Neidio i'r prif gynnwy

Bydd 54 ystafell ddosbarth ychwanegol yn cael eu hadeiladu mewn ysgolion ledled Cymru fel rhan o gronfa £36 miliwn i leihau maint dosbarthiadau babanod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr ystafelloedd dosbarth newydd yn cael eu darparu i ysgolion sydd â’r dosbarthiadau babanod mwyaf ac sydd â lefelau uchel o amddifadedd a/neu anghenion ychwanegol hefyd.

Mae’r gronfa £36 miliwn yn cynnwys £16 miliwn o refeniw i gynorthwyo awdurdodau lleol i recriwtio athrawon ychwanegol, ac £20 miliwn o gyfalaf a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i adeiladu ystafelloedd dosbarth a gofod dysgu ychwanegol sydd eu hangen i leihau maint dosbarthiadau babanod.

Cyhoeddwyd elfen refeniw'r grant fis Ebrill y llynedd a bydd yn ariannu dros 90 o athrawon ychwanegol a thros 20 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol mewn ysgolion ledled Cymru, gan osod y seiliau i leihau maint dosbarthiadau babanod.

Heddiw, bu’r Gweinidog Addysg yn ymweld ag Ysgol Gynradd Llanharan yn Rhondda Cynon Taf lle mae gwaith i adeiladu estyniad dwy ystafell ddosbarth i fod i ddechrau ym mis Ebrill, gan roi mwy o le i ddisgyblion ddysgu. Mae’r ysgol yn elwa o gael athro ychwanegol a chynorthwyydd addysgu drwy’r cyllid hefyd.

Roedd Ysgol Gynradd Llanharan yn un o’r ymgeiswyr cryfaf am y cyllid, gan fod ganddi ddau ddosbarth babanod gyda thros 29 o ddisgyblion a lefelau uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o brydau ysgol am ddim.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae maint dosbarthiadau wedi bod yn destun pryder i rieni ac athrawon erioed. Felly, mae’n bleser gen i gyhoeddi cyllid cyfalaf ar gyfer 54 ystafell ddosbarth ychwanegol i leihau maint dosbarthiadau.

“Law yn llaw â’r £16 miliwn rydym wedi’i fuddsoddi eisoes i benodi dros 90 athro newydd, bydd y cyllid hwn o fudd i dros 100 o ysgolion ledled Cymru.

“O ystyried hyn yng nghyd-destun ein diwygiadau ehangach i gryfhau hyfforddiant cychwynnol athrawon a dysgu proffesiynol, a chael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen, bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn ar y rheng flaen; gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

“Trwy ddarparu ystafelloedd dosbarth newydd ac athrawon ychwanegol i ysgolion, gallwn alluogi athrawon i neilltuo mwy o amser a sylw i ddisgyblion unigol.

“Mae hyn nid yn unig yn fuddiol i’r disgybl a’r athro, ond i allu’r ysgol i wella drwyddi draw; sy’n rhan ganolog o’n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy’n ffynhonnell balchder a hyder cenedlaethol.”