Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022 ac mae data ar gyfer mis Hydref i fis Rhagfyr 2021 wedi'i ddiwygio.

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), sefydlwyd casgliad data ar wahân o wybodaeth reoli (StatsCymru) ar absenoldeb oherwydd salwch staff y GIG. Mae’r wybodaeth reoli yn rhoi syniad mwy amserol o gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch, ond nid yw'n cael ei gasglu ar yr un sail â data yn y datganiad ystadegol hwn ac nid yw wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd. Am y rhesymau hyn, bydd y data yn y ddau gasgliad yn wahanol a dylai’r ystadegau swyddogol yn y datganiad hwn barhau i gael eu hystyried y ffynhonnell awdurdodol o ddata ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Cyhoeddir yr holl ddata sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Tueddiadau tymor hir

Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch cyfartalog 12 mis wedi cynyddu’n raddol o agos i 5.0% trwy gydol 2017 i agos at 6.0% trwy gydol 2020. Gostyngodd y gyfradd ychydig yng ngwanwyn 2021 cyn cynyddu’n fwy sydyn yn y misoedd canlynol, gan gyrraedd 6.7% ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022. Dyma’r gyfradd uchaf ers cyhoeddwyd data am y tro cyntaf yn 2009.

Chwarter yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022

  • Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 7.2%, i fyny 1.5 pwynt canran o gymharu â’r chwarter yn dod i ben 31 Mawrth 2021. Dyma’r gyfradd chwarterol ail uchaf ar gofnod.
  • Ar lefel sefydliad y GIG, roedd y gyfradd yn amrywio o 11.7% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i 2.2% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
  • Ar lefel grŵp staff, roedd y gyfradd yn amrywio o 13.5% ar gyfer staff ambiwlans i 2.3% ar gyfer staff meddygol a deintyddol.

Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf. Cyfrifir newidiadau pwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.

Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Image
Siart llinell sy’n dangos y gyfradd salwch misol gwirioneddol ar gyfer y GIG yng Nghymru, ynghyd â chyfartaledd symudol 12 mis. Mae’r rhain yn dangos amrywiadau misol rhwng 4.6% a 7.7% ond mae’r cyfartaledd symudol 12 mis yn amrywio o 5.1% i 6.7% yn unig. Cynyddodd y cyfartaledd symudol 12 mis o fis Ebrill 2020 hyd at fis Ionawr 2021 yn unol â'r pandemig COVID-19; lleihaodd o Ionawr 2021 i Fehefin 2021 ond mae wedi cynyddu eto yn tri chwarter diweddaraf.

Absenoldeb oherwydd salwch ar StatsCymru

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn dangos amrywiad tymhorol eang drwy gydol y flwyddyn gyda chyfraddau is yn yr haf a chyfraddau uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu gwybodaeth gliriach am newidiadau hirdymor i gyfradd absenoldeb oherwydd salwch dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Siart 1.

Mae’r siart yn dangos bod y cyfartaledd symudol 12 mis ar ei uchaf ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022. Mae’r siart hefyd yn dangos mai cyfradd absenoldeb oherwydd salwch mis Ionawr 2022 yw’r gyfradd fisol uchaf a gofnodwyd (7.7%) wedi ei ddilyn gan fis Ebrill 2020 (7.5%) sydd yn cyd-fynd â thonnau’r pandemig COVID-19.

Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod (cafodd cyngor gwarchod ei ohirio o 1 Ebrill 2021), yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch hyn. Cyhoeddir cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch misol yn ôl sefydliad y GIG (StatsCymru) a grŵp staff (StatsCymru) ar StatsCymru.

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Image
Mae data ar gyfer chwarter Ionawr i Fawrth 2022 yn dangos cyfartaledd o 7.2% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio ar draws sefydliadau o 2.2% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru i 11.7% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad a dyddiad ar StatsCymru

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (11.7%) o holl sefydliadau’r GIG y chwarter hwn, gyda’r gyfradd isaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (2.2%).

Bae Abertawe oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf (8.6%) o’r holl fyrddau iechyd lleol ar gyfer y chwarter hwn, gyda’r gyfradd isaf ym Mhowys (6.3%).

O gymharu â’r un chwarter yn 2021, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022 yn uwch ym mhob un o sefydliadau’r GIG yng Nghymru.

Mae data ar gyfer pob sefydliad ar gael ar StatsCymru.

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Image
Mae data ar gyfer chwarter Ionawr i Mawrth 2022 yn dangos cyfartaledd absenoldeb oherwydd salwch o 7.2% ar gyfer Cymru. Mae hyn yn amrywio o 2.3% ar gyfer Meddygol a deintyddol i 13.5% ar gyfer staff Ambiwlans.

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru

O’r chwe grŵp staff, y staff ambiwlans oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf y chwarter hwn (13.5%).

Staff meddygol a deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf y chwarter hwn (2.3%) fel sydd wedi bod yn wir ers dechrau casglu data yn 2009.

Yn y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch o gymharu â’r flwyddyn flaenorol ym mhob grŵp staff.

Mae data ar gyfer pob grŵp staff ar gael ar StatsCymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 183/2022