
Rydym wedi troi 8km o’r A465 rhwng cyffordd Glanbaiden yng Ngilwern a chylchfan Bryn-mawr yn ddwy lôn i’r ddau gyfeiriad.
Trosolwg
Pam aethom ni ati
Cafodd yr A465 fel ag y mae ei hadeiladu yn y 1960 au ac mae’n lôn gerbydau sengl tair lôn. Mae gan y ffordd ddwy lôn i fyny’r rhiw ac un ar y goriwaered. Cynhaliwyd astudiaeth draffig ranbarthol ym 1990 a ddangosodd fod angen gwella’r ffordd.
Mae lled y ffordd yn cyfyngu ar lif y traffig ac ar gyfleoedd diogel i basio. Mae’r gwelededd yn wael sawl man arni. Mae’r rhan fwyaf o ddamweiniau’n digwydd o gwmpas y cyffyrdd a’r mannau lle ceir gwelededd gwael.
Mae gwella yr A465 yn hanfodol i adfywiad cymdeithasol ac economaidd ardal Blaenau’r Cymoedd. Bydd yn hwyluso’r cysylltiadau â gwasanaethau, swyddi a marchnadoedd allweddol. Bydd yn hwb i fuddsoddi mewn ardaloedd fel Ardal Fenter Glyn Ebwy.
Amserlen
Penodi contractwr: 2011
Arddangos gwybodaeth i’r cyhoedd: gydol 2011
Proses statudol i gael y pwerau i adeiladu’r ffordd: hydref 2013 i ddiwedd 2014
Ymchwiliad lleol cyhoeddus: gwanwyn 2014
Dechrau’r gwaith adeiladu: diwedd 2014
Cwblhau: 2022
Ôl-ofal amgylcheddol 5 mlynedd a chywiro diffygion: 2026
Beth wnaethom ni
Rydym wedi:
- agor ffordd ymuno Brynmawr tua’r gorllewin gaeaf 2021
- agor ffordd ymadael Brynmawr yr A465 tua’r gorllewin hydref 2021
- adeiladu’r pontydd troed ym Mhont Harri (ar agor ar ddechrau 2022)
Mae gwaith wedi'i wneud ar hyd y cynllun i serthu'r tir o'i gwmpas fel y gallwn ehangu'r ffordd.
Mae'r gwaith wedi cynnwys adeiladu dros 10,000m o waliau cynnal a gosod dros 14,000 o hoelion pridd.
Mae'r 2 bont ffordd yn Saleyard wedi'u cwblhau ac maent yn agored i draffig.
Mae cyfanswm o 55 o wyriadau i gyfarpar Ymgymerwyr Statudol (prif gyflenwad dŵr, prif gyflenwad nwy, llinellau ffôn a chyflenwadau trydan ac ati) wedi'u cwblhau. Mae'r rhain wedi cynnwys gwaith dargyfeirio mawr i ddau brif bibell nwy pwysedd uchel a phrif bibell ddŵr a oedd yn galw am dwnnel 1.5m o led, 100m o hyd ar ddyfnder o 20m o dan yr wyneb. Mae 100km o geblau BT wedi'u gosod a thros 20km o bibellau.
Trin nifer o hen weithfeydd glo wedi'u dadorchuddio ger cyffordd Brynmawr.
Agorwyd 'Pont Porth Jack Williams' i draffig yn 2018. Mae'r bont wedi'i henwi ar ôl arwr lleol o'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae dros 30,000 o goed wedi'u plannu o fewn ôl troed y cynllun.
Roeddem am wneud y canlynol:
- lleihau tagfeydd
- lleihau ciwio yn ystod oriau brig
- gwella ansawdd aer
- lleihau rhwystredigaeth gyrwyr
- gwella diogelwch
- gwella cysylltedd
- gwella amseroedd teithio
- gwella teithio llesol drwy lwybr defnydd a rennir ar gyfer beicwyr a cherddwyr
- gwella croesfannau i gerddwyr a beicwyr.
Sut yr aethom ati i ymgynghori
Aethom ati i ymgynghori ar y gwelliannau i’r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun ym 1994 fel rhan o’r broses o ddatblygu llwybr a ffefrir y prosiect cyfan.
Yn 2011, gwnaethom gynnal cyfres o arddangosfeydd gwybodaeth i’r cyhoedd, cyflwyniadau i grwpiau lleol a chyfarfodydd â pherchenogion tir a busnesau lleol. Casglwyd gwybodaeth yn y digwyddiadau hyn i helpu’r tîm i ddeall sut mae’r adran hon yn cyfateb i flaenoriaethau, amcanion a pholisïau lleol. Dylanwadodd hyn ar ddyluniad y cynllun.
Cynhaliwyd arddangosfeydd o’r gorchmynion drafft ym mis Tachwedd 2013. Cawsom fanylion drwy hynny o’r cynllun terfynol a’i gymryd wedyn trwy’r broses gynllunio terfynol.
Cynhaliodd arolygydd annibynnol ymchwiliad lleol cyhoeddus ym Mawrth ac Ebrill 2014, lle cafodd cefnogwyr a gwrthwynebwyr y cynllun fynegi eu barn.
Cafodd llwybrau eraill a gynigiwyd gan y gwrthwynebwyr eu hystyried mewn ymchwiliad cyhoeddus, ochr yn ochr â’r cynllun a gyhoeddwyd.