Neidio i'r prif gynnwy

Bydd aelwydydd Cymru sy'n ceisio torri eu biliau ynni a lleihau eu hôl troed carbon yn elwa o fwy na £5 miliwn o gyllid newydd ar gyfer cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru yn 2026-27.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Menter gan Llywodraeth Cymru yw Cartrefi Gwyrdd Cymru, sy'n cael ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi'i chynllunio i gefnogi perchnogion tai cymwys i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni a gwres carbon isel i'w cartrefi. Ers ei lansio ym mis Hydref 2024, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £12 miliwn yn y cynllun

Mae'r cynllun yn cynnig benthyciadau di-log sy'n amrywio o £1,000 i £25,000, gyda thelerau ad-dalu o hyd at 10 mlynedd, yn ogystal â chyngor arbenigol wedi'i ariannu'n llawn — gan roi'r gefnogaeth a'r hyblygrwydd sydd eu hangen ar aelwydydd i wneud gwelliannau ystyrlon heb gostau mawr ymlaen llaw.

Mae perchnogion tai yn dechrau gydag asesiad cychwynnol ac adolygiad manwl o'r cartref cyfan i nodi gwelliannau addas, cyn cael cyngor a chymorth wedi'i deilwra i wneud cais am fenthyciad di-log. Mae Cydlynydd Ôl-ffitio annibynnol yn goruchwylio'r holl waith i sicrhau ei fod yn ddiogel, o ansawdd uchel ac yn cydymffurfio'n llawn.

Mae'r dyraniad o £5 miliwn yn dilyn galw cryf am y cynllun eleni, sy'n adlewyrchu'r awydd ymhlith aelwydydd yng Nghymru i gymryd rheolaeth o'u costau ynni ac i fuddsoddi yn eu cartrefi.

Gellir defnyddio Cartrefi Gwyrdd Cymru ochr yn ochr â Chynllun Uwchraddio Boeleri Llywodraeth y DU, sy'n darparu grantiau ar gyfer gosod pympiau gwres ledled Cymru a Lloegr. Nid oes angen i berchnogion tai wneud cais yn uniongyrchol, bydd gosodwr pwmp gwres cymeradwy yn cyflwyno cais ar eu rhan.

Mae hefyd yn gweithio â chynlluniau prynu ar y cyd sy'n cael eu trefnu gan nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru, gan helpu aelwydydd i gael hyd yn oed mwy o gymorth.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:

Mae Cartrefi Gwyrdd Cymru eisoes wedi helpu cannoedd o aelwydydd ledled Cymru i leihau eu biliau ynni a lleihau eu hôl troed carbon, ac mae'r galw cryf rydyn ni wedi'i weld yn dangos faint o awydd sydd ymhlith perchnogion tai i fuddsoddi yn eu cartrefi.

Mae'r buddsoddiad newydd hwn o £5 miliwn yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o bobl yng Nghymru yn gallu gwneud y gwelliannau sydd eu hangen arnynt i ddiogelu eu cartrefi ar gyfer y dyfodol a lleihau eu biliau ynni - boed hynny drwy osod pwmp gwres, uwchraddio eu hinswleiddio, neu foderneiddio eu system wresogi - heb fod angen miloedd o bunnoedd ymlaen llaw. Ac mae'r cymorth arbenigol am ddim yn golygu y gall deiliaid tai fuddsoddi yn hyderus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwneud eich cartref yn wyrddach yn ddewis sy'n agored i bawb a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud gwelliannau i'w cartref i ddarganfod beth all Cartrefi Gwyrdd Cymru ei gynnig.

Dywedodd Cenydd Rowlands, Cyfarwyddwr Eiddo Banc Datblygu Cymru:

Rydym wedi gweld galw cryf am y gefnogaeth a ddarperir gan Gartrefi Gwyrdd Cymru gan berchnogion tai ledled y wlad.

Bydd y cyllid newydd hwn yn caniatáu inni barhau i wasanaethu'r galw hwnnw, a chefnogi aelwydydd wrth iddynt geisio gwella eu heffeithlonrwydd ynni a thorri biliau.

Am ragor o wybodaeth ac i wirio a ydych yn gymwys, ewch i: Cartrefi Gwyrdd Cymru – Banc Datblygu.