Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cysylltu’r A4232 wrth gylchfan Queensgate â Rover Way wrth gylchfan Ocean Way yn Nhremorfa.

Statws:
Wedi ei gwblhau
Rhanbarth / Sir:
De-ddwyrain
Cost:
£57.3 miliwn
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Ein rhesymau dros wneud hyn

Mae’r ffordd wedi:

  • gwella’r mynediad i Fae Caerdydd
  • gwella’r mynediad i Ardal Fenter Canol Caerdydd
  • gwella cysylltiadau o fewn Dinas-ranbarth Caerdydd

Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen

Mae’r prosiect bellach wedi ei gwblhau. Mae Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo cyfrifoldeb dros y ffordd hon a thir cysylltiedig yn ffurfiol i Gyngor Caerdydd. Nhw fydd nawr yn gyfrifol am ei chynnal a’i chadw.

Mae’r Contractwr wedi cwblhau’r cyfnod ôl-ofal o 24 mis ar gyfer tirlunio.

Rydym wedi cysylltu’r A4232 wrth gylchfan Queensgate â Rover Way wrth gylchfan Ocean Way yn Nhremorfa. 

Agorwyd Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog, ar 15 Mehefin 2017.

Rhoddwyd yr enw ‘Ffordd Ewart Parkinson’ ar y rhan hon o Ffordd Ddosbarthu Cyrion Caerdydd er cof am y diweddar Ewart Parkinson, OBE, a oedd yn swyddog cynllunio dylanwadol iawn yng Nghaerdydd.

Y prosiect

Rhan o Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae yw’r ffordd hon, yr oedd ei hangen i gwblhau ffordd ddosbarthu’r cyrion.

Ffordd ddeuol uchel ddwy lôn yw’r rhan hon sy’n 1.2 cilometr o hyd. Mae’n estyn ffordd gyswllt yr A4232 o amgylch ffin ddeuol Caerdydd o gylchfan Queensgate i gylchfan Ocean Way drwy ddociau Caerdydd.  Mae’n darparu’r rhan nesaf o ffordd ddosbarthu’r cyrion gan ddileu’r angen i draffig fynd ar y llwybr 3.5 cilometr drwy’r Cyswllt Canolog, East Tyndall Street ac Ocean Way.

Dyma fanteision y ffordd:

  • mae’n haws cyrraedd y prif safleoedd swyddi ym Mae Caerdydd ac Ardal Fenter Caerdydd Canolog
  • mae’n darparu’r rhan gyntaf o gyswllt yr A4232 o’r dwyrain â dinas-ranbarth Caerdydd, a ffordd uniongyrchol o’r A4232 i Rover Way
  • mae’n lleihau tagfeydd traffig wrth y cyffyrdd ar Tyndall Street drwy symud ymaith draffig sy’n defnyddio Ocean Way, East Tyndall Street a’r Cyswllt Canolog ar hyn o bryd
  • mae’n sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd o amgylch Caerdydd yn gallu ymdopi â’r traffig sy’n ei ddefnyddio
  • mae’n sicrhau bod ffyrdd yn fwy diogel a bod llai o ddamweiniau
  • mae’n lleihau amseroedd teithio ar gyfer defnyddwyr preifat a masnachol ar y ffyrdd
  • mae’n darparu mwy o gyfleoedd i feicio a cherdded, a chyfleoedd i fyw’n fwy iach
  • mae’n helpu i adfywio’r economi
  • mae’n darparu manteision cynaliadwy ar gyfer y gymuned leol gan gynnwys hyfforddiant a chyfleoedd am swyddi
  • mae’n gwella’r fioamrywiaeth leol.

Cynaliadwyedd a’r gymuned leol

Mae’r prosiect yn:

  • cyflogi staff a chontractwyr lleol (mae 78% o’r bobl sy’n gweithio ar y prosiect yn byw yng Nghymru)
  • cefnogi busnesau Cymru -  roedd 66% o gyfanswm gwariant y contract yng Nghymru ac roedd (42% o hyn ar fentrau bach a chanolig)
  • ailddefnyddio deunyddiau ar y safle i leihau gwastraff (cafodd 95% o’r gwastraff ei ailgylchu).

Cydweithiodd y partneriaid ag Ymddiriedolaeth y Tywysog a Chymdeithas Tai Cadwyn ar ddwy raglen i hyrwyddo gyrfaoedd ym maes adeiladu. Roedd y rhaglenni’n dod â manteision a gwelliannau i Hwb y Sblot (yr Hen Lyfrgell) a Chanolfan Cymunedol Rhostir, a darparu hyfforddiant ym maes adeiladu ar gyfer pobl ifanc. Cafodd hyfforddeion llwyddiannus eu cyflogi wedyn gan y contractwr ar ddiwedd y rhaglenni. Darllenwch fwy am y prosiect hwn ar wefan Cadwyn  (dolen allanol).

Sut aethon ni ati i ymgynghori

Fe wnaethom gyhoeddi’r Datganiad Amgylcheddol a’r Datganiad er mwyn llywio’r gwaith o asesu’n briodol, ac fe wnaethom ofyn am sylwadau rhwng 23 Rhagfyr 2015 a 3 Chwefror 2016.  Fe wnaethom gyhoeddi penderfyniad Gweinidogion Cymru ar 10 Mawrth 2016.

Ymgynghorodd Dawnus (mewn partneriaeth â Ferrovial Agroman) â Chymdeithas Porthladdoedd Prydain, busnesau lleol ac â Chyngor Dinas Caerdydd ar ddyluniad y ffordd.

Y camau nesaf

Mae’r prosiect bellach wedi ei gwblhau.

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau