Neidio i'r prif gynnwy
llun ardduniadol

Rydym wedi gwella diogelwch, amseroedd teithio a llwybrau teithio llesol.

Statws:
Wedi ei gwblhau
Rhanbarth / Sir:
Conwy
Dyddiad dechrau:
haf 2020
Dyddiad gorffen:
gwanwyn 2021
Cost:
£4 miliwn
Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Pam wnaethom ni’r gwaith

Mae’r prosiect hwn (sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘Black Cat’) yn rhan o raglen Cymru gyfan fydd yn:

  • gwneud teithiau’n fwy diogel
  • ei gwneud yn haws i bobl gerdded neu feicio ar hyd y llwybr
  • lleihau’r traffig wrth gyffyrdd
  • gwella amseroedd teithio
  • gwella ansawdd aer
  • lleihau llygredd sŵn

Cafodd y prosiect ei ddylunio i weithio gyda llwybrau trafnidiaeth awdurdodau lleol i gysylltu cymunedau â chanolfannau addysgol, economaidd a diwylliannol pwysig

Amserlen

Cwblhau cam 2 WelTAG amlinellu’r achos busnes a nodi’r opsiwn a ffefrir: gwanwyn 2019
Cam 3 WelTAG achos busnes llawn a dyluniad manwl ar gyfer yr opsiwn a ffefrir: haf 2020
Cam 4 WelTAG adeiladu: gaeaf 2020/21
Cam 5 WelTAG gwireddu buddion ôl-adeiladu: gwanwyn 2021

Beth wnaethom ni

Rydyn ni wedi:

  • gwella goleuadau traffig, arwynebau’r ffyrdd a’r draeniad i wneud y ffordd yn fwy diogel ac i leihau amseroedd teithio
  • gwella llwybrau beicio a cherdded i’w gwneud hi’n haws a mwy diogel i bobl deithio heb gar
  • gwella goleuadau stryd trwy ddefnyddio bylbiau LED sy’n defnyddio dim ond ynni adnewyddadwy
  • plannu coed a blodau gwyllt i greu mwy o gynefinoedd a darparu mwy o fwyd i fywyd gwyllt.

Yn y 6 mis ers cwblhau’r gwaith cychwynnol, mae’r buddion wedi cynnwys:

  • llai o wrthdrawiadau’n cael eu cofnodi
  • 50% o gerbydau’n teithio’n arafach
  • llai o giwiau wrth gyffyrdd
  • 67% yn fwy o bobl yn defnyddio’r llwybr i deithio ar feic neu ar droed

Darparwyd y prosiect gan Asiant Cefnffyrdd y Gogledd a’r Canolbarth (NMWTRA) ar ran Llywodraeth Cymru. Comisiynwyd ymgynghorwyr a chontractwyr lleol pan roedd hynny’n bosibl.

Sut gwnaethom ni ymgynghori

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cychwynnol yn 2016.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn hydref 2019.

Ymgyngoriadau

Ymgyngoriadau yw un o’r ffyrdd i ni gael adborth ar brosiect

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau