Mae £2.5m arall o gyllid Llywodraeth Cymru wedi'i gyhoeddi ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Bydd y cyllid yn darparu buddsoddiad ychwanegol i'r sector ffilm a theledu. Bydd y sector cyhoeddi hefyd yn derbyn cymorth i ymateb i heriau parhaus a chefnogi gwaith cynhyrchu refeniw.
Ar hyn o bryd mae dros 3,500 o fusnesau yn gweithredu yn y sectorau creadigol a gefnogir gan Cymru Greadigol, gan gyflogi dros 35,000 o bobl. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y sector wedi cynhyrchu trosiant blynyddol o £1.5 biliwn yn 2023, sy’n gynnydd o fwy na 10 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r cyllid diweddaraf hwn yn dilyn £2m o fuddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru i Bad Wolf i gynhyrchu dau gynhyrchiad teledu newydd o'r radd flaenaf a fydd yn arwain at wariant o £30m yn economi Cymru.
Mae'n mynd â buddsoddiad cynhyrchu Llywodraeth Cymru i £33.8m ar draws 70 o brosiectau ers lansio Cymru Greadigol, gan gynhyrchu £419.7m i economi Cymru.
Tynnwyd sylw at ddiwydiannau creadigol Cymru yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru a oedd yn hynod lwyddiannus. Meithrin y diwydiannau creadigol hyn oedd thema Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a gynhaliwyd ar ddydd Gwener.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:
“Mae'r diwydiannau creadigol yn stori o lwyddiant go iawn i Gymru, ac rydym yn hynod falch o'r holl dalent sy'n bodoli ar draws y sector. Boed yn actorion, storïwyr, cerddorion, animeiddwyr neu ddatblygwyr gemau, mae ein diwydiannau creadigol yn rhoi ein cenedl ar y llwyfan byd-eang yn gyson.
“Nid yn unig y mae'r diwydiant yn sbardun economaidd pwysig i Gymru, ond rydym yn meithrin ac yn uwchsgilio'r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol drwy ysgogi cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau i'n pobl ifanc, gan sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle i fwynhau gyrfa lwyddiannus, gynaliadwy.
“Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y rhan hon o'r sector ac i feithrin talent, cefnogi busnesau creadigol ac annog creu cynnwys o ansawdd uchel sy'n sefyll yn falch ymhlith gwledydd eraill.”
