Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol am absenoldeb oherwydd salwch staff a gyflogir yn uniongyrchol yn y GIG yng Nghymru.

Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022 ac mae data ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill i fis Fehefin 2022 wedi'u diwygio.

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), sefydlwyd casgliad data ar wahân o wybodaeth reoli ar absenoldeb oherwydd salwch staff y GIG. Mae’r wybodaeth reoli yn rhoi syniad mwy amserol o gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch, ond nid yw'n cael ei gasglu ar yr un sail â data yn y datganiad ystadegol hwn ac nid yw wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd. Am y rhesymau hyn, bydd y data yn y ddau gasgliad yn wahanol a dylai’r ystadegau swyddogol yn y datganiad hwn barhau i gael eu hystyried y ffynhonnell awdurdodol o ddata ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Cyhoeddir yr holl ddata sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Tueddiad tymor hir

Caiff cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch tymor hwy eu mesur drwy gymryd cyfradd gyfartalog y salwch ar gyfer y 12 mis cyn diwrnod olaf pob mis cyfeirio. Bu cynnydd graddol yng nghyfradd gyfartalog 12 mis yr absenoldeb oherwydd salwch o agos i 5.0% drwy gydol 2017 i agos i 6.0% drwy gydol 2020. Yn dilyn gostyngiad bach yng ngwanwyn 2021, cynyddodd y gyfradd yn fwy sydyn ac roedd yn 6.9% ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022. Dyma’r bedwaredd gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf ar gyfer unrhyw gyfnod o 12 mis ers i’r data gael eu cyhoeddi gyntaf yn 2009.

Tueddiad tymor byr

  • Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch oedd 6.6%, i lawr 0.1 pwynt canran o gymharu â’r chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021. Dyma’r bedwaredd gyfradd chwarterol uchaf ar y cyd ers i’r data gael eu cyhoeddi gyntaf yn 2009.
  • O gymharu sefydliadau’r GIG, roedd y gyfradd yn amrywio o 9.1% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i 2.2% yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
  • O gymharu grwpiau staff, roedd y gyfradd yn amrywio o 10.1% ymhlith cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth eraill i 1.9% ymhlith staff meddygol a deintyddol.

Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Ffigur 1: Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn GIG Cymru fesul mis, Medi 2017 i Fedi 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio o fis i fis ond mae wedi bod ar duedd i fyny yn gyffredinol ers 2017. Mae’r cynnydd dros amser wedi bod ar ei fwyaf ers gwanwyn 2021.

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n dymhorol drwy gydol y flwyddyn gyda chyfraddau is yn yr haf a chyfraddau uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu dadansoddiad mwy sefydlog o newidiadau tymor hwy, dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Ffigur 1.

Mae’r cyfartaledd symudol 12 mis wedi bod yn cynyddu dros y tymor hir, gyda chynnydd mwy sydyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Cyrhaeddodd ei bwynt uchaf ar gofnod (7.0%) am y ddau gyfnod o 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf a 31 Awst 2022.

Wrth edrych ar y gyfradd ar gyfer misoedd unigol, y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer mis Ionawr 2022 yw’r gyfradd fisol uchaf a gofnodwyd (7.7%) ac yna mis Ebrill 2020 (7.5%). Mae’r pwyntiau uchel hyn yn cyd-fynd â thonnau’r pandemig COVID-19.

Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod (cafodd cyngor gwarchod ei ohirio o 1 Ebrill 2021), yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch hyn.

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Ffigur 2: Cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn GIG Cymru yn ôl sefydliad, y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022 o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos bod cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n fawr fesul sefydliad y GIG ac yn uwch ymhlith byrddau iechyd a’r Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Roedd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch yn 8 o’r 13 sefydliad nag yn y flwyddyn flaenorol.

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch cyffredinol ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022 oedd 6.6%, i lawr 0.1 pwynt canran o gymharu â’r chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â chyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch (9.1%) o holl sefydliadau’r GIG yn y cyfnod o fis Gorffennaf i fis Medi 2022. Fodd bynnag, roedd hefyd â’r gostyngiad mwyaf yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch (1.5 pwynt canran) o gymharu â’r un chwarter yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Roedd y cyfraddau isaf mewn dau sefydliad sy’n darparu gwasanaethau gweinyddol yn bennaf, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (2.2%) ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (2.4%).

Roedd rhywfaint o amrywiaeth ymhlith y byrddau iechyd lleol, gyda chyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch i’w gweld ym Mae Abertawe (7.7%) a’r gyfradd isaf ym Mhowys (5.9%).

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Ffigur 3: Cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff GIG Cymru, y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022 o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos bod cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol grwpiau staff, gyda’r gyfradd ymhlith ‘cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth’ a staff ambiwlans bum gwaith yn fwy nag ym meddygol a deintyddol.

