Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £50m yn ychwanegol tuag at welliannau i adeiladau ysgolion ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid cyfalaf hwn yn caniatáu i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar brosiectau cynnal a chadw ar raddfa fawr, megis toeau newydd, ffenestri newydd neu systemau gwresogi ac awyru, yn hytrach nag atgyweiriadau rheolaidd ar raddfa fach.

Mae'r cyllid yn ychwanegol at raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, sydd wedi gweld 170 o ysgolion neu golegau newydd yn cael eu hadeiladu yn ystod y cam cyntaf, gyda 43 o brosiectau eraill eisoes wedi'u cymeradwyo ar gyfer yr ail gam.

Mae colegau addysg bellach eisoes wedi cael £10m yn ychwanegol eleni ar gyfer cynnal a chadw a phrosiectau ar raddfa fach.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

Mae ein rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif wedi arwain at ddatblygu prosiectau adeiladu ysgolion newydd ar hyd a lled Cymru, gan ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf i'n dysgwyr.

Er ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn ysgolion newydd sbon, rwy’ hefyd yn cydnabod y pwysau sydd ar awdurdodau lleol i gynnal ein hysgolion presennol. Bydd y cyllid hwn yn helpu awdurdodau lleol i wneud gwaith brys i gadw ein hysgolion mewn cyflwr da ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

Rydym yn croesawu'r £50m ychwanegol hwn a fydd yn helpu awdurdodau lleol i gynnal eu hystadau ysgol. Mae hyn yn ychwanegol at raglen ehangach Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif, sydd wedi gweld cynifer o adeiladau newydd yn cael eu hadeiladu mewn cymunedau ledled Cymru i wella profiad addysg dysgwyr. Ni fyddai rhaglen waith drawsnewidiol o'r fath wedi bod yn bosibl heb waith partneriaeth cryf rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at barhau â'r ymdrech honno ar y cyd yn ngham nesaf y rhaglen.