Neidio i'r prif gynnwy

Bydd £3 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru i recriwtio mwy o staff ambiwlans brys i wella amseroedd ymateb ar gyfer y rhai mwyaf sâl neu sydd wedi’u hanafu fwyaf difrifol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn galluogi Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i recriwtio tua 100 o staff rheng flaen ychwanegol ac i gyflwyno gwasanaeth newydd ‘Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru’ (CHARU).

Bydd y gwasanaeth CHARU yn ceisio gwella canlyniadau i bobl sydd wedi dioddef ataliad y galon.

Bydd y staff ychwanegol yn helpu i reoli’r galw cynyddol am ofal mewn argyfwng ac yn lleihau’n rhannol rai o’r heriau cymhleth yn y system ehangach sy’n parhau i roi pwysau dwys ar staff a gwasanaethau gofal mewn argyfwng.

Mae’r pwysau hyn yn cael eu dwysau gan amrywiaeth o ffactorau lleol a chenedlaethol gan gynnwys heriau gyda llif cleifion drwy’r system ysbytai, yn ogystal â chyfyngiadau staffio.

Sefydlwyd y rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng i wella mynediad at ofal brys a gofal mewn argyfwng ac rydym eisoes wedi sicrhau bod £25 miliwn o gyllid cylchol ar gael i gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau’r rhaglen.

Mae hyn yn cyd-fynd â’r £145 miliwn a ddarparwyd i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, fel rhan o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu pobl i osgoi mynd i’r ysbyty neu i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod.

Bydd y staff ambiwlans brys yn cael eu defnyddio mewn ffordd wedi’i thargedu ledled Cymru yn yr ardaloedd sydd o dan y pwysau mwyaf a lle mae’r angen clinigol mwyaf.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

Rydym yn darparu’r cyllid ychwanegol hwn gan ein bod yn cydnabod y pwysau aruthrol sydd ar y gwasanaeth ambiwlans i ymateb i’r bobl fwyaf sâl ac sydd wedi’u hanafu fwyaf difrifol.

Drwy gynyddu capasiti staff yn y tymor byr gallwn wella amseroedd ymateb a sicrhau gofal gwell i bobl sydd wedi bod yn aros yn rhy hir am ambiwlans.

Mae ein rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng yn cefnogi cynnydd mewn staffio mewn meysydd hanfodol yn y tymor canolig ac yn helpu staff i ddarparu’r gofal cywir, yn y lle iawn, y tro cyntaf lle bynnag y bo’n bosibl.

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:

Mae pwysau eithafol yn parhau ar draws y system gofal brys a gofal mewn argyfwng, ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i atebion i’r problemau cymhleth a hirsefydlog.

Yn y cyfamser, rydym yn cynyddu ein gweithlu i roi ein hunain yn y sefyllfa orau bosibl i gwrdd â’r galw cynyddol ac rydym eisoes wedi recriwtio mwy na 260 o swyddi rheng flaen yn y ddwy flynedd diwethaf.

Bydd 100 o swyddi rheng flaen ychwanegol yn cryfhau ein capasiti hyd yn oed ymhellach, ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ariannu hyn a’r fenter CHARU newydd arloesol, a fydd, gobeithio, yn gwella’r canlyniadau i’n cleifion mwyaf difrifol sâl.