Neidio i'r prif gynnwys

Bydd diffoddwyr tân ar draws Cymru yn cael cyfarpar diogelu arbenigol newydd yn dilyn hwb ariannol o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Bydd pob un o'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn cael cyllid i brynu cyfarpar diogelu personol (PPE) newydd yn benodol ar gyfer ymladd tanau gwyllt, yn lle'r PPE a ddefnyddiwyd wrth ymladd y tannau gwyllt yr haf hwn, ac i adeiladu stociau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.
  • Mae'r dyraniad yn dilyn pryderon a godwyd yn Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd a Gwydnwch y Prif Weinidog ar 22 Hydref, ynghylch peryglon dod i gysylltiad hir â mwg tanau gwyllt.
  • Disgwylir adolygiad o'r ffordd yr ymatebodd y tri Gwasanaeth i danau gwyllt yr haf hwn, gan gynnwys parodrwydd, defnyddio adnoddau, gweithrediadau'r ystafell reoli, ac iechyd a diogelwch diffoddwyr tân, yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Arweiniodd gwres eithafol ac amodau sych ar draws Cymru yr haf hwn at fwy o danau gwyllt, a losgodd am yn hirach, gan roi pwysau ar adnoddau a rhoi diffoddwyr tân mewn perygl.

Bydd y £500,000 hwn yn helpu i sicrhau bod gan ddiffoddwyr tân ddigon o setiau o PPE i newid allan o ddillad halogedig yn ystod digwyddiadau parhaus, er mwyn eu cadw'n ddiogel rhag tân, mwg, a pheryglon eraill.

Mae hyn yn dilyn cais am gymorth gan y tri Gwasanaeth, a phryderon a godwyd gan Undeb y Brigadau Tân ynghylch cyswllt hir â mwg tanau gwyllt, yn Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd a Gwydnwch ar 22 Hydref.

Bydd y cyllid yn cael ei rannu yn seiliedig ar nifer y diffoddwyr tân y mae pob Gwasanaeth yn eu cyflogi:

  • Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael £120,000
  • Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael £175,000
  • Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cael £205,000

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian:

Roedd tanau gwyllt yr haf hwn wedi rhoi pwysau eithriadol ar ein diffoddwyr tân, a fu'n gweithio'n ddiflino i ddiogelu cymunedau ledled Cymru.

Yn yr Uwchgynhadledd Newid Hinsawdd a Gwydnwch, disgrifiodd diffoddwyr tân a'u cynrychiolwyr yr hyn sydd ei angen i’w galluogi i wneud eu gwaith yn ddiogel, ac mae'r cyllid hwn yn ganlyniad uniongyrchol i'r trafodaethau hynny. Bydd yn helpu i sicrhau bod ganddyn nhw’r cyfarpar diogelu cywir, er mwyn lleihau eu cysylltiad â sylweddau niweidiol.

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Gwasanaethau Tân ac Achub wrth inni edrych ar yr hyn sydd ei angen i baratoi ar gyfer tanau gwyllt yn y dyfodol.

Bydd y Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub yn cynnal adolygiad o ymateb y tri Gwasanaeth i’r tanau gwyllt yr haf hwn.

Bydd yn archwilio parodrwydd, defnyddio adnoddau, gweithrediadau'r ystafell reoli, ac iechyd a diogelwch diffoddwyr tân, a disgwylir i’r archwiliad gael ei gyhoeddi'n gynnar y flwyddyn nesaf.