Mae buddsoddiad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru mewn busnesau sy'n dod i gyfanswm o dros £600 miliwn wedi creu neu ddiogelu mwy na 40,000 o swyddi ledled Cymru yn ystod tymor y llywodraeth hon.

Fel rhan o'r £600 miliwn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans heddiw yn cyhoeddi bron i £10 miliwn i gefnogi bron i 700 o swyddi mewn tri busnes ledled Cymru.
Drwy fuddsoddi mewn benthyciadau, ecwiti a grantiau, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd sylweddol wrth gyflawni ei hymrwymiad i adeiladu economi gryfach, tecach a gwyrddach.
Mae Boccard UK Ltd, sydd wedi'i leoli yng ngogledd Cymru, yn cael Cyllid Dyfodol yr Economi o £1.2 miliwn i symud i uned newydd sylweddol a chynyddu'n sylweddol ei gapasiti gweithgynhyrchu sydd wedi'i ddigideiddio'n llawn.
Bydd hyn yn helpu'r cwmni, sydd â'i bencadlys yn Ffrainc, i gadw ei safle blaenllaw yn y farchnad yn y sector niwclear yng Nghymru, gan ddiogelu 59 o swyddi a chreu dros 150 o swyddi newydd.
Mae buddsoddiad o £8 miliwn gan Lywodraeth Cymru hefyd yn diogelu 325 o swyddi yn WEPA, ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae'n rhan o fuddsoddiad sylweddol gan y cwmni, sy'n arbenigo mewn cynhyrchu a dosbarthu papur hylendid cynaliadwy a datrysiadau hylendid arloesol, i leihau'r defnydd o ynni yn ei safle Maesteg a rhoi hwb i'r capasiti cynhyrchu.
Mae cyllid pellach o £540,000 hefyd yn helpu i ddod â hen ffatri, a gaeodd yn 2022 gyda 60 o weithwyr yn colli eu swyddi, yn ôl i ddefnydd yng Nghwm Clydach, ger Tonypandy.
Bydd Coppice, gwneuthurwr rhyngwladol a chyflenwr pecynwaith i'r diwydiant bwyd yn creu 83 o swyddi yn y gweithrediad newydd, gyda'r nifer hwn o bosibl yn cynyddu i 150 yn y pum mlynedd nesaf.
Wrth siarad yn ystod ymweliad â safle newydd Boccard yng Nglannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Mae cefnogi dros 40,000 o swyddi ers dechrau'r tymor hwn yn y Senedd yn rhywbeth yr ydym yn falch ohono. Rydym wedi torchi ein llewys i gyflawni ar gyfer busnesau, cymunedau a miloedd o weithwyr ledled Cymru – fel y rhai yma yn Boccard, sef yr union fath o gwmni sydd o dan berchnogaeth dramor yr ydym yn edrych i'w denu yn ein Uwchgynhadledd Buddsoddi yn ddiweddarach eleni.
"O gymorth busnes uniongyrchol i fuddsoddi mewn eiddo a chynllunio rhanbarthol hirdymor, rydym nid yn unig yn cefnogi busnesau a chreu swyddi ond yn adeiladu'r seilwaith a'r amodau a fydd yn galluogi busnesau Cymru i dyfu, buddsoddi a diogelu eu gweithrediadau i'r dyfodol.
"Byddwn yn parhau i wneud Cymru yn wlad lle mae swyddi da, busnesau cryf, a chymunedau ffyniannus yw’r sylfaen i economi gryfach, decach a gwyrddach."
Dywedodd Douglas McQueen, Rheolwr Gyfarwyddwr Boccard UK:
"Mae Boccard wrth ei fodd gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau Cyllid Dyfodol yr Economi, sy'n sail i'n hymrwymiad i greu swyddi medrus iawn yng Nglannau Dyfrdwy. Mae hyn yn tyfu cadwyn gyflenwi niwclear a diwydiannol y DU sy'n allweddol yn ein her i gyflawni targedau sero net."
Dywedodd Leon Elston, Rheolwr Gyfarwyddwr Coppice/Sirane:
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein cyfleuster gweithgynhyrchu newydd, yn dilyn caffael Sirange yn ddiweddar. Mae'r ehangiad cyffrous hwn yn garreg filltir arwyddocaol i Coppice Group, gan ehangu ein portffolio pecynnu bwyd ymhellach ac atgyfnerthu ein safle fel arweinydd y farchnad mewn datrysiadau pecynnu cynaliadwy.
"Mae ein llwyddiant parhaus wedi'i wreiddio mewn ymgysylltiad cryf â gweithwyr a chydweithrediad ystyrlon â'r cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt. Roedd y cyfle i fuddsoddi yn safle Cambrian a helpu i adfywio cyflogaeth yn y Rhondda yn ffactor cymhellol yn ein penderfyniad. Mae'r cyfleuster newydd hwn yn darparu llwyfan strategol i ehangu gweithrediadau a gwella ein presenoldeb yn y marchnadoedd presennol a marchnadoedd sy'n dod i'r amlwg, gan gyfrannu’n gadarnhaol at yr economi leol ar yr un pryd.
"Mae'r prosiect hwn wedi bod yn bosibl drwy gefnogaeth amhrisiadwy Llywodraeth Cymru. Chwaraeodd eu cyllid ran ganolog yn ein penderfyniad buddsoddi a galluogodd ddatblygu'r safle gweithgynhyrchu pwrpasol hwn.
"Wrth inni symud ymlaen, rydym yn estyn ein diolch diffuant i Lywodraeth Cymru am eu cydweithrediad parhaus a'u hymrwymiad i gynlluniau twf uchelgeisiol Coppice. Bydd integreiddio Sirane a'r cyfleuster Cambrian yn allweddol wrth gyflawni ein cenhadaeth i fod yn gyflenwr byd-eang o ddewis ar gyfer pecynwaith cynaliadwy."
Dywedodd Rheolwr Melin WEPA, Jordi Goma-Camps Trave:
Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r prosiect pwysig hwn i WEPA. Bydd nid yn unig yn gwella cynaliadwyedd ein proses weithgynhyrchu, ond hefyd yn cynyddu ein capasiti cynhyrchu ac yn cyfrannu at hyfywedd y safle yn y dyfodol."