Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Bydd mwy o bobl yn cael eu gweld, yn cael diagnosis, ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi buddsoddiad o £4.8 miliwn mewn offer newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith o osod sganiwr CT newydd yn lle peiriant 14 oed sydd yno ar hyn o bryd. Bydd hyn yn gwella cynhyrchiant ac yn helpu i leihau amseroedd aros am sganiau.

Bydd y sganiwr newydd, gwell, yn fwy dibynadwy ac yn rhoi delweddau cliriach yn gyflym, sy'n golygu y gellir sganio ac asesu mwy o bobl.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Trwy ddisodli'r hen offer gyda thechnoleg arloesol, rydym yn sicrhau y gall y GIG gyflawni canlyniadau gwell i bobl a gweithio'n fwy effeithlon.

Gall delweddu diagnostig cynnar ac o ansawdd uchel achub bywydau, yn enwedig gyda chyflyrau fel canser.

Bydd y sganiwr CT newydd hwn yn rhoi'r offer sydd ei angen ar glinigwyr i sicrhau bod mwy o bobl yn Abertawe'n cael diagnosis cywir, yn gyflymach, er mwyn dechrau triniaeth.

Mae sganwyr CT yn cymryd darluniau pelydr-x lluosog o gorff person ac yn cynhyrchu delweddau 3D o ansawdd uchel. Maent yn hanfodol i roi diagnosis o ystod eang o gyflyrau ac anafiadau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaeth Ysbyty Treforys, Sue Moore:

Mae sganiau CT yn rhan hanfodol o'r broses ddiagnostig, gan helpu clinigwyr i ddarganfod yn gyflym beth sy'n digwydd y tu mewn i gleifion sy'n sâl iawn neu wedi cael anaf.

Mae'r peiriannau yn Ysbyty Treforys yn geffylau gwaith go iawn, felly rydym wir yn croesawu'r arian i ddisodli'r hynaf o'r ddau beiriant. Mae'r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer sganio CT yn galluogi cleifion i gael eu sganio'n gyflymach, ac yn cynhyrchu delweddau arbennig o glir.