Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol am absenoldeb oherwydd salwch staff yn y GIG yng Nghymru. Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023 ac mae data ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i fis Mawrth 2023 wedi'u diwygio.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyhoeddir yr holl ddata yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Caiff cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch tymor hwy eu mesur drwy gymryd cyfradd gyfartalog y salwch ar gyfer y 12 mis cyn diwrnod olaf pob mis cyfeirio.

  • Cynyddodd y gyfradd gyfartalog 12 mis yr absenoldeb oherwydd salwch yn ystod y pandemig COVID-19 a chyrhaeddodd uchafbwynt ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf ac Awst 2022. Ers hynny, mae absenoldeb oherwydd salwch wedi bod ar duedd clir i lawr.
  • Yn y 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch gyfartalog yn 6.4%. Roedd hyn 0.6 pwynt canran yn is na’r cyfnod 12 mis blaenorol (a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2022) ond 1.0 pwynt canran yn uwch nag yn yr un cyfnod 12 mis deg mlynedd yn ôl (a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2014).

Tra bod data misol yn cael ei gyhoeddi, caiff tueddiadau tymor byr mwy sefydlog eu mesur trwy ddefnyddio’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ym mhob chwarter, er mwyn lleihau rhai o'r amrywiadau misol. Mae’r data diweddaraf ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023 yn dangos:

  • y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch oedd 5.6%, gostyngiad o 1.0 pwynt canran o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol (a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2022)
  • o gymharu sefydliadau’r GIG, roedd y gyfradd yn amrywio o 7.8% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i 2.1% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • o gymharu grwpiau staff, roedd y gyfradd yn amrywio o 9.0% ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill i 1.9% ar gyfer staff meddygol a deintyddol

Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Ffigur 1: Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn GIG Cymru fesul mis, Mehefin 2014 i Fehefin 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio o fis i fis ond roedd wedi bod ar duedd i fyny yn gyffredinol ers 2018. Roedd y cynnydd yn fwy yn ystod 2021 a dechrau 2022. Fodd bynnag, ers canol 2022 mae’r duedd wedi gostwng.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n dymhorol drwy gydol y flwyddyn gyda chyfraddau is yn yr haf a chyfraddau uwch yn y gaeaf fel arfer. Er mwyn darparu dadansoddiad mwy sefydlog o newidiadau tymor hwy, dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Ffigur 1.

Mae’r cyfartaledd symudol 12 mis wedi cynyddu dros y tymor hir. Roedd y gyfradd yn agos i 5.2% ar gyfer pob cyfnod 12 mis a ddaeth i ben rhwng Mehefin 2016 a Mehefin 2019, ond cynyddodd i’r cyfraddau uchaf ar gofnod (7.0%) am y cyfnodau 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf a 31 Awst 2022. Ers hynny mae’r gyfradd wedi gwastadu ac mae wedi disgyn ym mhob cyfnod 12 mis ers Rhagfyr 2022.

Cyrhaeddodd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch mis unigol ei uchafbwynt ym mis Rhagfyr 2022 (7.9%), mis Ionawr 2022 (7.7%), a mis Ebrill 2020 (7.5%). Mae’r cyfraddau uchel yn ystod y misoedd hyn yn cyd-fynd â thonnau’r pandemig COVID-19. Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer mis Mai 2023 (5.5%) yw’r gyfradd misol isaf ers Ebrill 2021 (5.1%).

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Ffigur 2: Cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn GIG Cymru yn ôl sefydliad, y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023 o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos bod cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n fawr fesul sefydliad y GIG ac yn uwch ymhlith Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r byrddau iechyd.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Yn y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023, roedd cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn is ym mhob un ond dau o’r 13 sefydliad o’i gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol.

Cynyddodd y gyfradd yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Fodd bynnag, y sefydliadau hyn sydd â'r gyfradd isaf a’r trydydd cyfradd isaf ar y cyd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â chyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch (7.8%) o holl sefydliadau’r GIG. Fodd bynnag, roedd hefyd â’r gostyngiad mwyaf yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch (1.9 pwynt canran) o gymharu â’r un chwarter yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Roedd y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch isaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (2.1%), Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (2.7%), Iechyd Cyhoeddus Cymru (3.3%) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (3.3%).

Roedd rhywfaint o amrywiaeth ymhlith y byrddau iechyd lleol, gyda chyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch i’w gweld ym Mae Abertawe (6.3%) a’r gyfradd isaf ym Mhowys (5.3%).

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Ffigur 3: Cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff GIG Cymru, y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023 o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos bod cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol grwpiau staff, gyda’r gyfradd yn y grwpiau cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth ac ambiwlans fwy na phedwar gwaith yn fwy nag ym meddygol a deintyddol.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Yn y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023, roedd absenoldeb oherwydd salwch yn is ym mhob grŵp staff  o'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol.

Cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill oedd â’r gyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch (9.0%). Staff meddygol a deintyddol oedd â chyfradd isaf yr absenoldeb oherwydd salwch (1.9%) fel sydd wedi bod yn wir ers i ddata gael eu casglu gyntaf yn 2009.

Roedd y newid mwyaf yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn y staff ambiwlans a ostyngodd 1.9 pwynt canran rhwng Ebrill-Mehefin 2022 (10.6%) i Ebrill-Mehefin 2023 (8.7%).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf. Cyfrifir newidiadau i bwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.

Caiff data ar nifer y Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru (a elwir hefyd yn ddata’r cyfrifiad ar staff y GIG) eu cyhoeddi bob chwarter. Noder bod mân wahaniaethau yn y ffordd y caiff grwpiau staff eu diffinio yn y ddau ddatganiad. Mae manylion am y gwahaniaethau hyn i’w gweld yn yr adroddiad ansawdd.

Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod (cafodd cyngor gwarchod ei ohirio o 1 Ebrill 2021), yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch hyn.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 90/2023