Rydym am adeiladu ffordd osgoi a chyflwyno system unffordd, i wella amseroedd teithio, cynyddu diogelwch a lleihau llygredd.
Trosolwg
Mae'r prosiect hwn yn dal i fod yn y camau cynllunio.
Rydym yn dilyn y camau a amlinellir yng Nghanllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG).
Nid yw'r cynllun yn sicr o fynd yn ei flaen eto.
Rydym am wneud y canlynol:
- adeiladu ffordd osgoi newydd i ddatrys materion trafnidiaeth yn Llandeilo a Ffair-fach
- creu system unffordd yn Stryd Rhosmaen i wneud mwy o le i gerddwyr
- ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded a beicio
- ei gwneud yn haws cael mynediad at wasanaethau bws a threnau presennol
- gwella'r gallu i wrthsefyll llifogydd
Hynt y prosiect
Rydym yn bwrw ymlaen â cham nesaf y cynllun hwn. Bydd angen i ni gasglu data a chwblhau arolygon ar gyfer y gwaith hwn, ac mae’n bosibl y bydd angen mynediad i dir preifat.
Byddwn yn cysylltu â'r holl berchnogion tir yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.
Bydd unigolion sy'n gwneud y gwaith hwn yn cario llythyrau awdurdodi gan Lywodraeth Cymru.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â hunaniaeth rhywun sy'n ceisio cael mynediad i'ch tir, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost llyw.cymru a ddarperir yn y llythyr hwn.
Camau nesaf
Byddwn yn:
- penodi contractwr i greu dyluniad amlinellol
- datblygu achos busnes llawn (WelTAG cam 3)
- datblygu'r dyluniad
- cyhoeddi unrhyw orchmynion drafft sydd eu hangen, er enghraifft: prynu tir yn orfodol
- ymgynghori â'r cyhoedd a phartneriaid lleol ar orchmynion drafft, gyda chyfleoedd i ddarparu cefnogaeth neu fynegi gwrthwynebiadau
Os daw gwrthwynebiadau i law i gynigion drafft, efallai y bydd angen Ymchwiliad Cyhoeddus.
Byddai unrhyw Ymchwiliad Cyhoeddus yn cael ei reoli gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, a fyddai'n penodi arolygydd cynllunio annibynnol.
Nid yw symud ymlaen i'r cam gorchmynion drafft yn gwarantu y bydd cynllun yn mynd yn ei flaen.
Er mwyn symud ymlaen i'r cam cyflawni (WelTAG cam 4), rhaid i arolygydd cynllunio annibynnol ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am y mater gyda’i argymhellion. Yna bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn penderfynu a ddylid cyhoeddi'r gorchmynion drafft.
Amserlen
2025
- penodi ymgynghorydd a fydd yn comisiynu contractwyr i ddatblygu’r dyluniad amlinellol
2024
- cyhoeddwyd ein llwybr a ffefrir ar gyfer y cynllun
- cyhoeddwyd crynodeb o ymatebion i ymgynghoriad cam 2 WelTAG
- cyhoeddwyd cynllun TR111, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol roi gwybod i ni am geisiadau cynllunio o fewn 67m y naill ochr a’r llall i'r llwybr a ffefrir gennym
2020
- cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar 4 opsiwn posibl (WelTAG cam 2)
- adolygwyd ymatebion i'r ymgynghoriad a chynhaliwyd dadansoddiad pellach
- gweithio gyda'r Panel Adolygu Annibynnol, awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru
2019
- cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori cyhoeddus
- lleihawyd y rhestr o opsiynau posibl o 11 i 4
2017
- gweithio i ddeall materion trafnidiaeth yn Llandeilo a Ffair-fach (WelTAG cam 1)
- crëwyd rhestr hir o 11 ateb posibl
