Neidio i'r prif gynnwy

Bwriedir creu academi newydd i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o radiolegwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes delweddu yng Nghymru, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Academi Ddelweddu Genedlaethol newydd Cymru, sy'n cael ei sefydlu gyda chyllid o  £3.4m oddi wrth Lywodraeth Cymru, yn cael ei lleoli ym Mhen-coed, Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y cyfleuster arloesol newydd sydd wedi'i ddylunio'n bwrpasol yn caniatáu ar gyfer cynnydd mewn capasiti i hyfforddi radiolegwyr clinigol yng Nghymru. Disgwylir i'r Academi ddechrau gweithredu erbyn canol 2018.

Bydd yr academi newydd yn darparu amgylchedd arloesol a modern ar gyfer hyfforddiant arbenigol i wella profiad dysgu hyfforddeion mewn partneriaeth â'r ddarpariaeth hyfforddi bresennol mewn safleoedd ysbytai ledled De Cymru.

Bydd yn helpu i gyflwyno cwricwlwm Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (RCR) mewn amgylchedd pwrpasol trwy ystafelloedd gweithfannau, hyfforddiant ffugio a darlithfa. Bydd radiolegwyr ymgynghorol ar draws y De'n darparu seminarau a goruchwyliaeth i hyfforddeion ar astudiaethau delweddu, gan gynnwys dehongli pelydr-X, sganiau CT ac MRI.

Ar y dechrau, bydd yr academi yn canolbwyntio ar hyfforddi radiolegwyr ond bydd yn ymestyn i gynnwys radiolegwyr, sonograffwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes delweddu sy'n hanfodol i sicrhau gweithlu delweddu cynaliadwy at y dyfodol.

Bydd ei sefydlu'n caniatáu ar gyfer cynnydd yn y gweithlu delweddu clinigol a nifer y radiolegwyr clinigol hyfforddedig yng Nghymru, a fydd, yn ei dro, yn gwella gwasanaethau i gleifion ledled Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd:

"Dw i wrth fy modd yn cymeradwyo pecyn ariannu o  £3.4m i sefydlu Academi Ddelweddu Genedlaethol newydd Cymru.

“Mae radiolegwyr a'r rhai yn y gweithlu delweddu yn chwarae rôl o bwys wrth gefnogi staff meddygol a chlinigol gydag ymchwiliadau delweddu ac adroddiadau amserol, sy'n caniatáu i feddygon ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion.

“Bydd gan yr academi newydd rôl bwysig wrth ganiatáu inni gynyddu nifer y radiolegwyr hyfforddedig yn GIG Cymru i sicrhau gweithlu cynaliadwy, o safon uchel at y dyfodol."

Dywedodd Dr Phillip Wardle, Radiolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Arweinydd Clinigol Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru:

“Rydyn ni wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru a'r Byrddau Iechyd yn cefnogi sefydlu Academi Ddelweddu Genedlaethol  Cymru. Bydd yr academi yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu delweddu a radioleg glinigol, gan roi i Gymru weithlu radiolegwyr o ansawdd uchel a chynaliadwy  at y dyfodol.

“Bydd yr academi yn hwyluso cynnydd sylweddol yn y capasiti ar gyfer hyfforddiant radioleg, gan ddynwared modelau academi eraill mewn rhannau eraill o'r DU.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn symud i fodel academi o hyfforddiant a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa o ran y gweithlu delweddu a chyflawni nodau ac uchelgais GIG Cymru ar gyfer diagnosteg a gwell canlyniadau i gleifion.”

Y bwriad yw y bydd yr academi yn dal i ddatblygu, gan ddod yn ganolfan ar gyfer arloesi ac ymchwil ac i chwarae rôl yn addysg a hyfforddiant y gweithlu delweddu ehangach yn GIG Cymru, megis radiolegwyr a sonograffwyr.