Neidio i'r prif gynnwy

Mae dros hanner cant o brosiectau wedi cael £5.9 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn offer a fydd yn helpu i ddatblygu a gwreiddio cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhoddwyd grantiau gan Gronfa Offer Cyfalaf SMART a'r Gronfa Economi Gylchol ar gyfer Busnes i gefnogi sefydliadau i fuddsoddi mewn arloesi gyda'r nod o wella bywydau pobl, tyfu'r economi a mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Gwahoddwyd busnesau o unrhyw faint, sefydliadau ymchwil, sefydliadau academaidd, gan gynnwys colegau addysg bellach, a sefydliadau'r trydydd sector i wneud cais am yr arian.

Mae’r buddsoddiad wedi'u targedu at weithgareddau a fydd yn helpu i gyflawni'r cenadaethau a nodir yn strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru, Cymru’n Arloesi ac mae cymorth wedi'i gynnig i brosiectau ledled Cymru sy'n cwmpasu pob rhan o'r economi.

Maent yn cynnwys Coleg y Cymoedd yn Nantgarw, a fydd yn defnyddio'r cyllid ar gyfer canolfan newydd ar gyfer arloesi digidol, cynaliadwyedd, entrepreneuriaeth a chyfnewid gwybodaeth.

Yn y cyfamser, bydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cael cymorth ar gyfer offer i ymchwilio a gwella'r amodau gweithgynhyrchu a storio sy'n effeithio ar ansawdd cydrannau gwaed gan arwain at well gofal i gleifion sy'n derbyn trallwysiadau.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: 

"Arloesi sydd â'r potensial i gyfoethogi ein haddysg, ein heconomi, ein hiechyd a'n lles, a'n hamgylchedd.

"Fel y dywedais yn ddiweddar yn fy mlaenoriaethau ar gyfer economi gryfach, rwyf am gryfhau galluoedd arloesi a digidol Cymru gan gynnwys technolegau newydd sy'n esblygu'n gyflym.

"Rydym am greu a meithrin diwylliant arloesi bywiog ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach, felly rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi'r prosiectau hyn, a chredaf y byddant yn sbarduno newid trawsnewidiol."

Mewn dull trawslywodraethol, dyfarnwyd grantiau o bortffolio yr Economi a Newid Hinsawdd, gyda phrosiectau sy'n cefnogi symudiad Cymru tuag at economi garbon sero-net gylchol hefyd yn cael ei gydnabod.

Mae Fferm Wern Heulog ym Mhowys wedi cael cymorth tuag at fenter yn nalgylch dŵr Afon Gwy. Ei nod yw datblygu ffermio dofednod mwy cynaliadwy trwy ddefnyddio larfa y gleren arfog ddu i fwydo ar y sbwriel mewn amgylchedd a reolir, ei dorri i lawr a lleihau ei gyfaint - o bosibl hyd at 70%.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: 

"Mae hon yn enghraifft wych o'n strategaeth Economi Gylchol, Mwy Nag Ailgylchu a'n Strategaeth Arloesi, Cymru’n arloesi yn gweithio ochr yn ochr.

"Mae symud tuag at economi gylchol yng Nghymru, lle rydym yn cynyddu'r defnydd o gynnwys wedi'i ailgylchu a'i ailddefnyddio mewn cynhyrchion neu gydrannau, neu'n ymestyn oes cynhyrchion a deunyddiau, yn rhan allweddol o'r camau gweithredu sydd eu hangen ar newid hinsawdd.

"Rwy'n falch felly ein bod wedi gallu cefnogi'r prosiectau hyn a'r cyfleoedd economaidd a ddaw yn eu sgil tra ar ein taith tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a Chymru ddiwastraff, garbon isel."

Dyraniadau cyllid

Cronfa Offer Cyfalaf SMART 

CwmniAwdurdod Lleol 
Prifysgol AberystwythCeredigion
Air Covers LtdWrecsam
Prifysgol BangorGwynedd
Batri LimitedPen-y-Bont ar Ogwr
Prifysgol CaerdyddCaerdydd
CatSci LtdCaerdydd
Ceridwen Oncology LimitedYnys Môn
Coleg Y CymoeddSir Gâr
Geochemic LtdTorfaen
Gestamp Tallent UK LimitedSir Gâr
I.Q. Endoscopes LimitedSir Fynwy
Kairos Biotech LtdSir Ddinbych
KCC Packaging LtdSir y Fflint
Markes International LtdPen-y-Bont ar Ogwr
Microchip Technology Caldicot LimitedSir Fynwy
MicroLink Devices UK LtdCastell-nedd Port Talbot
Nellie Technologies LTDCeredigion
Snowdonia Aerospace Estates LLPGwynedd
Space Forge LimitedCaerdydd
Prifysgol AbertaweAbertawe
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantAbertawe
Welcome Furniture LtdGwynedd
Gwasanaeth Gwaed CymruRhondda Cynon Taf
Prifysgol WrecsamWrecsam
Zoobiotic LimitedPen-y-Bont ar Ogwr

Cronfa Economi Gylchol ar gyfer Busnes

CwmniAwdurdod Lleol 
Apex Additive TechnologiesBlaenau Gwent
Prifysgol BangorGwynedd
Prifysgol Metropolitan CaerdyddCaerdydd
Prifysgol CaerdyddCaerdydd
Envirowales LtdBlaenau Gwent
Fiberight LtdAbertawe
Friction Technology LtdGwynedd
JC Moulding LtdBlaenau Gwent
NappiCycle LTDSir Gâr
NMC (UK) LtdBlaenau Gwent
Origin Analytical LtdPowys
Polyco LimitedPowys
Pulse Plastics LimitedBlaenau Gwent
Techlan LimitedSir Gâr
Tom Prichard Contracting LtdRhondda Cynon Taf
Tradebe Gwent LimitedCasnewydd
TrimTabs LtdAbertawe
Tuf Treads (Dyfed) LtdSir Gâr
Prifysgol De CymruRhondda Cynon Taf
Wern Heulog FarmPowys