Neidio i'r prif gynnwy

Bydd 250 o nyrsys a meddygon yn dod i Gymru o dan gytundeb newydd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Kerala.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o Gymru yn India, llofnododd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, gytundeb gyda Llywodraeth Kerala i ddod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig o India i weithio yn y GIG yng Nghymru.

Yn ystod yr ymweliad â Kerala, mewn derbyniad i ddiolch iddynt a dathlu eu cyfraniad i GIG Cymru, cyfarfu'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, â rhai o'r gweithwyr nyrsio a meddygol proffesiynol, a'u teuluoedd, a fydd yn ymgymryd â rolau yng Nghymru maes o law.

Daeth Siji Salimkutty i Gymru fel nyrs o Kerala yn 2004, ac mae wedi treulio'r ugain mlynedd diwethaf yn gweithio yn y GIG yng Nghymru. Ers dod i Gymru, mae Siji wedi parhau i hyrwyddo recriwtio rhyngwladol, gan helpu nyrsys eraill i ymgartrefu yma. Bydd ei nai, Sharoon, yn un o'r 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a fydd yn dod i Gymru o Kerala y flwyddyn nesaf, ac mae ei ferch yn fyfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae hi hefyd yn gobeithio defnyddio ei sgiliau a'i gwybodaeth yng Nghymru.

Dywedodd Siji Salimkutty:

Fe ddes i Gymru gyda'r bwriad o chwilio am gyfle, ond dyma fi’n dod o hyd i gartref. Am yr 20 mlynedd diwethaf, mae gweithio yn GIG Cymru wedi bod yn daith gyfoethog, llawn cyfeillgarwch, twf ac ymdeimlad cryf o berthyn. Nid gwaith yn unig ydy hyn; mae'n brofiad sy'n tystio i gynhesrwydd ac ysbryd y lle rhyfeddol hwn.

Dywedodd Sharoon Kolickatharayil Nowshad (Sharoon K Nowshad):

Mae symud i Gymru fel nyrs yn cynnig cyfle i mi i ailymuno gyda fy ewythrod a'm teulu sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG ers 20 mlynedd. Dw i'n gwybod pan fydda' i'n cyrraedd y bydda' i'n gallu setlo i mewn a symud ymlaen yn fy ngyrfa, ac mae cymuned gref o Kerala yn bodoli eisoes lle galla' i wneud cysylltiadau newydd, wrth ailgysylltu ag aelodau o’m teulu.

Mae recriwtio rhyngwladol moesegol yn rhan allweddol o gynllun gweithredu GIG Cymru ar gyfer y gweithlu, a'r llynedd cafodd dros 400 o nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol eu recriwtio o dramor trwy raglen genedlaethol.

Bydd carfan arall o nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol, yn ogystal â staff meddygol, yn cael eu recriwtio eleni ochr yn ochr â gweithredu rhaglen werth £5 miliwn i gefnogi recriwtio wedi'i dargedu, gan gynnwys recriwtio rhyngwladol moesegol pellach.

Ochr yn ochr â buddsoddiad sylweddol i gynyddu ein cyflenwad o nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn uniongyrchol o Gymru, rydym hefyd yn recriwtio'n rhyngwladol er mwyn helpu i gau'r bwlch sy’n cael ei greu gan swyddi gwag yn y tymor byr a'r tymor canolig.

I gydnabod pwysigrwydd gweithlu'r GIG ac i gefnogi datblygiad meddygon a nyrsys o Gymru, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd fis diwethaf y bydd dros £283 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru eleni; gan helpu i gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi sydd ar gael.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Er gwaethaf y ffaith bod gennym y nifer uchaf erioed o nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn GIG Cymru, mae'r galw byd-eang am weithwyr gofal iechyd wedi cynyddu'n sylweddol. Mae recriwtio rhyngwladol, ochr yn ochr â'n buddsoddiad a'n hymrwymiad i staff gofal iechyd o Gymru ei hun, yn un ffordd o lenwi'r bylchau yn y gweithlu gan sicrhau bod llai o ddibyniaeth ar staff asiantaeth.

Mae gan Kerala hanes hir o hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'u helpu i ddod i Gymru. Dw i wedi gweld drosof fy hun yr effaith aruthrol y mae'r nyrsys, meddygon a staff gofal iechyd ymroddedig hyn wedi'i chael ar ein gwasanaethau gofal iechyd, ac roedd yn fraint cwrdd â rhai o weithlu'r dyfodol wrth iddynt baratoi i ddod i Gymru.

Dw i hefyd wrth fy modd ein bod, er gwaethaf yr hinsawdd ariannol heriol, wedi gallu cynnal ein cyllideb ar gyfer hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i adeiladu gweithlu proffesiynol o ansawdd uchel a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol.