Neidio i'r prif gynnwy

Bydd hwb iechyd a llesiant newydd gwerth £34 milliwn yn cael ei adeiladu yng Nghaerdydd, a fydd yn dod â gwasanaethau meddygon teulu, gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau i deuluoedd i gyd at ei gilydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Hwb Iechyd a Llesiant Park View yn Nhrelái yn cael ei ddatblygu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a bydd yn gwasanaethu trigolion ardaloedd Caerau a Threlái.

Disgwylir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau ym mis Mehefin ac y bydd yr hwb yn agor ym mis Ionawr 2028.

Bydd yn dod â gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol at ei gilydd o dan yr un to, gan gynnwys:

  • gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol
  • clinigau cleifion allanol
  • cymorth iechyd meddwl a niwroamrywiaeth
  • gwasanaethau ymyrraeth gynnar a llesiant teuluoedd
  • a chymorth atal cwympiadau i bobl hŷn

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Bydd yr hwb yn helpu trigolion Trelái a Chaerau i gael gafael ar ystod eang o wasanaethau mewn un lle, gan ddod â mwy o ofal y Gwasanaeth Iechyd yn agosach at gartrefi pobl.

Bydd hefyd yn dod â manteision economaidd tymor hir i'r ardal, gan helpu i greu swyddi ac adfywio'r economi yn ystod y camau adeiladu a gweithredu.

Dywedodd Geoff Walsh, Cyfarwyddwr Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

Mae'r cynllun hir-gynlluniedig hwn yn garreg filltir bwysig i Drelái a Chaerau. Ers cau Canolfan Iechyd Park View, mae darparu gwasanaethau yn lleol wedi bod yn heriol a bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi gofal i gael ei ddarparu yn nes at y cartref unwaith eto.

Bydd dod â gwasanaethau ynghyd â Hwb yr Awdurdod Lleol yn cefnogi ffordd mwy cydgysylltiedig o weithio, tra bydd adleoli Meddygfa Westway, a wnaed yn bosibl drwy gyllid Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (IRCF), yn cryfhau'r ddarpariaeth gofal sylfaenol i'r gymuned.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lee Bridgeman:

Mae'r prosiect hwn yn enghraifft bwerus o'r hyn y gall gweithio mewn partneriaeth gref ei gyflawni. Mae gan Gyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ymrwymiad hirsefydlog i integreiddio gwasanaethau a gwneud y defnydd gorau o asedau cyhoeddus a rennir.

Mae'r Hwb Iechyd a Llesiant newydd hwn yn gam mawr ymlaen wrth gyflawni'r weledigaeth honno. Trwy ymuno ac integreiddio'r cyfleuster newydd â'n Hwb Cymunedol presennol, rydym yn creu un gofod hygyrch lle gall trigolion elwa o gymorth cydgysylltiedig, gwasanaethau wedi'u moderneiddio, a darpariaeth wirioneddol unedig yng nghanol y gymuned.