Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi cyhoeddi y bydd bron i 90% o hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael eu talu pan fydd y ffenestr daliadau newydd yn agor ddydd Iau, 1 Rhagfyr.    

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth gyhoeddi’r newyddion ar ddiwrnod agoriadol y Ffair Aeaf, cafwyd cadarnhâd gan Ysgrifennydd y Cabinet y byddai £173 miliwn yn cael ei dalu i gyfrifon banc 13,176 o ffermwyr Cymru ar ddiwrnod cyntaf y ffenestr dalu.  

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Dwi’n falch o gyhoeddi bod Cymru wedi dychwelyd i’w pherfformiad rhagorol arferol, gyda bron i 90% o ffermwyr yn derbyn eu taliad Cynllun y Taliad Sylfaenol ar y diwrnod cyntaf.  

“Mae’r perfformiad rhagorol hwn wedi digwydd yn rhannol oherwydd ein bod bellach yn prosesu ceisiadau ar-lein, sydd wedi lleihau biwrocratiaeth, ac wedi  caniatâu i geisiadau gael eu prosesu yn gyflym ac yn effeithiol.  Ni yw’r unig wlad sy’n cynnig dull digidol cyflawn o brosesu’r ceisiadau hyn.  

“Mae ein perfformiad gwych o ran taliadau hefyd wedi elwa’n fawr o weithio gyda’r undebau a’r asiantaethau ffermio, sydd wedi cynnig cymorth i nifer o ffermwyr wrth iddynt wneud eu ceisiadau.  Rwy’n ddiolchgar iddynt, ac i ffermwyr Cymru, sydd wedi bod mor barod i ddefnyddio RPW Ar-lein ac wedi sicrhau bod y system newydd yn gymaint o lwyddiant.”  

Mae’r Ffair Aeaf yn gyfle arall i Ysgrifennydd y Cabinet drafod goblygiadau penderfyniad y DU i adael yr UE gyda’r diwydiant, ac i roi sicrwydd i ffermwyr ynghylch taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn y dyfodol.  

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Bydd pryderon wrth gwrs ynghylch dyfodol Cynllun y Taliad Sylfaenol a chynlluniau tebyg o ganlyniad i benderfyniad refferendwm yr UE.  Tra ein bod yn parhau yn aelod o’r UE, bydd y cynllun hwn yn parhau.  Rydym hefyd wedi derbyn sicrwydd gan y Trysorlys y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael ei ariannu’n llawn tan 2020.”