Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cynllun grant aml-flwyddyn newydd yn galluogi gwaith cynnal a chadw hanfodol ar dros 400 o hen safleoedd tomenni glo ledled Cymru, diolch i dros £80 miliwn o gyllid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae'r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies wedi cyhoeddi y bydd y dull newydd yn caniatáu i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gynllunio, datblygu a chyflawni cynlluniau mwy, a mwy cymhleth.

Bydd y gwaith yn amrywio o fân waith cynnal a chadw i brosiectau cyfalaf mawr gwerth hyd at £7 miliwn.

Wrth gyhoeddi'r cynllun ym Mhrosiect Adfywio safle'r British yn Abersychan, Torfaen, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ei fod yn "garreg filltir arwyddocaol" yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelwch tomenni glo.

Bydd cam un y Grant Diogelwch Tomenni Glo newydd yn darparu cyllid i 10 awdurdod lleol a CNC tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2029-30. Mae prosiectau allweddol sy'n derbyn cyllid yn cynnwys:

  • Nant-yr-Odyn, Merthyr Tudful – £7m
  • Cam 1 Prosiect Adfywio safle'r British - Torfaen - £5.6m
  • Graig Ddu Dinas, Rhondda Cynon Taf – £4.8m
  • Pen yr Englyn, Cyfoeth Naturiol Cymru - £3.8m
  • Gwaith Cyweirio ar ôl Tirlithriadau Tylorstown, Rhondda Cynon Taf – £2.3m

Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt:

"Mae'r buddsoddiad hwn yn newyddion gwych – bydd yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau i wella diogelwch ar y safle, sy'n cael ei werthfawrogi gan y gymuned leol. Bydd gan y prosiect hefyd fanteision ehangach o ran diogelu bioamrywiaeth bwysig a lliniaru'r risg o lifogydd yn yr ardal leol.

"Mae llawer o drefi yng Nghymru wedi tyfu i fyny o amgylch y diwydiant mwyngloddio glo ac mae'n iawn bod y cymunedau hyn yn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn arwydd i'w groesawu o bob lefel o Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r nod hwnnw."

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £25 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon a £118 miliwn arall dros y tair blynedd nesaf, gan ddod â chyfanswm buddsoddiad y DU i £143 miliwn.

O'i gyfuno â chyllid Llywodraeth Cymru o £87 miliwn, mae hyn yn golygu bod dros £230 miliwn bellach wedi'i ymrwymo i ddiogelwch tomenni glo ledled Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:

"Mae'r buddsoddiad uchaf erioed hwn yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad i ddiogelwch tomenni glo. Mae'r dull aml-flwyddyn yn rhywbeth yr wyf wedi galw amdano ers amser maith – mae'n rhoi'r sicrwydd y mae ei angen i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru gynllunio a chyflawni prosiectau adfer mwy, a mwy cymhleth.

"Mae'r buddsoddiad hwn yn gwneud mwy na gwneud ein cymunedau yn fwy diogel. Mae'n fuddsoddiad enfawr mewn cymunedau meysydd glo, yn tyfu'r economi ac yn creu swyddi yn llawer o'r lleoedd y mae'r mwyaf o'u hangen.

"Ar un adeg datblygodd Cymru arbenigedd mwyngloddio a gafodd ei allforio ledled y byd – nawr mae cyfle gennym i arwain eto, y tro hwn wrth ddelio â'n gwaddol mwyngloddio yn ystod argyfwng hinsawdd."

Fel rhan o waith datblygu capasiti hirdymor yn y maes hwn, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi mewn datblygu talent yn y dyfodol.

Mae cynllun lleoli peilot Peirianneg Amgylcheddol sy'n cael ei redeg gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi darparu chwe lleoliad mewn awdurdodau lleol eleni, gan gynnig profiad mewn rheoli perygl llifogydd a gwaith cyweirio mwyngloddiau.