Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol am absenoldeb oherwydd salwch staff yn y GIG yng Nghymru. Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 ac mae data ar gyfer y cyfnod o fis Hydref i fis Rhagfyr 2022 wedi'u diwygio.

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Cyhoeddir yr holl ddata yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Caiff cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch tymor hwy eu mesur drwy gymryd cyfradd gyfartalog y salwch ar gyfer y 12 mis cyn diwrnod olaf pob mis cyfeirio.

  • mae’r gyfradd gyfartalog 12 mis yr absenoldeb oherwydd salwch wedi bod ar gynnydd ers 2018; cynyddodd y duedd i fyny yn fwy sydyn yn ystod 2021 a 2022 ond mae wedi gwastadu ac wedi dechrau lleihau yn y chwarteri diweddar
  • yn y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch gyfartalog yn 6.6%, 0.1 pwynt canran yn is na’r cyfnod 12 mis blaenorol (a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022) a 1.2 pwynt canran yn uwch na’r cyfnod 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2014

Tra bod data misol yn cael ei gyhoeddi, caiff tueddiadau tymor byr eu mesur trwy ddefnyddio’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ym mhob chwarter, er mwyn lleihau rhai o'r amrywiadau misol. Mae’r data diweddaraf ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 yn dangos:

  • y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch oedd 6.3%, gostyngiad o 1.0 pwynt canran o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol (a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022)
  • o gymharu sefydliadau’r GIG, roedd y gyfradd yn amrywio o 8.5% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i 3.0% ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • o gymharu grwpiau staff, roedd y gyfradd yn amrywio o 9.9% ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill i 2.1% ar gyfer staff meddygol a deintyddol

Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch

Ffigur 1: Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn GIG Cymru fesul mis, Mawrth 2014 i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio o fis i fis ond mae wedi bod ar duedd i fyny yn gyffredinol ers 2018. Roedd y cynnydd yn fwy yn ystod 2021 a dechrau 2022. Fodd bynnag, mae’r duedd wedi gwastadu ac wedi dechrau lleihau yn y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Mae absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n dymhorol drwy gydol y flwyddyn gyda chyfraddau is yn yr haf a chyfraddau uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu dadansoddiad mwy sefydlog o newidiadau tymor hwy, dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Ffigur 1.

Mae’r cyfartaledd symudol 12 mis wedi bod yn cynyddu dros y tymor hir a chyrhaeddodd ei bwynt uchaf ar gofnod (7.0%) am y ddau gyfnod o 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf a 31 Awst 2022. Yn fwy diweddar mae'r duedd wedi gwastadu ac wedi dechrau lleihau.

Cyrhaeddodd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch mis unigol ei uchafbwynt ym mis Rhagfyr 2022 (7.9%), mis Ionawr 2022 (7.7%), a mis Ebrill 2020 (7.5%). Mae’r cyfraddau uchel yn ystod y misoedd hyn yn cyd-fynd â thonnau’r pandemig COVID-19.

Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod (cafodd cyngor gwarchod ei ohirio o 1 Ebrill 2021), yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch hyn.

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG

Ffigur 2: Cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn GIG Cymru yn ôl sefydliad, y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos bod cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n fawr fesul sefydliad y GIG ac yn uwch ymhlith Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a’r byrddau iechyd.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad ar StatsCymru

Yn y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023, roedd cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn is ym mhob un ond un o’r 13 sefydliad o’i gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol.

Cynyddodd y gyfradd yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Fodd bynnag, y sefydliad hwn sydd â'r gyfradd isaf ar y cyd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023.

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â chyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch (8.5%) o holl sefydliadau’r GIG. Fodd bynnag, roedd hefyd â’r gostyngiad mwyaf yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch (3.3 pwynt canran) o gymharu â’r un chwarter yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Roedd y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch isaf ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (3.0%), Addysg a Gwella Iechyd Cymru (3.0%), ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (3.1%).

Roedd rhywfaint o amrywiaeth ymhlith y byrddau iechyd lleol, gyda chyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch i’w gweld ym Mae Abertawe (7.2%) a’r gyfradd isaf ym Mhowys (5.2%).

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff

Ffigur 3: Cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff GIG Cymru, y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 o gymharu â’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos bod cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol grwpiau staff, gyda’r gyfradd yn y grwpiau cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth ac ambiwlans bron i bum gwaith yn fwy nag ym meddygol a deintyddol.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Yn y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023, roedd absenoldeb oherwydd salwch yn is ym mhob grŵp staff  o'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol.

Cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill oedd â’r gyfradd uchaf yr absenoldeb oherwydd salwch (9.9%). Staff meddygol a deintyddol oedd â chyfradd isaf yr absenoldeb oherwydd salwch (2.1%) fel sydd wedi bod yn wir ers i ddata gael eu casglu gyntaf yn 2009.

