Neidio i'r prif gynnwy
Ardduniadol

Rydym yn cynllunio rhan newydd o’r A487 i’r gogledd o Fachynlleth, gan gynnwys pont newydd ar draws yr Afon Dyfi.

Statws:
Yn cael ei adeiladu
Dyddiad dechrau:
gwanwyn 2021
Dyddiad gorffen:
diwedd hydref 2023
Cost:
£46 miliwn (mae costau’n cael eu hadolygu yng ngoleuni pwysau chwyddiant)
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Pam ein bod yn gwneud hyn

Ni chafodd pont bresennol Pont-ar-Ddyfi ei chynllunio ar gyfer y lefelau traffig sy’n ei chroesi erbyn hyn. Mae’r ffordd ar gau’n aml oherwydd llifogydd rheolaidd ac mae hynny’n arwain at wyriad o hyd at 30 milltir i draffig.

Rydym am:

  • ei gwneud yn haws croesi Afon Dyfi
  • ei gwneud yn haws cael mynediad at wasanaethau allweddol, cyfleoedd cyflogaeth, gofal iechyd ac addysg
  • sicrhau bod Machynlleth yn parhau i fod yn ganolbwynt llewyrchus i’r gymuned
  • diogelu tirnodau ac adeiladau hanesyddol
  • gwneud yr A487 yn fwy diogel
  • helpu i atal llifogydd
  • ei gwneud yn haws i bobl i gerdded a beicio dros y bont.

Byddwn yn lleihau cymaint â phosibl effaith y gwelliannau hyn ar y dirwedd, ar fioamrywiaeth, ac ar adnoddau dŵr a threftadaeth yr ardal.

Cynnydd presennol

Dechreuodd gwaith adeiladu yng ngwanwyn 2021 ac ar hyn o bryd rydym yn paratoi’r ardal ar gyfer y prif waith adeiladu. Mae hyn yn cynnwys:

  • paratoi i adeiladu byndiau llifogydd i amddiffyn y Ganolfan Eco
  • gwaith paratoi ar gyfer adeiladu’r gyffordd ogleddol
  • cwblhau gwyriadau gwasanaeth

Fideo awyrol o'r gwaith ar bont Ddyfi newydd:

Y cynllun

Byddwn yn adeiladu ffordd unffordd newydd i ymuno â’r A487 presennol i’r de-ddwyrain o Bont-ar-Ddyfi.

Bydd y ffordd newydd yn croesi Afon Dyfi oddeutu 480m ymhellach i fyny’r afon na’r bont bresennol. Bydd y darn newydd hwn o’r ffordd yn dod yn rhan o’r A487, a byddai’r ffordd bresennol i’r gogledd o’r bont yn dod yn rhan o’r A493.

Ni fydd Llywodraeth Cymru bellach yn gyfrifoldeb am yr A493 a’r A487 bresennol i’r de o Bont-ar-Ddyfi, felly byddant yn cael eu cynnal a’u cadw gan yr awdurdodau lleol pan fydd y ffordd newydd ar agor i draffig.

Image
Image

Amserlen

Cyhoeddi’r gorchmynion drafft a’r datganiad amgylcheddol: hydref 2017
Arddangosfa’r gorchmynion: hydref 2017
Cyhoeddi’r gorchmynion draft: dechrau 2020
Dyddiad dechrau: gwanwyn 2020
Ffordd ar agor: diwedd hydref 2023

Camau nesaf

Yr haf hwn byddwn yn:

  • adeiladu byndiau llifogydd
  • gosodd cyfleusterau pwmpio brys
  • dechrau’r cloddwaith ar gyfer dec y bont newydd
  • adeiladu seilbyst a phierau i gynnal dec y bont newydd
  • adeiladu pont newydd dros Afon Dyfi
  • adeiladu trefn ffyrdd newydd ar ddau ben y cynllun
  • newid rhannau o’r ffordd bresennol fel ei bod yn cysylltu â rhwydwaith ffyrdd yr Awdurdod Lleol

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau

Help a chymorth

Gofyn cwestiwn ynghylch y prosiect neu adrodd am broblem

Dysgwch fwy

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, cysylltwch â’r Swyddog Cysylltu â’r Cyhoedd ar 0330 041 2182. Croesawir galwadau yn Gymraeg.