Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am wella’r ffordd ar hyd yr A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr.

Statws:
Wedi oedi
Rhanbarth / Sir:
Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn

Mae’r dudalen hon yn adlewyrchu ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd. Cafodd rhaglen newydd ei chyhoeddi yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth.

Byddwn yn cyhoeddi tudalennau newydd ar y wefan er mwyn adlewyrchu’r rhaglen newydd.

Pam ydym ni’n ei wneud

Rydym am:

  • wneud y ffordd yn fwy diogel i yrwyr
  • ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i bobl gerdded neu feicio
  • ei gwneud yn haws i bobl gerdded rhwng Caerfyrddin a Sanclêr.

Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen

Mae’r cynllun wrthi’n mynd drwy’r camau yn Arweiniad Llywodraeth Cymru ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ac mae’r opsiynau a ffefrir y cael eu nodi ar hyn o bryd.

Camau nesaf

Unwaith y byddwn wedi pennu opsiwn a ffefrir, byddwn yn llunio adroddiad cam 3 WelTAG.

Beth rydym yn ei wneud

Rydym yn:

  • edrych ar ddiogelwch ar y ffordd ac ar faterion gweithredol
  • ystyried sut mae’r mannau croesi, nodweddion y ffordd a’r cilfannau’n cael eu defnyddio
  • ystyried sut y gallwn ei gwneud yn haws i bobl deithio mewn ffyrdd gwahanol.

Sut rydym yn ymgynghori

Yn rhan o broses WelTAG, rydym wedi ymgynghori â’r trigolion lleol, busnesau, cynghorau cymuned, y gwasanaethau brys a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau