Addysg feithrin i blant 3 a 4 oed: canllawiau i awdurdodau lleol
Yr hyn y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ei wneud i ddarparu addysg feithrin o ansawdd uchel i blant 3 a 4 oed yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ynglŷn â’r canllawiau hyn
Mae’r canllawiau hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol yng Nghymru i arfer eu dyletswydd i sicrhau addysg feithrin ddigonol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y plentyn i blant 3 a 4 oed mewn ysgolion a lleoliadau nas cynhelir. Maent yn disodli canllawiau 2018, sef ‘Darpariaeth Gyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 a 4 oed: Canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru’.
Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys canllawiau statudol ac anstatudol.
Mae’r canllawiau statudol yn yr adran ‘Canllawiau statudol: cynllunio a darparu addysg feithrin’.
Mae gweddill y ddogfen ganllaw hon yn cynnwys canllawiau anstatudol. Nid yw’r canllawiau hyn yn ddatganiad cynhwysfawr o’r gyfraith nac yn honni bod yn ddatganiad o’r fath.
Dylai awdurdodau lleol ofyn am eu cyngor cyfreithiol eu hunain ynglŷn â’r hyn sy’n ofynnol o dan y gyfraith.
Deddfwriaeth
Mae’r canllawiau statudol wedi’u dyroddi o dan adran 118(2)(b) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Saesneg yn unig) (“Deddf 1998”).
Mae adran 118(1) o Ddeddf 1998 yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau lleol sicrhau darpariaeth addysg feithrin ddigonol i blant yn eu hardal nad ydynt wedi cyrraedd:
- oedran ysgol gorfodol
- oedran a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru
Mae Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005) yn nodi’r gofyniad i ddarparu lle mewn addysg feithrin ar ôl pen-blwydd plentyn yn 3 oed.
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol rhoi sylw i’r canllawiau statudol wrth arfer unrhyw swyddogaethau sy’n destun y canllawiau statudol. Nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol iddynt ddilyn y canllawiau o dan bob amgylchiad. Fodd bynnag, mae gofyniad cyfreithiol bod awdurdod lleol yn eu hystyried, a rhaid iddo fod wedi eu hystyried wrth arfer unrhyw swyddogaethau sy’n destun y canllawiau statudol. Gall awdurdod lleol wyro oddi wrth y canllawiau statudol os oes ganddo reswm da dros wneud hynny (ond rhaid iddo allu dangos tystiolaeth ei fod wedi gwneud hynny).
Mae’r canllawiau anstatudol yn cael eu dyroddi o dan adran 10 o Ddeddf Addysg 1996 (Saesneg yn unig). Mae’r adran hon yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo addysg pobl yng Nghymru. Yn hyn o beth, nid yw’r awdurdodau lleol yn ddarostyngedig i ddyletswydd benodol i roi sylw i’r canllawiau. Fodd bynnag, mae’r canllawiau wedi’u cynllunio i gynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni’r swyddogaethau y maent yn ymwneud â nhw. Byddai Gweinidogion Cymru yn disgwyl i’r rhai y mae’r canllawiau wedi’u cyfeirio atynt i roi sylw iddynt wrth ystyried materion y maent yn ymwneud â nhw.
Mae’r canllawiau hyn yn gynghorol. Trwy gydol y canllawiau rydym yn defnyddio’r term ‘dylai’, ond dim ond cyngor ydyw ac nid yw’n golygu bod rhaid gwneud rhywbeth.
Trosolwg
Addysg feithrin
Mae adran 117 o Ddeddf 1998 yn diffinio addysg feithrin i olygu addysg llawnamser neu ran-amser sy’n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol (p’un a yw’n cael ei darparu mewn ysgol neu rywle arall).
Mae oedran ysgol gorfodol yn cael ei bennu gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (Saesneg yn unig) a Gorchymyn Addysg (Dechrau Oedran Ysgol Gorfodol) 1998 (Saesneg yn unig). Yn gryno, rhaid i blentyn ddechrau addysg llawn amser unwaith y bydd yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol. Mae hyn yn digwydd ar 31 Rhagfyr, 31 Mawrth neu 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 5 oed, pa un bynnag sy’n dod gyntaf. Os yw pen-blwydd plentyn yn 5 oed ar un o’r dyddiadau hynny, yna mae’r plentyn yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol ar y dyddiad hwnnw.
Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod digon o leoedd addysg feithrin a ariennir ar gael i bob plentyn 3 a 4 oed yn dibynnu ar ddyddiad eu pen-blwydd. Mae Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 yn darparu bydd:
- y dyddiad pryd fydd y lle ar gael yn dibynnu ar ddyddiad geni’r plentyn
- plant yn cael rhwng 3 a 5 tymor yn dibynnu ar bryd y mae eu pen-blwydd
Y dyddiad y gall plentyn dderbyn lle meithrinfa wedi’i ariannu yw fel a ganlyn.
| Pen-blwydd y plentyn | Pryd y gall plentyn gael lle meithrin a ariennir |
|---|---|
| 1 Medi i 31 Rhagfyr | Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr |
| 1 Ionawr i 31 Mawrth | Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill |
| 1 Ebrill i 31 Awst | Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Medi |
Mae awdurdodau lleol yn defnyddio termau gwahanol ar gyfer addysg feithrin, megis:
- ‘addysg gynnar’
- ‘hawl gynnar’
- ‘darpariaeth feithrin’
Er mwyn cysondeb, rydym yn defnyddio ‘addysg feithrin’ trwy gydol y canllawiau hyn.
Addysg feithrin yw:
- dechrau’r continwwm dysgu 3 i 16 o fewn y Cwricwlwm i Gymru
- un o egwyddorion allweddol Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar
- rhan o’r Cynnig Gofal Plant (“y Cynnig”)
- maes sy’n cyd-fynd â rhaglenni allweddol eraill fel Dechrau’n Deg
Mae pob un o’r rhain yn cefnogi dysgu a datblygiad o ansawdd uchel i’n dysgwyr ieuengaf.
Y Cwricwlwm i Gymru a dysgu sylfaen
Mae canllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn nodi’r gofynion ar gyfer:
- addysg eang a chytbwys
- continwwm dysgu i blant o 3 i 16 oed
Fel rhan o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn 2022, tynnwyd y termau ‘Cyfnod Sylfaen’ a ‘chyfnodau allweddol’ o’r cwricwlwm i adlewyrchu’r continwwm dysgu.
Mae dysgu sylfaen yn rhan o’r Cwricwlwm i Gymru ac mae:
- wedi’i gynllunio i adlewyrchu anghenion dysgu a datblygu penodol plant hyd at 8 oed neu ddysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol
- yn adlewyrchu’r ymarfer a’r addysgeg sy’n sylfaen i’r dysgu a’r datblygiad yn y blynyddoedd cynnar
- yn helpu i sicrhau darpariaeth effeithiol o ansawdd uchel sy’n briodol yn ddatblygiadol
Mae hyn yn adlewyrchu’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r cyfnod unigryw hwn o ddysgu ac addysgu.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn 2022 at ddefnydd lleoliadau. Mae’n eu galluogi i fodloni eu gofynion statudol trwy gwricwlwm sydd o ansawdd uchel ac yn briodol yn ddatblygiadol.
Nid yw’n ofynnol i leoliadau ddefnyddio’r cwricwlwm hwn. Fodd bynnag, os ydynt yn cael eu hariannu gan yr awdurdod lleol i ddarparu addysg feithrin, rhaid iddynt ddefnyddio cwricwlwm sy’n cydymffurfio â gofynion mandadol Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Mae’n ofynnol i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu eu hunain a gallant ddefnyddio’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir a’r trefniadau asesu cysylltiedig i ddatblygu eu trefniadau eu hunain os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Canllawiau statudol: cynllunio a darparu addysg feithrin
Mae’r adran hon yn darparu canllawiau statudol yn unol ag adran 118(2)(b) o’r Ddeddf 1998. Gan hynny, mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw iddynt.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau addysg feithrin ddigonol i blant yn eu hardal. Mae honno’n cael ei bodloni pan fyddant yn sicrhau o leiaf 10 awr o ddarpariaeth yr wythnos am yr un nifer o wythnosau â’r flwyddyn ysgol arferol (39 wythnos) mewn:
- ysgol (lleoliad a gynhelir)
- lleoliad nas cynhelir sydd wedi’i gofrestru â’r awdurdod lleol i ddarparu addysg feithrin (fel gwarchodwr plant, cylch meithrin, meithrinfa ddydd neu grŵp chwarae)
Rhaid i awdurdodau lleol benderfynu drostynt eu hunain pa fath o addysg feithrin sy’n ddigonol ar gyfer eu hardal. Maent yn y sefyllfa orau i benderfynu:
- sut i sicrhau a darparu addysg feithrin yn seiliedig ar amgylchiadau lleol ac anghenion eu plant a’u teuluoedd
- p’un a yw’r ddarpariaeth mewn ysgol neu leoliad nas cynhelir, neu gyfuniad o’r ddau
Gan y gall addysg feithrin gael ei chynnig mewn lleoliad gofal plant, dylai awdurdodau lleol ddefnyddio Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant i nodi unrhyw heriau wrth gynnig addysg feithrin hyblyg i ddiwallu anghenion y plentyn.
