Rydym am wella llif y traffig a chyfleusterau teithio llesol wrth gylchfan Pont-y-pŵl.
Cynnwys
Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn
Mae’r dudalen hon yn adlewyrchu ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd. Cafodd rhaglen newydd ei chyhoeddi yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth.
Byddwn yn cyhoeddi tudalennau newydd ar y wefan er mwyn adlewyrchu’r rhaglen newydd.
Crynodeb
Statws y prosiect: yn mynd rhagddo
Rhanbarth/sir: y de-ddwyrain
Dyddiad cychwyn: dechrau 2021
Dyddiad gorffen: gwanwyn 2021
Cost: £700k
Contractwyr: Alun Griffiths Ltd
Wedi'i gofrestru gyda chynllun adeiladwyr ystyriol: ydw
Beth rydym yn ei wneud
Rydym yn gwneud gwelliannau trwy:
- adeiladu troedffordd newydd sy’n cynnwys croesfan â signal i gerddwyr
- diweddaru’r marciau ffyrdd ar y gerbytffordd
- newid y dynodiadau ar lonydd ar yr A4042 i’r gylchfan tua’r gogledd.
Bydd y gwaith yn golygu:
- gwella’r marciau ar y ffordd, disgyblaeth well ar lonydd ac annog gyrwyr i ddefnyddio’r ddwy lôn i leihau’r ciwiau
- adeiladu troedffordd newydd a chroesfan i gerddwyr dros yr A4042 rhwng canghennau Lower Mill a ‘gwasanaeth’ y gylchfan
- gwaith clirio ar y llwybr yn ardal y coetir ac ardal y borfa ar ôl cynnal Dull Rhagofalus o Weithio i ystyried presenoldeb pathewod, moch daear, dyfrgwn, rhywogaethau cyffredin o fadfallod a Chlymog Japan.
- gwaith clirio’r llystyfiant yn ardal y coetir y tu allan i’r tymor nythu (1 Mawrth i 31 Awst)
- ceisio osgoi’r ardal fioamrywiol ac ailblannu blodau gwyllt
- monitro’r safle ar ôl y gwaith i sicrhau bod yr amgylchedd yn gweithio.
Pam rydym yn ei wneud
Ceir tagfeydd wrth y gyffordd hon yn ystod adegau prysur.
Mae cylchfan Pont-y-pŵl yn cysylltu’r A472 â rhwydwaith cefnffyrdd y De-ddwyrain. Ceir tagfeydd trwm wrth y gyffordd ar adegau prysur.
Mae Llywodraeth Cymru, Asiant Cefnffyrdd y De a Chyngor Tor-faen wedi bod yn cydweithio i weld beth sydd angen ei wneud.
Nid oes darpariaeth ar gyfer cerddwyr, fel croesfannau a llwybrau beicio wrth Gylchfan yr A4042 / A472. Rhaid i gerddwyr fynd ar y llain las a chroesi’r A4042 i’r gogledd o’r gylchfan pan geir bylchau yn y traffig, ac mae hynny’n beryglus.
Cynnydd presennol
Mae’r cynllun wedi bod trwy broses arfarnu Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (WelTAG).
Dechreuwyd gweithio ar y cynllun eleni.
Amserlen
Penodi’r contractwr adeiladu: dechrau 2021
Dyddiad dechrau: dechrau 2021
Dyddiad gorffen: gwanwyn 2021
Camau nesaf
Dyfarnu’r contract.
Sut rydym yn ymgynghori
Rydym wedi ymgynghori â’r prif randdeiliaid a busnesau lleol ym mhob cam o broses WelTAG.
Bydd Alun Griffiths yn rhoi gwybod i fusnesau lleol os a phan y bydd angen cau’r ffordd i osgoi tarfu diangen.