Roedd y newid cyfradd absenoldeb oherwydd salwch chwarterol mwyaf ar gyfer staff ambiwlans a leihaodd 4.3 pwynt canran, o 13.6% i 9.2%.

Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff a bwrdd iechyd lleol

Ffigur 4: Staff meddygol a deintyddol, Ionawr i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer staff meddygol a deintyddol yn amrywio fesul bwrdd iechyd lleol, ond mae pob un o fewn 1.1 pwynt canran yn uwch neu’n is na chyfartaledd y byrddau iechyd gyda’i gilydd.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ymhlith staff meddygol a deintyddol ar gyfer y byrddau iechyd gyda’i gilydd oedd 2.2%. Roedd hyn yn amrywio ymhlith y byrddau iechyd. Roedd y gyfradd ym Mhowys 1.5 pwynt canran yn uwch na’r gyfradd yn Aneurin Bevan.

Ffigur 5: Staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd, Ionawr i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn amrywio rhwng byrddau iechyd, ond mae pob uno fewn un pwynt canran yn uwch neu’n is na chyfartaledd y byrddau iechyd gyda’i gilydd, ac eithrio Powys sydd â chyfradd is.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ymhlith staff nyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd ar gyfer y byrddau iechyd gyda’i gilydd oedd 7.5%. Roedd rhywfaint o amrywiaeth yn y gyfradd ymhlith y byrddau iechyd. Roedd y gyfradd ym Mhowys 2.3 pwynt canran yn is na’r gyfradd yng Nghaerdydd a’r Fro.

Ffigur 6: Staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol, Ionawr i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol yn debyg ar gyfer y rhan fwyaf o’r byrddau iechyd. Mae cyfraddau pob bwrdd iechyd, ac eithrio Powys, o fewn un pwynt canran yn uwch neu’n is na chyfartaledd y byrddau iechyd gyda’i gilydd.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ymhlith staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol ar gyfer y byrddau iechyd gyda’i gilydd oedd 5.0%. Roedd rhywfaint o amrywiaeth yn y gyfradd ymhlith y byrddau iechyd. Roedd y gyfradd ym Mae Abertawe 2.5 pwynt canran yn uwch na’r gyfradd ym Mhowys.

Ffigur 7: Staff gweinyddol, ystadau a thaliadau cyffredinol, Ionawr i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer staff gweinyddol, ystadau a thaliadau cyffredin yn amrywio rhwng byrddau iechyd, ond mae pob un o fewn un pwynt canran yn uwch neu’n is na chyfartaledd y byrddau iechyd gyda’i gilydd.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ymhlith staff gweinyddol ac ystadau ar gyfer y byrddau iechyd gyda’i gilydd oedd 5.7%. Roedd rhywfaint o amrywiaeth yn y gyfradd ymhlith y byrddau iechyd. Roedd y gyfradd ym Mae Abertawe 1.5 pwynt canran yn uwch na’r gyfradd ym Mhowys.

Ffigur 8: Cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth, Ionawr i Fawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart far yn dangos bod y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth yn amrywio mwy rhwng byrddau iechyd na grwpiau staff eraill. Roedd y cyfraddau yng Nghwm Taf Morgannwg a Bae Abertawe bron ddwywaith y gyfradd ym Mhowys.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff ar StatsCymru

Y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch ymhlith cynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth ar gyfer y byrddau iechyd gyda’i gilydd oedd 10.0%. Roedd y gyfradd yn y rhan fwyaf o’r byrddau iechyd o fewn 1.9 pwynt canran i gyfartaledd y byrddau iechyd gyda’i gilydd. Fodd bynnag, roedd y gyfradd yn amrywio o 11.9% yng Nghwm Taf Morgannwg i 6.4% ym Mhowys.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf. Cyfrifir newidiadau i bwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.

Caiff data ar nifer y Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru (a elwir hefyd yn ddata’r cyfrifiad ar staff y GIG) eu cyhoeddi bob chwarter. Noder bod mân wahaniaethau yn y ffordd y caiff grwpiau staff eu diffinio yn y ddau ddatganiad. Mae manylion am y gwahaniaethau hyn i’w gweld yn yr adroddiad ansawdd.

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), sefydlwyd casgliad data ar wahân o wybodaeth reoli ar absenoldeb oherwydd salwch staff y GIG (StatsCymru. Roedd y wybodaeth reoli yn rhoi syniad mwy amserol o gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch, ond nid oedd yn cael ei gasglu ar yr un sail â data yn y datganiad ystadegol hwn ac nid oedd wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd. Am y rhesymau hyn, bydd y data yn y ddau gasgliad yn wahanol a dylai’r ystadegau swyddogol yn y datganiad hwn barhau i gael eu hystyried y ffynhonnell awdurdodol o ddata ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 64/2023