Neidio i'r prif gynnwy
llun o'r ffordd osgoi

Rydym wedi adeiladu ffordd osgoi o gylchfan y Goat ar gyffordd yr A499/A487 at gylchfan Plas Menai o amgylch Llanwnda, Dinas, Bontnewydd a Chaernarfon gan osgoi canol y dref.

Statws:
Wedi ei gwblhau
Rhanbarth / Sir:
gogledd Cymru
Dyddiad dechrau:
dechrau 2019
Dyddiad gorffen:
dechrau 2022
Cost:
£139 miliwn
Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Pam aethom ni ati

Roeddem am:

  • ei gwneud yn haws teithio heb dagfeydd traffig
  • ei gwneud yn haws teithio rhwng Pen Llŷn, Porthmadog, Bangor a'r A55
  • lleihau llygredd sŵn ac aer i bobl sy'n byw ar hyd yr A487
  • ei gwneud yn fwy diogel i bobl deithio rhwng trefi
  • ei gwneud yn haws i gerbydau nwyddau trwm deithio yn yr ardal
  • ei gwneud yn fwy diogel i deithio rhwng Caernarfon, Bontnewydd drwy gerdded a beicio.

Roeddem am atal:

  • ciwiau hirach wrth gylchfan y Goat ar yr A499/A487
  • llawer iawn o gerbydau'n mynd drwy bentrefi ar hyd y ffordd
  • ciwiau ac oedi ar yr A487, yn enwedig ar Gyffordd yr Eagles, cylchfannau Dewi Sant a Morrisons yng Nghaenarfon, ac ar Blas Bereton.

Beth wnaethom ni

Rydym wedi:

  • adeiladu ffordd newydd 9.8km o hyd rhwng cylchfan y Goat (cyffordd A499/A487) a Chylchfan Plas Menai gan gysylltu’r ffordd osgoi â’r A499 ac â’r A487 ffordd osgoi’r Felinheli.
  • adeiladu 17 o strwythurau newydd gan gynnwys:
    • 2 draphont, dros Afon Seiont ac Afon Gwyrfai
    • 3 pont i gario ffyrdd ymyl lleol dros y ffordd osgoi
    • 12 tanbont (gan gynnwys croesfan dros Reilffordd Eryri)
  • gosod 25 cwlfert newydd ar gyfer croesfannau dŵr ac anifeiliaid
  • newid 14 o ffyrdd ymyl lleol a ffyrdd ymyl Plas Menai a’r Goat
  • adeiladu croesfan ddiogel i feicwyr, cerddwyr a marchogion ar gylchfan y Goat er mwyn creu dilyniant gyda Lôn Eifion a'r A487 Bontnewydd.
  • adeiladu llwybr cerdded a beicio sy'n cysylltu’r man lle mae'r ffordd osgoi yn croesi Ffordd Bethel, ynghyd â llwybr i/o Fethel.

Mae’r llwybr wedi:

  • creu ffordd osgoi i'r gorllewin ar gyfer Llanwnda, Dinas a Bontnewydd
  • croesi'r A487 bresennol i'r de o Gaernarfon
  • croesi'r Afon Sieont
  • mynd heibio i'r de o ystad ddiwydiannol Cibyn i ffurfio cyffordd gyda'r A4086
  • croesi'r B4366.

Mae’r gwaith wedi golygu adeiladu 22 o strwythurau, gan gynnwys cwlfertau a phontydd. Dyma’r pontydd:

  • pont i groesi dros Reilffordd Eryri
  • traphont 300m dros Afon Seiont
  • traphont 280m dros Afon Gwyrfai a'i gorlifdiroedd
  • 4 pont a fydd yn mynd â’r ffyrdd presennol o dan neu dros y ffordd newydd.

Rydym wedi creu lle ar gyfer bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ar y ffordd hefyd, gan gynnwys:

  • creu cynefinoedd tyllu a chwilota ar gyfer llygod y dŵr
  • gosod nifer o geuffosydd er mwyn i ystlumod, pysgod a dyfrgwn fedru croesi'r ffordd
  • gosod blychau ar gyfer gwenoliaid a throchwyr ar y ddwy brif draphont
  • creu lleiniau meddal o dan un o'r traphontydd er mwyn i fywyd gwyllt fedru mynd heibio
  • gosod draeniau sy'n ystyriol o amffibiaid mewn gylïau ar y ffordd
  • defnyddio hadau lleol i blannu blodau ar hyd y lleiniau ar ymyl y ffordd.

Mae’r prosiect wedi cynnal busnesau lleol a chyflogi pobl leol. Mae rhyw £70 miliwn wedi’i wario ar fusnesau Cymreig, £12 miliwn ohono ar fentrau bach a chanolig. Gwnaeth y gweithwyr adeiladu wario rhyw £2 miliwn mewn siopau, busnesau a gwasanaethau lleol.

Byddwn hefyd yn gwella ffordd bresennol yr A487 er mwyn gwella’r cyffyrdd presennol.

Rydym hefyd wedi cydweithio â Chyngor Gwynedd er mwyn troi ffordd bresennol yr A487 drwy Caernarfon a Bontnewydd yn ffordd sirol.

Gallwch weld y llyfryn a rhagor o fanylion am y prosiect o dan adran cyhoeddiadau’r dudalen hon.

Fideo awyrol o'r gwaith ar ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd.

Amserlen

Ymarfer ymgynghori â'r cyhoedd: 2010 i 2011
Cyhoeddi'r llwybr a ffefrir: gwanwyn 2013
Penodi contractwr: diwedd 2014
Archwilio'r safle ac arolygon: gydol 2015
Dylunio cychwynnol: diwedd 2015
Arddangosfa Gorchmynion: hydref 2016
Ymchwiliad lleol cyhoeddus: haf 2017
Dechrau adeiladu'r ffordd osgoi: dechrau 2019
Agor y ffordd osgoi: dechrau 2022

Sut yr aethom ati i ymgynghori

Cyflwynwyd pedwar opsiwn osgoi i'r cyhoedd fel rhan o arddangosfa ymgynghori ym Mawrth 2010. Mynychodd 972 o bobl yr arddangosfeydd hyn a derbyniwyd 498 o holiaduron wedi'u cwblhau. Dangosodd yr ymatebion o'r holiaduron hyn fod y cyhoedd o blaid y ffordd osgoi. Cynhaliwyd ymgynghoriadau pellach tua diwedd y flwyddyn cyn i ni gyhoeddi ein llwybr dewisol.

Cawsom gyfarfodydd gyda thirfeddianwyr, busnesau a thrigolion i ddeall effeithiau'r cynllun.

Hysbysiadau diweddaraf

Cyhoeddiadau a hysbysiadau

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau

Gorchmynion

Y ddeddfwriaeth sy’n ofynnol i’r prosiect fynd yn ei flaen gan gynnwys drafftiau i’r cyhoedd wneud sylwadau arnynt

Help a chymorth

Gofyn cwestiwn ynghylch y prosiect neu adrodd am broblem

Gallwch hawlio o 18 Chwefror Tachwedd 2023 hyd 18 Chwefror 2029 am ddibrisiant tir yn sgil addasu'r briffordd.

Rhagor o wybodaeth

Mae gan Balfour Beatty Jones Brothers (Rhuthun) swyddfa ar y safle ar Ffordd Felin Seiont, Caernarfon LL55 2YL, sy’n agored yn ystod oriau busnes arferol.

I gael apwyntiadau, gallwch gysylltu â'r Swyddog Cyswllt â’r Cyhoedd, ar 07786 513571 neu drwy anfon e-bost at: A487CABB@jones-bros.com.