Cynllunio a darparu darpariaeth addysg feithrin effeithiol a chynhwysol
Dylai awdurdodau lleol:
- gael cynlluniau addas i ddarparu lleoedd meithrin o ansawdd uchel i bob plentyn 3 a 4 oed
- sicrhau bod pob math o ddarpariaeth yn cael ei ystyried i ddarparu addysg feithrin sy’n diwallu anghenion plant orau, gan ystyried dymuniadau eu teulu
- ystyried sut mae cyflwyno rhaglenni fel Dechrau’n Deg a’r Cynnig Gofal Plant yn cyd-fynd â’r ddarpariaeth addysg feithrin i gefnogi cyfnodau pontio llyfnach i blant
- sicrhau bod lleoedd meithrin ar gael o fewn pellter teithio rhesymol i gartref plentyn os mai dyna yw dewis y teulu (gan gynnwys trefniadau trawsffiniol)
- gweithio gyda theuluoedd i hyrwyddo’r manteision, y dewis ac argaeledd addysg feithrin i blant 3 a 4 oed
- sicrhau bod digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael, a sicrhau eu bod yn cyflawni ymrwymiadau’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg
- sicrhau bod darpariaeth addysg feithrin yn gyson â darpariaeth gofal plant er mwyn galluogi teuluoedd cymwys i fanteisio ar 30 awr y Cynnig
- ystyried y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir wrth gaffael darpariaeth addysg feithrin mewn lleoliadau
- cefnogi adnabod anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gynnar i alluogi lleoliadau ac ysgolion i ddiwallu anghenion pob plentyn mewn modd teg a chynhwysol, gan ystyried Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol cysylltiedig
- cydnabod y gall gweithio mewn partneriaeth rhwng y sectorau a gynhelir a nas cynhelir arwain at fanteision cadarnhaol wrth helpu i sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf priodol i blant
- gweithio gyda darparwyr mewn ysgolion a lleoliadau i sicrhau eu bod yn ymwybodol o ofynion a manteision darparu addysg feithrin
- cynnig cymorth, gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant digonol ac effeithiol i ysgolion a lleoliadau i sicrhau bod darpariaeth addysg feithrin o ansawdd uchel ar gael
- sicrhau bod cynghorwyr sy’n darparu cymorth pwrpasol i leoliadau addysg feithrin yn athrawon cymwysedig y blynyddoedd cynnar sy’n gallu darparu ymweliadau rheolaidd, cymorth pwrpasol a dysgu proffesiynol perthnasol o ansawdd uchel i ymarferwyr
- sicrhau bod dysgu proffesiynol priodol a hygyrch ar gael i’r holl staff sy’n darparu cymorth i leoliadau ac i ysgolion er mwyn gwella datblygiad proffesiynol parhaus
- cynnal gweithlu medrus a gwybodus mewn ysgolion a lleoliadau sydd â dealltwriaeth gadarn o’r Cwricwlwm i Gymru, addysgeg sy’n briodol yn ddatblygiadol, datblygiad plant a hawliau plant
- monitro’r defnydd o’r gwasanaeth a’i ansawdd, ac ymyrryd pan fo’n briodol i sicrhau bod darpariaeth addysg feithrin o ansawdd uchel yn cael ei chynnal
Cynorthwyo teuluoedd
Dylai awdurdodau lleol a darparwyr alluogi cymaint o blant 3 a 4 oed â phosibl i fynychu addysg feithrin mewn ysgol neu leoliad nas cynhelir. Er mwyn gwneud hyn, dylent sicrhau darpariaeth deg o ansawdd uchel i gefnogi plant ifanc i ddysgu a datblygu.
Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod teuluoedd yn deall beth yw, a beth nad yw, darpariaeth addysg feithrin a ariennir gan y llywodraeth.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gynnig addysg feithrin am nifer penodol o oriau dros nifer penodol o ddyddiau. Fodd bynnag, rhaid i’r ddarpariaeth addysg fod yn un sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Mae tystiolaeth sylweddol yn awgrymu bod cyfnodau byrrach o ddysgu yn arbennig o fuddiol i blant oedran meithrin.
Dylai awdurdodau lleol ystyried modelau hyblyg i helpu i gael gwared ar y rhwystrau y mae rhai teuluoedd yn eu profi wrth geisio cael addysg feithrin ar gyfer eu plant. Rhaid i unrhyw ddarpariaeth fod er budd gorau’r plentyn, ac mae angen i awdurdodau lleol sicrhau darpariaeth gytbwys, gan gofio bod perygl na fydd rhai plant yn gallu manteisio ar addysg feithrin os nad ydynt yn ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.
Wrth gynllunio hyn, dylai ystyried anghenion amrywiol y canlynol:
- teuluoedd sy’n gweithio neu deuluoedd sy’n chwilio am gyfleoedd gwaith neu hyfforddiant
- teuluoedd ar incwm isel
- teuluoedd rhiant unigol neu deuluoedd ag aelodau sy’n ofalwyr
- rhieni neu ofalwyr anabl
- teuluoedd o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
- teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- plant sy’n byw mewn lloches oherwydd trais domestig
- plant sydd ag ADY
- teuluoedd y lluoedd arfog mewn canolfannau milwrol yng Nghymru
Ar gyfer teuluoedd sy’n dymuno i’w plentyn gael lle mewn ardal awdurdod lleol gwahanol i’r un lle maent yn byw, rhaid i awdurdodau lleol gydweithio ag awdurdodau cyfagos. Rhaid i drefniadau trawsffiniol rhwng awdurdodau lleol:
- gael eu hwyluso mewn modd amserol
- sicrhau bod buddiannau’r plentyn yn ganolog
Dylai awdurdodau lleol sefydlu a chynnal gwasanaeth sy’n darparu ystod eang o wybodaeth a chymorth i deuluoedd. Fel rhan o hyn, dylai awdurdodau ddarparu gwybodaeth i deuluoedd er mwyn:
- eu helpu i ddeall pa ddarpariaeth addysg feithrin a gofal cofleidiol sydd ar gael
- eu hannog i sicrhau bod eu plentyn yn cael mynediad at addysg feithrin
- eu helpu i ddeall beth arall y gallant ei gael, er enghraifft gofal plant a ariennir fel rhan o’r Cynnig
Dylai ymarferwyr addysg ffurfio cysylltiadau agos ag ymarferwyr eraill sy’n gweithio gyda theuluoedd sydd â phlant ifanc. Gallai’r ymarferwyr eraill hyn gynnwys:
- y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
- Dechrau’n Deg
- gwasanaethau cymdeithasol
Mae ymwelwyr iechyd hefyd yn allweddol i gyrraedd teuluoedd â phlant ifanc. Mae’n bwysig eu bod yn ymwybodol o’r hawl a manteision addysg feithrin er mwyn iddynt allu rhannu’r wybodaeth â theuluoedd.
Dylai awdurdodau lleol ystyried dull cyfannol o ymgysylltu â sectorau eraill i gefnogi plant i gael addysg feithrin.
Cynnig Gofal Plant Cymru
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu hyd at 30 awr o addysg feithrin a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i blant 3 a 4 oed i rieni a gofalwyr sy’n gymwys, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae’r 30 awr yn cynnwys:
- o leiaf 10 awr o addysg feithrin yr wythnos yn ystod y tymor
- uchafswm o 20 awr yr wythnos o ofal plant yn ystod y tymor
- hyd at 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu yn ystod gwyliau’r ysgol
Mae’n bwysig bod rhieni a gofalwyr yn cael gwybod bod angen iddynt wneud cais am le mewn lleoliad addysg feithrin drwy’r awdurdod lleol yn unig. Ni allant wneud cais ar wefan y Cynnig Gofal Plant.
