
Rydym wedi gwella'r ffordd rhwng Llanddewi Felffre, Penblewin a Redstone Cross.
Trosolwg
Bydd gwaith i gwblhau llwybrau cerdded, olwynio a beicio drwy Llanddewi Felffre yn parhau hyd fis Medi 2025. Bydd gwaith terfynol i dynnu statws cefnffordd hefyd yn digwydd ar y ffyrdd sirol cyfagos yn ystod y cyfnod hwn, a allai arwain at rywfaint o oedi.
Beth rydym wedi’i wneud
Gwnaethom uwchraddio'r A40 rhwng Sanclêr a Hwlffordd i wella diogelwch ac ymgorffori llwybrau beicio a cherdded newydd.
Roedd hynny’n cynnwys:
- ffordd newydd '2 + 1', gyda mwy o leoedd i oddiweddyd yn ddiogel
- cylchfan newydd i'r dwyrain o Landdewi Felffre, i gael mynediad i'r pentref
- cyffordd newydd i'r gorllewin o Landdewi Felffre
- gwella cylchfan Penblewin
- cyffordd newydd yn Redstone Cross
- 2 bont newydd, yn Redstone Road a Ffordd Llanfallteg
- gwella'r system ddraenio
- adeiladu tanffyrdd ar gyfer mamaliaid, i gefnogi'r ecosystem leol
- creu llwybrau beicio a cherdded newydd i annog teithio llesol
- plannu dros 150,000 o goed newydd a 300,000 o blanhigion
Pam y gwnaed y gwaith
Roeddem eisiau gwneud y canlynol:
- gwneud cyffordd Redstone Cross yn fwy diogel
- lleihau nifer a difrifoldeb y damweiniau
- darparu lleoedd mwy diogel i oddiweddyd
- lleihau amseroedd teithio
- gwella mynediad i Ardal Fenter Haven, porthladdoedd yn Abergwaun, Aberdaugleddau a Doc Penfro, a thref sirol Hwlffordd
- ei gwneud yn haws cael mynediad i swyddi, adnoddau cymunedol ac atyniadau twristaidd
- lleihau traffig a llygredd yn Llanddewi Felffre
- ei gwneud hi'n haws i bobl sy'n byw yn Llanddewi Felffre fynd o gwmpas y pentref
- ei gwneud hi'n haws teithio ar feic, marchogaeth a cherdded
Gwnaethom nodi yn yr astudiaeth o'r A40 i'r Gorllewin o Sanclêr fod angen y cynllun hwn. Gwnaethom adolygu a diweddaru'r astudiaeth yn 2015 i gadarnhau y dylem barhau â'r prosiect hwn.
Amserlen
Ymholiadau lleol cyhoeddus: gwanwyn a hydref 2020
Gorchmynion a wnaed ar gyfer y cynllun: mawrth 2021
Caffael contractwr: hydref 2020 i haf 2021
Cychwynnodd y gwaith: haf 2021
Gorffennodd y gwaith: gwanwyn 2025
Sut gwnaethon ni ymgynghori
Ffordd Llanfallteg:
- Sesiynau galw heibio cyhoeddus yn neuaddau pentref Llanddewi Felffre a Llanfallteg ym mis Ionawr 2024
Redstone Cross:
- Digwyddiad ymgysylltu â'r gymuned yng Nghanolfan Gymunedol Bloomfield ym mis Chwefror 2024
Llanddewi Felffre i Benblewin:
- Ymgynghoriad cyhoeddus yn 2006 tra'n datblygu'r llwybr a ffefrir
- Ymgysylltu â busnesau Sir Benfro yn 2015
- Gwnaethom gynnal arddangosfeydd cyhoeddus ym mis Ebrill a mis Hydref 2017
- Cyfarfod cyn-ymchwiliad ym mis Ionawr 2020
- Ymchwiliad lleol cyhoeddus ym mis Mawrth 2020.
Rhwng Penblewin a Redstone Cross:
- Arddangosfeydd i roi gwybodaeth i'r cyhoedd ym mis Ebrill 2019
- Ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2019
- Arddangosfa i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ym mis Rhagfyr 2019
- Arddangosfa ym mis Awst 2020, yn dilyn cyhoeddi gorchmynion drafft
- Ymchwiliad lleol cyhoeddus ym mis Tachwedd 2020.
