Bydd y prosiect hwn yn gwella’r problemau sy’n bodoli â’r bont Afon Dyfrdwy.
Trosolwg
Pam rydym yn ei wneud
Mae strwythur Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494 mewn cyflwr gwael ac mae angen ei adnewyddu.
Rydym wedi edrych ar amrywiaeth o opsiynau ac rydym yn anelu at gyflwyno cynllun a fydd yn:
- sicrhau bod y ffordd yn addas ar gyfer ceir, cerbydau nwyddau a thrafnidiaeth gyhoeddus
- galluogi pobl i gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
- blaenoriaethu diogelwch a lleihau effaith digwyddiadau neu gau ffyrdd.
Cynnydd presennol
Yn 2018, gwnaethom ymgynghori ar opsiynau i adnewyddu Pont Afon Dyfrdwy ar yr A494. Yn dilyn ein hymateb i’r Adolygiad Ffyrdd, rydym wedi adolygu ein cynlluniau i wneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd â’r polisi presennol.
Rydym wedi llunio rhestr fer o opsiynau i adnewyddu'r bont, gan gynnwys nodi’r opsiwn sy’n perfformio orau.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal ymgynghoriad ar yr opsiynau hyn.
Camau nesaf
Byddwn yn adolygu’r holl adborth ac awgrymiadau ar ôl i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben, a byddwn yn dewis yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio.
Rydym wedyn yn bwriadu cyhoeddi Gorchmynion drafft a datganiad amgylcheddol yn ystod 2025.
Byddwn hefyd yn cynnal arddangosfeydd cyhoeddus lle bydd tîm y prosiect ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Ymgynghoriadau cyhoeddus
Ar hyn o bryd rydym yn casglu barn am yr opsiynau sydd ar y rhestr fer. Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 4 Mawrth 2025.
Bydd digwyddiad wyneb yn wyneb hefyd yn cael ei gynnal yn Eglwys St Andrew, 61 Seland Avenue, Garden City, Sir y Fflint, Glannau Dyfrdwy, CH5 2HN ar 21 Ionawr rhwng 10yb a 7yh.
Yn flaenorol, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Chwefror 2019.