Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am ddysgwyr sydd wedi cofrestru a'u gweithgareddau yn ôl oedran, rhyw, dull astudio, y math o raglen a lefel astudio ar gyfer Awst 2016 i Gorffennaf 2017.

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn crynhoi data ar nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, heb gynnwys y rheini mewn Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) neu ysgolion, ond gan gynnwys Sefydliadau Addysg Bellach (SAB), darparwyr eraill Dysgu Seiliedig ar Waith a darpariaeth Dysgu Cymunedol a gasglwyd drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) Llywodraeth Cymru.

Nodwch nad yw'n bosibl diweddaru gwybodaeth StatsCymru ynghylch Cymraeg i Oedolion, sy'n arfer cael ei gynnwys fel rhan o'r datganiad hwn, i 2016/17. Mae'r  Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn gyfrifol am arwain y rhaglen Cymraeg i Oedolion ac am gydgysylltu darpariaeth ar draws Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ers 2015. Mae ad-drefnu'r ddarpariaeth a'r systemau data o 2016/17 ymlaen wedi bod yn rhan o waith y Ganolfan (yn y gorffennol casglwyd data drwy ddefnyddio data'r Awdurdod Safonau Addysg Uwch a Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru). Mae trefniadau casglu data newydd yn cael eu sefydlu ar gyfer 2017/18 ac ymlaen. Fodd bynnag, ni chasglwyd data i ddarparu darlun cyflawn o'r ddarpariaeth yn ystod blwyddyn 2016/17.

Prif bwyntiau

  • Roedd 172,470 o ddysgwyr mewn SAB, Dysgu Cymunedol neu Ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn ystod 2016/17, i gymharu ar 172,460 yn 2015/16.
  • Bu gostyngiad o 4% yn y niferoedd dysgwyr amser llawn mewn SAB er bod cynnydd bach yn y niferoedd dysgwyr rhan-amser.
  • Gwelwyd gostyngiad o 4% yng nghyfanswm niferoedd dysgu cymunedol awdurdodau lleol.
  • Gwelwyd cynnydd o 2% yng nghyfanswm niferoedd dysgwyr yn seiliedig ar waith.

Adroddiadau

Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol, Awst 2016 i Gorffennaf 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 842 KB

PDF
Saesneg yn unig
842 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.