Roedd naw deg wyth y cant o'r dyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru yn bodloni safonau cydymffurfio llym eleni – gyda'r mwyafrif llethol yn sicrhau statws 'ardderchog'.
Mae dosbarthiadau 2025, a gyhoeddwyd heddiw, yn dilyn gwaith monitro ansawdd dŵr a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y tymor ymdrochi rhwng mis Mai a mis Medi.
Mae 78 o'r 112 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig ledled Cymru wedi'u dosbarthu fel rhai 'ardderchog' – cynnydd o dri safle o'i gymharu â 2024. Sicrhaodd 26 safle arall statws 'da' a 6 statws 'boddhaol'.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
“Mae ein hymrwymiad i ddiogelu ansawdd dŵr yn glir. Hoffwn ddiolch i'n cymunedau a'n holl bartneriaid am gydweithio tuag at Gymru lanach a mwy diogel.
“Rwy'n arbennig o falch o weld perfformiad rhagorol un o'n safleoedd sydd newydd eu dynodi, sef Cronfa Ddŵr Llanisien yng Nghaerdydd, sydd wedi sicrhau statws 'ardderchog' yn ei blwyddyn gyntaf – camp ryfeddol.”
Dywedodd Mary Lewis, Pennaeth Rheoli Adnoddau Naturiol yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae ein traethau a'n dyfroedd ymdrochi gwych yn rhan bwysig o hunaniaeth a diwylliant Cymru. Maent yn gartref i rywogaethau prin ac unigryw, yn darparu lle i ymlacio a chysylltu ag eraill ac yn helpu economïau lleol i ffynnu.
“Yng nghanol argyfyngau hinsawdd a natur, mae cynnal safon uchel ein dyfroedd ymdrochi yn her gynyddol. Ond mae'r canlyniadau'n adlewyrchu ymroddiad ein timau, ein partneriaid, ein grwpiau amgylcheddol a'n cymunedau sy'n diogelu ac yn gofalu am ein hamgylchedd.
“Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru, rydym yn gweithio'n galed i leihau llygredd yn ei ffynhonnell, cymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai sy'n niweidio ein dyfroedd a chydweithio â phartneriaid ar atebion. Rydym yn parhau i ysgogi camau gweithredu a buddsoddiad o bob sector i sicrhau gwelliannau parhaus, hirdymor i natur a phobl, a dyfodol dyfroedd Cymru.”
Er bod y darlun cyffredinol yn gadarnhaol, gall ffactorau amgylcheddol effeithio'n sylweddol ar ansawdd dŵr. Gall ffactorau amgylcheddol, yn enwedig y mis Medi eithriadol o wlyb a welodd 170% o'r glawiad cyfartalog, effeithio'n sylweddol ar ansawdd dŵr.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:
“Wrth i ni barhau i wynebu effeithiau newid hinsawdd, mae cynnal a gwella safonau ein dyfroedd ymdrochi yn gofyn am fuddsoddiad parhaus, arloesedd a gweithio mewn partneriaeth ar draws pob sector.
“Fis diwethaf, amlinellais gynlluniau i drawsnewid y ffordd y mae dŵr yn cael ei reoli, ei reoleiddio a'i ddarparu yng Nghymru.
“Mae hwn yn gyfle euraidd i greu system well sy'n rhoi pobl, yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol yn gyntaf.”
