Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop, wedi cadarnhau presenoldeb haint Ffliw Adar Hynod Bathogenig H5N1 ar ddau safle masnachol gwahanol ym Mhowys - un ger y Drenewydd ac un ger y Trallwng.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop, wedi cadarnhau presenoldeb haint Ffliw Adar Hynod Bathogenig H5N1 ar ddau safle masnachol gwahanol ym Mhowys - un ger y Drenewydd ac un ger y Trallwng.

Mae gan y ddau eiddo ffesantod ar y safle.

Mae Parth Gwarchod 3km, Parth Goruchwylio 10km, a Pharth Cyfyngedig 10km wedi’u datgan o amgylch y ddau safle sydd wedi’u heintio, er mwyn cyfyngu ar y risg o ledaenu’r clefyd.

Yn yr ardaloedd hyn, mae symud adar a’u cynnull wedi’i gyfyngu a rhaid datgan unrhyw ddofednod sy’n cael eu cadw. Mae'r mesurau'n llymach yn y Parth Gwarchod 3km. Mae gwybodaeth lawn ar gael yma.

Mae hydref a gaeaf 2021/2022 wedi gweld niferoedd digynsail o achosion o ffliw adar yn Ewrop ac mae’r achosion hyn yn creu cyfanswm o bump o achosion mewn dofednod ac adar caeth eraill yng Nghymru.

Mae’r mesurau yn y Parthau Gwarchod, Goruchwylio a Chyfyngedig yn ychwanegol at ofynion bioddiogelwch a chartrefu, a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2021 fel rhan o’r Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ), sy’n berthnasol i Gymru a Phrydain Fawr gyfan. Mae'r AIPZ yn gorchymyn mesurau bioddiogelwch llym i atal feirws y ffliw adar sy'n cael ei gludo gan adar gwyllt rhag dod i gysylltiad ag adar cadw, drwy gartrefu neu rwydo adar er mwyn lleihau'r risg o ymledu'n uniongyrchol a mynnu mesurau bioddiogelwch llymach ar safleoedd.

Mae’r risg i iechyd y cyhoedd yn gyffredinol o’r ffliw adar yn isel iawn. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori bod ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr, ac nid yw'n effeithio ar y defnydd o gynhyrchion dofednod, gan gynnwys wyau.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop:

Mae’r achosion hyn o ffliw adar yng Nghymru yn destun pryder, ac mae tystiolaeth nad yw’r risg i’n hadar ni wedi lleihau.

Rhaid i geidwaid adar fod yn wyliadwrus a sicrhau bod ganddyn nhw’r lefelau bioddiogelwch uchaf yn eu lle. Mae mwy y gellir ei wneud bob amser i ddiogelu eich adar.

Rwy’n annog pawb i wneud popeth o fewn eu gallu. Unwaith eto, adolygwch yr holl fesurau sydd yn eu lle a nodi unrhyw feysydd i'w gwella. Meddyliwch am risgiau o ddod i gysylltiad uniongyrchol ag adar gwyllt, yn enwedig adar dŵr a hefyd unrhyw beth a allai fod wedi’i heintio gan faw adar – dillad ac esgidiau, offer, cerbydau, bwyd anifeiliaid a’u gwely. Gwnewch welliannau lle gallwch chi i atal y clefyd dinistriol yma rhag lledaenu ymhellach o fewn ein poblogaeth o adar dof.

Mae mesurau cartrefu mewn grym i warchod dofednod ac adar cadw, ond dim ond pan gânt eu cyfuno â gweithredu’r mesurau bioddiogelwch llymaf mae mesurau cartrefu’n effeithiol.

Rhaid hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith am unrhyw amheuaeth o ffliw adar neu unrhyw glefyd arall y dylid rhoi gwybod amdano.

Anogir aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw adar marw maent yn dod ar eu traws. Gellir casglu'r rhain i'w harchwilio ac ar gyfer goruchwylio’r ffliw adar, yn dibynnu ar y rhywogaeth a'r lleoliad.

Mae'n bwysig peidio â chodi na chyffwrdd unrhyw aderyn sâl neu farw. Rhowch wybod i linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am adar gwyllt marw a chael gwared arnynt ar gael yn: https://gov.wales/report-and-dispose-dead-birds

Gellir dod o hyd i fap rhyngweithiol o’r parthau rheoli’r ffliw adar sydd ar waith ar hyn o bryd ledled Prydain Fawr yma.

Nodiadau i’w cyhoeddi

Cyfrifoldebau pobl sy’n cadw adar

  • Dylai pawb sy'n cadw adar fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd, fel mwy o farwolaethau, gofid wrth anadlu, a bwyta neu yfed llai, neu gynhyrchu llai o wyau. 
  • Ymgynghorwch â'ch milfeddyg i ddechrau os yw'ch adar yn sâl.
  • Os ydych chi neu'ch milfeddyg yn amau y gallai ffliw adar fod yn achosi salwch yn eich adar, mae'n rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, hysbysu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am hyn. Bydd hyn yn sbarduno ymchwiliad i glefyd gan filfeddygon APHA.
  • Rhaid i chi gadw dofednod dan do, a'u cadw ar wahân i adar dŵr fel hwyaid a gwyddau, yn adar cadw a gwyllt.
  • Rhaid i chi ddefnyddio mesurau bioddiogelwch llym i atal unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, bwyd neu wely anifeiliaid a allai fod wedi'u llygru gan adar gwyllt rhag dod i'ch safle. Mae manylion llawn a rhestr wirio ar gael yma: https://llyw.cymru/bioddiogelwch-ac-atal-afiechyd-mewn-adar-caeth 

Cyngor ar gyfer y cyhoedd 

  • Golchwch, ac os yw hynny’n bosibl, diheintiwch esgidiau a dwylo cyn gadael llefydd sydd â nifer fawr o adar dŵr – ee parciau a gwarchodfeydd adar
  • Rhowch wybod am adar marw (ond peidiwch â’u cyffwrdd).
  • Parhewch i fwydo adar yr ardd, gan weithredu mesurau diogelu hylendid sylfaenol fel golchi dwylo ar ôl cyffwrdd â gorsafoedd bwydo, a'u cadw'n lân.