Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r grant Addasiadau Ffisegol ar gael trwy eich cymdeithas tai.

Cymhwystra

  • tenantiaid sydd yn anabl
  • tenantiaid hŷn
  • cymdeithasau tai (ac eithrio cymdeithasau tai sydd wedi trosglwyddo stoc)

Newidiadau posib i’ch cartref

  • addasu’r ystafell ymolchi: gan gynnwys tynnu’r bath a gosod caban cawod a’r holl waith cysylltiedig
  • lifftiau: gan gynnwys  gosod lifft i fynd i fynny’r grisiau, neu lifft trwy’r lloriau
  • offer codi: gan gynnwys offer codi sefydlog a’r holl waith cysylltiedig,  i helpu tenantiaid a’u gofalwyr i symud o gwmpas yn eu cartrefi
  • addasu’r gegin: gan gynnwys darparu unedau cegin ar uchder addas
  • cymhorthion mynediad: gan gynnwys  rampiau, addasu rhodfa neu lwybr, rheiliau llaw neu rheiliau gafael
  • addasiadau cyffredinol eraill: gan gynnwys  porth car, cloeon drysau, systemau agor drysau

Mewn rhai achosion, efallai bydd grant ar gael ar gyfer  gwaith mawr fel estyniad llawr gwaelod i greu ystafell wely, neu ystafell ymolchi.

Sut i wneud cais

Rhaid i denantiaid gysylltu â’u cymdeithas tai.

Y broses

Cam 1. Rhaid i chi gysylltu â’ch cymdeithas tai a gofyn am newid i’ch cartref.

Cam 2. Bydd therapydd galwedigaethol  a swyddog o’r gymdeithas tai yn ymweld â chi yn eich cartref. Bydden nhw’n edrych ar eich sefyllfa i weld pa newidiadau  yr ydych eu hangen. 

Cam 3. Wedi edrych ar eich sefyllfa, bydd y gymdeithas tai yn cytuno ar y ffordd orau i wella’ch sefyllfa chi ac i wella eich cartref. 

Cam 4. Bydd eich cymdeithas tai yn danfon cais atom am grant i gyflenwi’r gwaith, os yw hynny’n briodol.   

Cam 5. Bydd y gwaith yn dechrau.

Cam 6. Bydd eich cymdeithas tai yn cysylltu â ni  i hawlio’r  grant ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.