Daeth yr ymgynghoriad i ben 24 Hydref 2025.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am eich barn ar gynigion i wneud newidiadau penodol a chyfyngedig i'r Fanyleb Addasiadau Resymol i sicrhau nad yw dysgwyr yng Nghymru sydd ag amhariadau a/neu anableddau yn cael eu hatal rhag cael mynediad at gymwysterau.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar gynigion i wneud rheol eithriadol ar eithrio asesiad ar gyfer cymwysterau TGAU penodol. Cynigir y rheolau eithriadol hyn i ganiatáu i gyrff dyfarnu gymhwyso'r ddarpariaeth ar gyfer esemptiadau er mwyn i ddysgwyr ag amhariadau a/neu anableddau penodol allu cael mynediad at y cymwysterau penodol hyn.
Dyma'r rheolau eithriadol a gynigir:
- Ychwanegu eithriad ar gyfer TGAU Cymraeg Craidd, fel y gellir esemptio 50% o asesiadau’r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
- Ar gyfer y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol, cynigir ychwanegu eithriad fel y gellir esemptio 50% (yn hytrach na 40%) o asesiadau’r cymhwyster fel addasiad rhesymol lle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael, ar gyfer y dysgwyr hynny a fydd yn cael eu hasesu yn erbyn y cymhwyster hwnnw yng nghyfres arholiadau 2026. Ni fydd y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol yn cael ei addysgu mewn ysgolion i ddysgwyr Blwyddyn 10 o fis Medi 2025 ymlaen, pan fydd yn cael ei ddisodli gan y cymhwyster TGAU Cymraeg Craidd.
- Ar gyfer TGAU Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth a TGAU Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, cynigir gwneud newid i'r manylebau er mwyn caniatáu esemptiad rhannol o un neu fwy o gydrannau fel addasiad rhesymollle nad oes addasiad rhesymol arall ar gael.
Dogfennau ymgynghori
Help a chymorth
Mae fersiynau o'r ddogfen hon ar gael mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill o ofyn amdanynt.