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Roedd cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch y rhan fwyaf o’r grwpiau staff yn y chwarter diweddaraf yn gymharol debyg i’r cyfraddau a welwyd yn yr un chwarter y llynedd.

Gwelwyd y newid mwyaf yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ymhlith staff ambiwlans, a oedd wedi gostwng 1.4 pwynt canran ers yr un chwarter yn y flwyddyn flaenorol.

Cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth oedd â chyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch ym mis Gorffennaf i fis Medi 2022 (10.1%). Staff meddygol a deintyddol oedd â chyfradd isaf yr absenoldeb oherwydd salwch (1.9%) fel sydd wedi bod yn wir ers i ddata gael eu casglu gyntaf yn 2009.

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff a bwrdd iechyd lleol

Ffigur 4: Staff meddygol a deintyddol, Gorffennaf i Fedi 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer staff meddygol a deintyddol yn amrywio fesul bwrdd iechyd lleol, ond mae pob un o fewn un pwynt canran yn uwch neu’n is na chyfartaledd y byrddau iechyd gyda’i gilydd.

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ymhlith staff meddygol a deintyddol ar gyfer y byrddau iechyd gyda’i gilydd oedd 2.2%. Roedd hyn yn amrywio ymhlith y byrddau iechyd, ac roedd y cyfraddau ym Mhowys, Caerdydd a’r Fro a Hywel Dda yn llai na hanner y gyfradd yn Betsi Cadwaladr.

Ffigur 5: Staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, Gorffennaf i Fedi 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd yn amrywio rhwng byrddau iechyd, ond mae pob un o fewn 1.2 pwynt canran yn uwch neu’n is na chyfartaledd y byrddau iechyd gyda’i gilydd.

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ymhlith staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd ar gyfer y byrddau iechyd gyda’i gilydd oedd 8.3%. Roedd rhywfaint o amrywiaeth yn y gyfradd ymhlith y byrddau iechyd. Roedd y gyfradd ym Mhowys a Betsi Cadwaladr 2 bwynt canran o leiaf yn is na’r gyfradd ym Mae Abertawe.

Ffigur 6: Staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, Gorffennaf i Fedi 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol yn debyg ar gyfer yr holl fyrddau iechyd. Mae cyfraddau pob bwrdd iechyd o fewn 0.6 pwynt canran yn uwch neu’n is na chyfartaledd y byrddau iechyd gyda’i gilydd.

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ymhlith staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol ar gyfer y byrddau iechyd gyda’i gilydd oedd 5.3%. Nid oedd fawr ddim amrywiaeth ymhlith y byrddau iechyd, gyda gwahaniaeth o 1 pwynt canran yn unig rhwng y gyfradd uchaf (Cwm Taf Morgannwg) a’r gyfradd isaf (Caerdydd a’r Fro).

Ffigur 7: Staff gweinyddol, ystadau a thaliadau cyffredinol, Gorffennaf i Fedi 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer staff gweinyddol, ystadau a thaliadau cyffredin yn amrywio rhwng byrddau iechyd, ond mae pob un o fewn un pwynt canran yn uwch neu’n is na chyfartaledd y byrddau iechyd gyda’i gilydd.

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ymhlith staff gweinyddol ac ystadau ar gyfer y byrddau iechyd gyda’i gilydd oedd 5.6%, gan amrywio o 4.6% ym Mhowys i 6.3% yn Aneurin Bevan.

Ffigur 8: Cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth, Gorffennaf i Fedi 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart far yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth yn amrywio rhwng byrddau iechyd. Roedd y gyfradd yn is o lawer ym Mhowys na’r holl fyrddau iechyd eraill. Mae gan y byrddau iechyd eraill gyfraddau cymharol debyg, o fewn 0.8 pwynt canran yn uwch neu’n is na chyfartaledd y byrddau iechyd gyda’i gilydd.

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ymhlith cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth ar gyfer y byrddau iechyd gyda’i gilydd oedd 10.3%. Roedd y gyfradd yn y rhan fwyaf o’r byrddau iechyd o fewn 1 pwynt canran i gyfartaledd y byrddau iechyd gyda’i gilydd sef 10.3%, ond roedd y gyfradd yn is o lawer ym Mhowys (7.8%) na’r gyfradd mewn unrhyw fwrdd iechyd arall.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf. Cyfrifir newidiadau i bwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.

Caiff data ar nifer y Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru (a elwir hefyd yn ddata’r cyfrifiad ar staff y GIG) eu cyhoeddi bob chwarter. Noder bod mân wahaniaethau yn y ffordd y caiff grwpiau staff eu diffinio yn y ddau ddatganiad. Mae manylion am y gwahaniaethau hyn i’w gweld yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 16/2023