Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol ar gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru. Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2023 ac mae data ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill i fis Mehefin 2023 wedi'u diwygio.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyhoeddir yr holl ddata yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Caiff cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch tymor hwy eu mesur drwy gymryd cyfradd gyfartalog y salwch ar gyfer y 12 mis cyn diwrnod olaf pob mis cyfeirio.

  • Yn y 12 mis a ddaeth i ben ar 30 Medi 2023, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch gyfartalog yn 6.3%. Roedd hyn 0.7 pwynt canran yn is na’r 12 mis i 30 Medi 2022, ond 0.8 pwynt canran yn uwch nag yn yr un cyfnod 12 mis deg mlynedd yn ôl (12 mis i 30 Medi 2014).
  • Cynyddodd y gyfradd gyfartalog 12 mis yr absenoldeb oherwydd salwch yn ystod y pandemig COVID-19 a chyrhaeddodd uchafbwynt yn y cyfnodau 12 mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf ac Awst 2022. Ers hynny, mae’r gyfradd 12 mis wedi bod ar duedd clir i lawr ac mae ar ei hisaf ers y 12 mis a ddaeth i ben yn Hydref 2021.

Tra bod data misol yn cael ei gyhoeddi, gall fod amrywiadau mawr o fis i fis, felly caiff tueddiadau tymor byr mwy sefydlog eu mesur trwy ddefnyddio’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ym mhob chwarter. Mae’r data chwarterol diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023, ac mae’n dangos:

  • y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch oedd 6.1%, gostyngiad o 0.6 pwynt canran o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol
  • roedd y gyfradd yn amrywio o 8.8% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i 2.4% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru, wrth gymharu sefydliadau’r GIG
  • roedd y gyfradd yn amrywio o 9.7% ar gyfer staff ambiwlans i 1.8% ar gyfer staff meddygol a deintyddol, wrth gymharu grwpiau staff

Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Ffigur 1: Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn GIG Cymru yn ôl mis, Medi 2014 i Fedi 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch wedi bod ar duedd i lawr ers canol 2022, yn dilyn cyfnod o duedd i fyny yn gyffredinol yn y pum mlynedd flaenorol.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n dymhorol drwy gydol y flwyddyn gyda chyfraddau is yn yr haf a chyfraddau uwch yn y gaeaf fel arfer. Er mwyn darparu dadansoddiad mwy sefydlog o newidiadau tymor hwy, dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Ffigur 1.

Mae’r cyfartaledd symudol 12 mis wedi cynyddu dros y tymor hir. Roedd y gyfradd yn agos i 5.2% ar gyfer pob cyfnod 12 mis a ddaeth i ben rhwng Mehefin 2016 a Mehefin 2019, ond cynyddodd i’r cyfraddau uchaf ar gofnod (7.0%) am y cyfnod 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf a 31 Awst 2022. Ers hynny, mae’r gyfradd wedi gwastadu ac wedi gostwng ym mhob cyfnod 12 mis ers mis Rhagfyr 2022.

Gall cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch mis unigol amrywio’n fawr o fis i fis ac roedd yn 6.1% ym mis Medi 2023, un pwynt canran yn uwch na’r gyfradd fisol unigol isaf ers dechreuodd y pandemig COVID-19 (5.0% ym mis Awst 2020 a mis Mawrth 2021) a bron i ddau bwynt canran yn is na’r gyfradd fisol unigol uchaf (7.9% ym mis Rhagfyr 2022).

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Ffigur 2: Cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad GIG Cymru, Gorffennaf i Fedi 2023 o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos bod cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n fawr yn ôl sefydliad y GIG ac yn uwch ymhlith yr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r byrddau iechyd. 

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Yn y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2023, bu i gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch ostwng neu aros yr un fath yn 12 o’r 13 sefydliad y GIG o’i gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. 

Cynyddodd y gyfradd yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Fodd bynnag, y sefydliad hwn oedd â'r drydedd gyfradd isaf ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2023.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â chyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch (8.8%) o holl sefydliadau’r GIG, ond roedd 0.4 pwynt canran yn is na’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. 

Roedd y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch isaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (2.4%), Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (2.7%) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (2.9%). Y tri sefydliad hyn oedd â'r cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch isaf yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol hefyd.

Roedd y newid mwyaf yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a ostyngodd 1.2 pwynt canran rhwng Medi i Orffennaf 2022 (4.8%) a Medi i Orffennaf 2023 (3.7%).

Roedd rhywfaint o amrywiaeth ymhlith y byrddau iechyd lleol, gyda chyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch ym Mae Abertawe (7.0%) a’r gyfradd isaf ym Mhowys (5.3%).

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Ffigur 3: Cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff GIG Cymru, Gorffennaf i Fedi 2023 o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos bod cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol grwpiau staff. Roedd y cyfraddau ar gyfer staff ambiwlans, a chynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth fwy na phum gwaith yn fwy nag ar gyfer staff meddygol a deintyddol.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Yn y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2023, roedd cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn is ym mhob grŵp staff o'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol.

Staff ambiwlans oedd â’r gyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch (9.7%), ychydig yn uwch na’r gyfradd ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth (9.3%). 

Staff meddygol a deintyddol oedd â chyfradd isaf yr absenoldeb oherwydd salwch (1.8%) fel sydd wedi bod yn wir ers i ddata gael eu casglu gyntaf yn 2009.

Roedd y newid mwyaf yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn y grwpiau staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, a chynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth. Gostyngodd y ddau grŵp 0.8 pwynt canran o’i gymharu â Gorffennaf i Fedi 2022.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf. Cyfrifir newidiadau i bwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.

Caiff data ar nifer y Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru (a elwir hefyd yn ddata’r cyfrifiad ar staff y GIG) eu cyhoeddi bob chwarter. Noder bod mân wahaniaethau yn y ffordd y caiff grwpiau staff eu diffinio yn y ddau ddatganiad. Mae manylion am y gwahaniaethau hyn i’w gweld yn yr adroddiad ansawdd. Mae ystadegau cyflenwol ar nifer y swyddi gwag yn GIG Cymru hefyd yn cael eu cyhoeddi.

Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod (cafodd cyngor gwarchod ei ohirio o 1 Ebrill 2021), yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch hyn.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

The statistics included in this release could also provide supporting narrative to the national indicators and be used by public services boards in relation to their local wellbeing assessments and local wellbeing plans.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 7/2024