Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am ddysgwyr sydd wedi cofrestru a'u gweithgareddau yn ôl oedran, rhyw, dull astudio, y math o raglen a lefel astudio ar gyfer Awst 2022 i Gorffennaf 2023.

Amharodd y pandemig coronafeirws (COVID-19) ar y ddarpariaeth addysg ac mae’n bosibl y bydd ei effaith yn gael ei weld yn ffigurau’r datganiad hwn ar gyfer 2019/20 i 2021/22.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2022/23, roedd yna 163,695 o ddysgwyr mewn SAB, darparwyr Dysgu Cymunedol neu ddarparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith. Roedd hyn yn gynnydd o 10% o gymharu â 2021/22.
  • Roedd 127,000 dysgwr unigryw mewn SAB, cynnydd o tua 6% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd y cynnydd hwn yn bennaf yn sgil ag adferiad yn nifer y dysgwyr rhan-amser mewn SAB (cynnydd o 11%) i 60,510.
  • Roedd nifer y dysgwyr amser llawn mewn SAB yn parhau i fod yn gymharol ddigyfnewid (45,325 yn 2022/23) a chynyddodd dysgwyr sy'n ymgymryd â CBS yn FEIs 9% i 21,215. 
  • Roedd 16,005 o ddysgwyr unigryw mewn Dysgu Oedolion, 53% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol, felly roedd ar ei lefel uchaf ers 2014/15. 
  • Roedd 46,610 o ddysgwyr unigryw yn ymgymryd â phrentisiaethau yn 2022/23, cynnydd o 18% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd cynnydd o 14% mewn rhaglenni dysgu prentisiaethau wedi dechrau.

Nodiadau

Sylwch nad yw'r tabl atodol sy'n cynnwys dysgwyr sy'n dysgu mewn sefydliadau addysg bellach wedi'i gyhoeddi eleni, gan nad yw ffigurau ar gyfer dysgwyr sydd wedi eu breinio o sefydliadau addysg uwch ar gyfer 2022/23 ar gael ar hyn o bryd o gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.

Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn crynhoi data ar nifer y dysgwyr mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, heb gynnwys y rheini mewn Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) neu ysgolion ond gan gynnwys Sefydliadau Addysg Bellach (SAB), darparwyr eraill Dysgu Seiliedig ar Waith a darpariaeth Dysgu Oedolion a gasglwyd drwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau

Addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol: Awst 2022 i Gorffennaf 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 995 KB

PDF
Saesneg yn unig
995 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Llwyth y myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau cyfwerth ag amser llawn, 2009/10 i 2022/23 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 22 KB

ODS
22 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Tueddiadau o ran Niferoedd Myfyrwyr Addysg Bellach ym mis Rhagfyr mewn Sefydliadau Addysg Bellach a Sefydliadau Addysg Uwch, 2009 i 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 22 KB

ODS
22 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Blanka Ignacz

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.