Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cyhoeddi £3.3m yn ychwanegol i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol yn 2023-24.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid ychwanegol yn golygu bod buddsoddiad blynyddol Llywodraeth Cymru i weithredu’r Cynllun yn codi i £6m yn 2023-24.

Cafodd y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ei ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn dilyn ymgysylltu helaeth, gan gynnwys gyda defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl. Cyhoeddwyd y cynllun ym mis Tachwedd 2022.

Mae’r cynllun yn nodi 33 o gamau gweithredu i helpu i sicrhau gweithlu iechyd meddwl cynaliadwy. Mae’n anelu at wella gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar, yn ogystal â lleihau pwysau ar wasanaethau i bobl ag anghenion iechyd meddwl difrifol. Mae’r cynllun yn cyd-fynd â’r Strategaeth Gweithlu 10 mlynedd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Dywedodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

Mae gennym weithlu iechyd meddwl medrus iawn yma yng Nghymru, sy’n hanfodol i ddiwallu anghenion iechyd meddwl pobl. Serch hynny, mae materion yn ymwneud â’r gweithlu yn dal i fod yn her allweddol i wasanaethau iechyd meddwl. Nod y cynllun hwn yw helpu i sicrhau gweithlu cynaliadwy ac amrywiol i ymateb i’r heriau hynny.

Rwy’n croesawu gwaith Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu’r cynllun uchelgeisiol hwn. Rydyn ni’n ymrwymo’r cyllid i helpu i sicrhau bod y cynllun yn cael ei roi ar waith fel rhan o’n buddsoddiad ehangach a pharhaus i gefnogi iechyd meddwl a llesiant.

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr Addysg a Gwella Iechyd Cymru:

Un o gamau gweithredu ein Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol, a ddatblygwyd gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, oedd datblygu'r cynllun gweithlu aml-broffesiynol hwn. Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad hwn am gyllid, fel y gallwn symud i gyfnod newydd o waith, gan weithredu ein camau arfaethedig ochr yn ochr â Gofal Cymdeithasol Cymru, a fydd yn ein helpu i gefnogi ein gweithlu iechyd meddwl hollbwysig.