Neidio i'r prif gynnwy

Mae Jeremy Miles yn dathlu llwyddiant bron i ddegawd o gyllid yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, yn ogystal ag edrych ymlaen at fuddsoddiad rhanbarthol posibl i'r dyfodol, gan fod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 50,000 o swyddi wedi'u creu yng Nghymru ers i'r rhaglen ddechrau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Mr Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, yn siarad yng nghynhadledd Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) yng Nghaerdydd. Bydd arweinwyr busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn bresennol, yn ogystal â chynrychiolwyr o'r Comisiwn Ewropeaidd a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Cynhelir y digwyddiad bob blwyddyn i nodi cynnydd a llwyddiant rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru.

Ers 2007, mae rhaglenni a ariennir gan yr UE yng Nghymru wedi creu:

  • mwy na 48,700 o swyddi newydd
  • 13,420 o fusnesau newydd
  • ac wedi cefnogi dros 26,800 o fusnesau.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit:

"Diolch i ymrwymiad parhaus y Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau perthynas waith rhagorol gyda Chymru, yn ogystal â gwybodaeth leol amhrisiadwy, rydym wedi gallu gwneud gwelliannau sylweddol i fywydau pobl ar hyd a lled y wlad. 

"Ym mhob ardal yng Nghymru, rydym wedi cefnogi miloedd o bobl i feithrin sgiliau newydd ac wedi dileu'r rhwystrau i gael gwaith. Rydym wedi creu swyddi newydd deniadol a chefnogi busnesau mewn cyfnod anodd - gan wella hyder cymunedau ym mhob rhan o'r wlad.

"Bellach rydym wedi buddsoddi bron bob ceiniog o'r dyraniad o £2 biliwn, gan olygu bod cyfanswm y buddsoddiad yn fwy na £3.5 biliwn. Er ein bod yn dod i ddiwedd y cylch cyllido hwn, bydd Cymru yn parhau i fanteisio yn helaeth o raglenni a ariennir gan yr UE hyd at 2021.

"Er bod y wlad yn parhau i fynd drwy gyfnod o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd, mae'n gysur gwybod bod cyfleoedd ar gael i estyn allan a gwella bywydau pobl yma.

“Yn amlwg, mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud yng Nghymru i baratoi ar gyfer ein perthynas newydd gyda'r UE yn dibynnu ar gael ateb i'n galwadau am gyllid newydd, ond ni allwn laesu dwylo am eiliad os ydyn ni eisiau datblygu trefniadau olynol mewn partneriaeth go iawn â'n cyfeillion a'n partneriaid yma yng Nghymru.

"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda nhw ac yn gweithio'n uniongyrchol gyda chymunedau ledled Cymru i sefydlu trefniadau olynol ac adeiladu ar y llwyddiannau sydd mor amlwg i bawb eu gweld."