Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am wneud coridor yr A4042 yn fwy diogel ac effeithlon i bob defnyddiwr ffordd

Statws:
Wedi ei gynllunio
Rhanbarth / Sir:
De-ddwyrain Cymru
Dyddiad dechrau:
I’w benderfynu
Dyddiad gorffen:
I’w benderfynu
Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Pam rydyn ni’n ei wneud

Y coridor presennol:

  • mae’r gyfradd gwrthdrawiadau yn uchel,
  • ychydig o gyfleoedd i feicio neu gerdded yn ddiogel.
  • ychydig o ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r prosiect hwn wedi ei restru yn ein cynllun cyflawni trafnidiaeth cenedlaethol.

Cynnydd ar hyn o bryd

Mae'r prosiect hwn yng Ngham 2 Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (WelTAG).

Cafodd ei asesu'n flaenorol fel rhan o astudiaeth coridor Cam Un. Roedd yr astudiaeth honno yn cynnwys yr A4042 rhwng Pont-y-pŵl a'r M4 gyda'r A4051 trwy Malpas.

Mae'r cam hwn yn cynnwys:

  • sefydlu ateb a ffefrir
  • arolygon amgylcheddol
  • asesu effaith y gwelliannau
  • ymgynghori â rhanddeiliaid lleol.

Amserlen

Cyhoeddi WelTAG cam 1: gaeaf 2021
Cyhoeddi WelTAG cam 2 (Interim): gwanwyn 2022
Cyhoeddi WelTAG cam 2 (terfynol): disgwyliedig 2023, i’w gadarnhau
Cyhoeddi WelTAG cam 3: disgwyliedig 2024 i 2025, yn amodol ar gyllid

Camau nesaf

Byddwn yn cwblhau Cam Dau terfynol WelTAG a’i gyhoeddi erbyn gwanwyn 2024.

Beth ydyn ni’n ei wneud

Rydym yn paratoi adroddiad pontio Cam 2 WelTAG. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun yn cydymffurfio ag argymhellion adolygu'r ffyrdd a bod amcanion y prosiect yn cyd-fynd â'r 4 prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol. 

Yna bydd atebion o'r arfarniad cam 2 sy'n cyd-fynd â'n Strategaeth Drafnidiaeth yn symud ymlaen i gam 3 WelTAG.

Image
Map yn dangos y rhannau o'r A4042 a'r A472 rydyn ni'n bwriadu eu gwella
Map yn dangos y rhannau o'r A4042 a'r A472 rydyn ni'n bwriadu eu gwella

Ymgynghoriadau

Rydym wedi ymgynghori â prif randdeiliaid a busnesau lleol ar bob cam o’r broses WelTAG. Byddwn yn parhau i wneud hynny ar gyfer Camau WelTAG yn y dyfodol.