Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol am absenoldeb oherwydd salwch staff a gyflogir yn uniongyrchol yn y GIG yng Nghymru. Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2022 ac mae data ar gyfer mis Ionawr i fis Fawrth 2022 wedi'i ddiwygio.

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), sefydlwyd casgliad data ar wahân o wybodaeth reoli ar absenoldeb oherwydd salwch staff y GIG. Mae’r wybodaeth reoli yn rhoi syniad mwy amserol o gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch, ond nid yw'n cael ei gasglu ar yr un sail â data yn y datganiad ystadegol hwn ac nid yw wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd. Am y rhesymau hyn, bydd y data yn y ddau gasgliad yn wahanol a dylai’r ystadegau swyddogol yn y datganiad hwn barhau i gael eu hystyried y ffynhonnell awdurdodol o ddata ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Cyhoeddir yr holl ddata sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Tueddiad tymor hir

Cynyddodd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch cyfartalog 12-mis yn raddol o agos i 5.0% trwy gydol 2017 i agos at 6.0% trwy gydol 2020. Yn dilyn gostyngiad bach yng ngwanwyn 2021, cynyddodd y gyfradd yn fwy sydyn gan gyrraedd 6.9% ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2022.

Tueddiad tymor byr

  • Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 6.6%, i fyny 1.1 pwynt canran o gymharu â’r chwarter yn dod i ben 30 Mehefin 2021. Dyma’r gyfradd chwarterol pedwerydd uchaf ar gofnod.
  • Ar lefel sefydliad y GIG, roedd y gyfradd yn amrywio o 9.7% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i 1.4% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
  • Ar lefel grŵp staff, roedd y gyfradd yn amrywio o 10.7% ar gyfer staff ambiwlans i 1.9% ar gyfer staff meddygol a deintyddol.

Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Image
"Siart llinell sy’n dangos y gyfradd salwch misol gwirioneddol ar gyfer y GIG yng Nghymru, ynghyd â chyfartaledd symudol 12 mis. Mae’r rhain yn dangos amrywiadau misol rhwng 4.7% a 7.7% ond mae’r cyfartaledd symudol 12 mis yn amrywio o 5.1% i 6.9% yn unig. Cynyddodd y cyfartaledd symudol 12 mis o fis Ebrill 2020 hyd at fis Ionawr 2021 yn unol â'r pandemig COVID-19; lleihaodd o Ionawr 2021 i Fehefin 2021 ond mae wedi cynyddu eto yn pedwar chwarter diweddaraf.

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn dangos amrywiad tymhorol eang drwy gydol y flwyddyn gyda chyfraddau is yn yr haf a chyfraddau uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu gwybodaeth gliriach am newidiadau hirdymor i gyfradd absenoldeb oherwydd salwch dangosir cyfartaledd symudol 12-mis yn Ffigur 1.

Mae’r cyfartaledd symudol 12-mis wedi bod yn cynyddu dros y tymor hir, gyda chynnydd mwy amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf. Cyrhaeddodd ei bwynt uchaf ar gofnod (6.9%) am y 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2022.

Wrth edrych ar y gyfradd ar gyfer misoedd unigol, y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer mis Ionawr 2022 yw’r gyfradd fisol uchaf a gofnodwyd (7.7%) ac yna mis Ebrill 2020 (7.5%). Mae’r pwyntiau uchel hyn yn cyd-fynd â thonnau’r pandemig COVID-19.

Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod (cafodd cyngor gwarchod ei ohirio o 1 Ebrill 2021), yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch hyn. Cyhoeddir cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch misol yn ôl sefydliad y GIG a grŵp staff ar StatsCymru.

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Image
Mae data ar gyfer chwarter Ebrill i Fehefin 2022 yn dangos cyfartaledd o 6.6% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio ar draws sefydliadau o 1.4% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru i 9.7% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (9.7%) o holl sefydliadau’r GIG yn Ebr-Meh 2022, gyda’r gyfradd isaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (1.4%).

Bae Abertawe oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf (7.8%) o’r holl fyrddau iechyd lleol ar gyfer y chwarter hwn, gyda’r gyfradd isaf ym Mhowys (5.9%).

Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn Ebrill i Fehefin 2022 yn uwch ym mhob un o sefydliadau’r GIG yng Nghymru oni bai am AaGIC o gymharu â’r un chwarter yn 2021.

Mae data ar gyfer pob sefydliad ar gael ar StatsCymru.

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Image
Mae data ar gyfer chwarter Ebrill i Fehefin 2022 yn dangos cyfartaledd absenoldeb oherwydd salwch o 6.6% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio o 1.9% ar gyfer Meddygol a deintyddol i 10.7% ar gyfer staff Ambiwlans.

O’r chwe grŵp staff, y staff ambiwlans oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf yn Ebrill i Fehefin 2022 (10.7%).

Staff meddygol a deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf y chwarter hwn (1.9%) fel sydd wedi bod yn wir ers dechrau casglu data yn 2009.

Yn Ebrill i Fehefin 2022, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol ym mhob grŵp staff.

Mae data ar gyfer pob grŵp staff ar gael ar StatsCymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf. Cyfrifir newidiadau pwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 230/2022