Adam Price AS Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Cynnwys
Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol
- Cymorth a chyngor i helpu busnesau i sefydlu, tyfu neu ddatblygu (gan gynnwys cymorth allforio a mewnfuddsoddi)
- Polisi a hyrwyddo Masnach Ryngwladol, gan gynnwys cydgysylltu materion yn ymwneud â Masnach rhwng y DU a'r UE
- Strategaeth a pholisi economaidd
- Y Cyflog Byw
- Porthladdoedd Rhydd
- Polisi ffiniau
- Cymru Greadigol
- Busnes Cymru
- Entrepreneuriaeth, menter a gwybodaeth fusnes
- Banc Datblygu Cymru
- Banc Cymunedol
- Yr Economi Sylfaenol
- Menter Gymdeithasol, yr economi gymdeithasol, a'r economi gydweithredol
- Bargeinion Dinesig / Twf a Chronfeydd Strwythurol / Buddsoddi Rhanbarthol yn y Dyfodol (gan weithio gyda'r Gweinidog Cabinet dros Gyllid a'r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol)
- Caffael, rheoli a gwaredu asedau eiddo dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â datblygu economaidd
- Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer arferion busnes cyfrifol, twf a chystadleurwydd
- Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol
- Annog budd economaidd o ddigwyddiadau mawr
- Polisi cyflogadwyedd Ieuenctid ac Oedolion, a chyflawni hynny
- Manwerthu
- Twristiaeth
- Strategaeth y Sector Lletygarwch
- Polisi a strategaeth ynni gan gynnwys cynhyrchu ynni ar raddfa fach a chanolig, ynni domestig, ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni, trosglwyddo a dosbarthu
- Cysylltiadau rhynglywodraethol ar bwerau ynni a gedwir yn ôl
- Ynni Cymru
- Seilwaith cysylltedd digidol, gan gynnwys Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus, band eang cyflym a'r rhwydwaith symudol
- Polisi a Strategaeth Digidol a Data ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys AI
- Cynhwysiant Digidol
- Goruchwyliaeth hyd braich o Faes Awyr Caerdydd
- Ymchwil ac Arloesi, gan gynnwys ymchwil a datblygu, trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio; manteisio i'r eithaf ar incwm ymchwil ac arloesi, a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil
- Gwyddoniaeth: datblygu polisi gwyddoniaeth, gan gynnwys cyswllt â Phrif Gynghorydd Gwyddonol Cymru
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Fulbright i Adam Price i astudio yn y brifysgol o fri rhyngwladol, Harvard. Astudiodd ar gyfer gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus yno. Aeth yn ei flaen i ddod yn Gymrawd yn y Ganolfan Datblygu Rhyngwladol yn Ysgol Lywodraeth John F. Kennedy yn Harvard.
Yn 2014 enillodd y Fedal Efydd yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Efrog Newydd am ei raglen ddogfen ar Streic y Glowyr ym 1984-1985. Yn 2015 cafodd ei gyfres pedair rhan ddwy Wobr BAFTA Cymru.
Hanes personol
Cafodd Adam Price ei eni yng Nghaerfyrddin i deulu glöwr a chafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman ac yna ym Mhrifysgol Caerdydd lle y graddiodd gyda BSc (Econ).
Cefndir proffesiynol
Mae’n gyn-Reolwr Gyfarwyddwr i Newidiem, ymgynghoriaeth polisi ac economeg sy'n gweithredu ledled y DU, ac yn gyn-Gyfarwyddwr Gweithredol yr asiantaeth datblygu economaidd a newid diwylliannol yng Nghymru, Menter a Busnes.
Cyn cael ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, roedd yn gweithio fel Uwch Reolwr Rhaglen i Nesta, Sefydliad Arloesedd yn y DU.
Hanes gwleidyddol
Mae Adam Price yn gyn-Aelod Seneddol, ac roedd yn cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 2001 a 2010.
Roedd yn frwd ei wrthwynebiad i Ryfel Irac a rôl Tony Blair yn y rhyfel, ac arweiniodd ymgais, ochr yn ochr ag aelodau eraill o Blaid Cymru a'r SNP, i uchelgyhuddo Tony Blair. Cafodd ei daflu allan o siambr Tŷ'r Cyffredin ar 17 Mawrth 2005 am wrthod tynnu'n ôl ei ddatganiad yn cyhuddo Tony Blair o fod wedi camarwain y Senedd.
Cychwynnodd Price ddadl dair awr ar ymchwiliad i Ryfel Irac, gan arwain at sefydlu Ymchwiliad Chilcot.
Yn ystod ei amser yn Nhŷ'r Cyffredin gwasanaethodd ar y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, a bu'n llefarydd Plaid Cymru ar gyfer y Trysorlys, Busnes, Arloesedd a Sgiliau.
Ef oedd yr unig Aelod Seneddol o Gymru i gadw cefnogaeth y cyhoedd yn arolwg ar-lein y Western Mail ynglŷn ag Aelodau Seneddol yn ystod y sgandal treuliau yn 2009. Cafodd ei enwi yn Gyfathrebwr y Flwyddyn yng ngwobrau rhaglen AM.PM y BBC yn 2007, ac enillodd wobr Gwleidydd Ymgyrchu y Flwyddyn yn 2005 yng Ngwobrau Gwleidyddol Cymru ITV.
Ar 13 Mai 2026 penodwyd Adam Price yn Weinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni.
