r Gyllideb, mae £1m wedi'i ymrwymo i barhau gyda'r prosiect AilGychwyn: Integreiddio Ffoaduriaid. Dyma elfen allweddol o'r Cynllun Cenedl Noddfa, sef gwasanaeth sy'n ceisio helpu ffoaduriaid i integreiddio drwy roi mynediad iddynt at wersi iaith, cymorth cyflogadwyedd a chyngor am ddiwylliant lleol.

Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt sy'n gyfrifol am oruchwylio'r cymorth i ffoaduriaid, cydlyniant cymunedol a chydraddoldebau. Dywedodd:

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Mudwyr yn gyfle perffaith i bwysleisio ein hymrwymiad i sicrhau bod Cymru yn genedl noddfa i bawb.

Mae'n cynllun gweithredu yn sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu croesawu i Gymru, beth bynnag eu hamgylchiadau, ac mae cyhoeddiad Cyllideb heddiw yn cadarnhau ein hadduned ymhellach.

Mae'r cyllid hwn yn ddathliad o amrywiaeth Cymru, a dyna pam rwy'n falch ein bod ni hefyd yn cyhoeddi £40,000 ar gyfer Diwrnod Windrush am yr ail flwyddyn, er mwyn sicrhau bod y rhai o genhedlaeth Windrush sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru yn cael eu hanrhydeddu yn briodol.

Nod Diwrnod Rhyngwladol y Mudwyr y Cenhedloedd Unedig yw addysgu pobl ar draws y byd am faterion yn ymwneud â mudo, sicrhau newid a dathlu amrywiaeth dynoliaeth.