Y nifer lleiaf o oriau ar gyfer addysg feithrin a ariennir yw 10 awr yr wythnos, ac felly mae’r nifer uchaf o oriau gofal plant a ariennir y gall rhiant neu ofalwr eu cael yn aros yr un fath waeth a ydynt yn dewis cael mynediad at ddarpariaeth addysg feithrin i’w plentyn yn ystod y tymor ai peidio.
Ni chaniateir cyfnewid oriau addysg feithrin am oriau gofal plant. Er enghraifft, mewn awdurdod lleol sy’n cynnig 12.5 awr o addysg feithrin, byddai rhieni neu ofalwyr yn gallu manteisio ar uchafswm o 17.5 awr o ofal plant a ariennir yn ystod y tymor. Mewn awdurdod lleol sy’n cynnig 30 awr o addysg feithrin, dim ond yn ystod gwyliau’r ysgol y byddai rhieni neu ofalwyr yn gallu cael mynediad at ofal plant a ariennir.
Cyllid
Darperir cyllid addysg feithrin drwy:
- gyllid craidd ar gyfer awdurdodau lleol yn y Grant Cynnal Refeniw fel rhan o’r Setliad Llywodraeth Leol
- y Grant Addysg Awdurdod Lleol sy’n darparu cymorth ariannol i wella deilliannau addysgol bob dysgwr
Mae’r Grant Addysg Awdurdod Lleol yn cefnogi:
- athrawon cynghori y blynyddoedd cynnar i helpu i ddarparu addysg feithrin o ansawdd uchel mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir
- sicrhau bod cymarebau staff i ddysgwyr ar gyfer dysgu sylfaen yn cael eu cyflawni mewn ysgolion
- darparu addysg feithrin a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth o dan y Cynnig ar gyfradd ariannu gyson
Dylai awdurdodau lleol gynnig cyfradd ariannu gyson i bob lleoliad nas cynhelir a ariennir i ddarparu addysg feithrin. Dylai’r gyfradd fesul awr am bob plentyn fod yn gyfwerth â’r hyn a gynigir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr elfen gofal plant a ariennir o’r Cynnig.
Cymarebau
Ysgolion
Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddyrannu cyllid o dan y Grant Addysg Awdurdod Lleol i gyflawni cymarebau ysgolion yn llawn. Dylent ddefnyddio’r dyraniad a bennir gan y fformiwla genedlaethol, wedi’i bwysoli i sicrhau bod cymarebau staff i ddysgwyr ar gyfer dysgu sylfaen yn cael eu gweithredu. Dylai ysgolion gyflawni’r cymarebau canlynol:
- 1:8 ar gyfer Meithrin a Derbyn
- 1:15 ar gyfer Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2
Lleoliadau nas cynhelir
Mae’n ofynnol i ddarparwyr wedi’u rheoleiddio nas cynhelir gadw at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir. Mae hyn yn cynnwys y cymhwyster gofynnol ar gyfer staff a’r cymarebau gofynnol ar gyfer pob lleoliad nas cynhelir.
Polisïau a rhaglenni cysylltiedig
Mae’r polisïau a’r rhaglenni canlynol yn gweithio ar y cyd ac ochr yn ochr â darparu addysg feithrin.
Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar
Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfleoedd gofal plant ac addysg sy’n seiliedig ar chwarae o ansawdd uchel ar gyfer pob baban a phlentyn ifanc rhwng 0 a 5 oed, gan gynnwys plant mewn addysg feithrin rhwng 3 a 4 oed.
Dylai awdurdodau lleol ystyried Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru ac adnoddau eraill Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar sy’n rhoi’r plentyn a datblygiad y plentyn wrth wraidd darpariaeth addysg feithrin.
Dechrau’n Deg
Gall Dechrau’n Deg gefnogi pontio rhwyddach i addysg feithrin, a bydd plant fel arfer yn symud i addysg feithrin ar ddiwedd eu hamser dan ofal Dechrau’n Deg.
Efallai y bydd rhywfaint o hyblygrwydd os nad yw hyn yn cydamseru â threfniadau derbyn ysgolion lleol. Byddai angen cytuno ar hyn gyda’r awdurdod lleol a’r darparydd gofal plant.
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y canllawiau hyn neu am addysg feithrin, cysylltwch â: DysguSylfaen@llyw.cymru.
