Addysg Gychwynnol i Athrawon: Awst 2022 i Orfennaf 2024 (canlyniadau pennawd)
Gwybodaeth ynglŷn â myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) sy’n arwain at statws athro cymwysedig ar gyfer Awst 2022 i Orfennaf 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodyn
Y prif ganlyniadau hyn yw’r datganiad data cychwynnol ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2022 i 2023 a 2023 i 2024. Cafwyd oedi oherwydd bod oedi wrth dderbyn data myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), bod materion ansawdd data wedi codi, a bod y data wedi’i ailstrwythuro. Bydd bwletin llawn gyda chiwbiau StatsCymru yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach.
Addysg gychwynnol i athrawon: Awst 2022 i Gorffennaf 2024
Gwybodaeth ynglŷn â myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) sy’n arwain at statws athro cymwysedig (SAC) ar gyfer dau gyfnod academaidd – mis Awst 2022 i fis Gorffennaf 2023 a mis Awst 2023 i fis Gorffennaf 2024. Y data mwyaf diweddar yn y diweddariad hwn yw data blwyddyn academaidd 2023/24. Mae’n cynnwys myfyrwyr sy’n hyfforddi i fod yn athrawon gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru a hefyd myfyrwyr o Gymru sy’n hyfforddi i fod yn athrawon ledled y DU.
Mae’r ffigurau a ddefnyddir drwy gydol y datganiad hwn yn seiliedig ar gyfrif y cofrestriadau. Ar gyfer 2022/23 a 2023/4 fel ei gilydd, Cyngor y Gweithlu Addysg a bennodd y dyraniadau ar gyfer cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru. Cafodd dyraniadau ar wahân eu pennu ar gyfer cyrsiau’r Brifysgol Agored gan Lywodraeth Cymru. Mae’r dyraniadau yn ymwneud â’r nifer sy’n hyfforddi i fod naill ai’n athrawon ysgol gynradd neu’n athrawon ysgol uwchradd a’r nifer sy’n gwneud cyrsiau AGA ôl-raddedig neu israddedig.
Ffigur 1: Dyraniadau derbyn a dyraniadau o ran newydd ddyfodiaid ar gyrsiau AGA yng Nghymru, 2016/17 i 2023/24
Disgrifiad o'r Ffigur 1: Siart linell sy'n dangos bod nifer y cofrestriadau newydd ar gyfer ysgolion cynradd yn uwch na'r dyraniadau am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, tra bo nifer y cofrestriadau newydd ar gyfer ysgolion uwchradd wedi bod yn is na'r dyraniadau ers 2016/17.
Ffynhonnell: Cofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a Llywodraeth Cymru
Prif bwyntiau
Cofrestriadau gyda darparwyr Addysg uwch yng Nghymru
- Cafwyd cyfanswm o 2,040 o gofrestriadau AGA gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru yn 2023/24 (2,070 yn 2022/23).
- Cafwyd 1,405 o gofrestriadau newydd yn 2023/24. Mae hyn 3% yn uwch na nifer y cofrestriadau yn 2022/23.
- Roedd 895 o’r rhai a gofrestrodd mewn ysgolion cynradd (880 yn 2022/23) a 505 yn hyfforddi i fod yn athrawon ysgol uwchradd (485 yn 2022/23).
- Roedd nifer y rhai a ddechreuodd cyrsiau AGA ysgol gynradd yng Nghymru 18% yn uwch na'r dyraniadau yn 2023/24.
- Roedd nifer y rhai a ddechreuodd cyrsiau AGA ysgol uwchradd yng Nghymru 56% yn is na'r dyraniadau yn 2023/24.
- Yn 2023/24 roedd 6% o fyfyrwyr AGA newydd oedd â chyfeiriad parhaol yn y DU ac â’u hethnigrwydd yn hysbys yn dod o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnic Leiafrifol (3% yn 2022/23).
- Roedd 87% o fyfyrwyr AGA newydd a oedd yn astudio yng Nghymru yn 2023/24 â chyfeiriad parhaol yng Nghymru cyn dechrau ar eu cwrs AGA (88% yn 2022/23).
Cofrestriadau myfyrwyr â chyfeiriad parhaol yng Nghymru gyda darparwyr yn y DU
- Cafwyd cyfanswm o 2,415 o gofrestriadau AGA gan fyfyrwyr â chyfeiriad parhaol yng Nghymru gyda ddarparwyr yn y DU yn 2023/24 (2,530 yn 2022/23).
- Roedd 1,595 o gofrestriadau newydd yn 2023/24. Mae hyn 3% yn is na’r nifer cyfatebol yn 2022/23.
- Roedd 1,015 o ymgeiswyr yn hyfforddi i fod yn athrawon cynradd (1,075 yn 2022/23) ac roedd 585 o ymgeiswyr yn hyfforddi i fod yn athrawon uwchradd (565 yn 2022/23).
- Roedd 77% o’r ymgeiswyr AGA newydd oedd â chyfeiriad parhaol yng Nghymru cyn iddynt ddechrau ar eu cwrs AGA yn astudio eu cwrs AGA gyda darparwr addysg uwch yng Nghymru (74% yn 2022/23).
Gwybodaeth ansawdd ystadegol
Ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2016/17 i 2021/22, gall y ffigurau fod ychydig yn wahanol i'r rhai a gyhoeddwyd mewn cyhoeddiadau AGA blaenorol. Mae hyn oherwydd newidiadau mewn meini prawf cynhwysiant fel bod yr holl gyrsiau AGA sy'n arwain at SAC bellach wedi'u cynnwys, a'r defnydd o gronfeydd data sefydlog.
Ar gyfer 2022/23, bu cynnydd mawr yn swm y data coll ar ethnigrwydd ar gyfer myfyrwyr y mae eu cyfeiriad parhaol yn y DU. I gyfrif am hyn, defnyddiwyd data ethnigrwydd o 2021/22 i briodoli ethnigrwydd i fyfyrwyr parhaus gyda darparwyr yng Nghymru a Lloegr lle roedd gwybodaeth am ethnigrwydd ar goll neu'n anhysbys i fyfyrwyr o fewn y cwmpas, ac eithrio lle nodwyd 'Mae'n well gen i beidio â dweud'.
Ar gyfer 2022/23 a 2023/24, gwelwyd bod rhai myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru y cofnodwyd eu bod ar gyrsiau AGA yn arwain at SAC heb achrediad AGA wedi'i gofnodi. Ar ôl cydlynu â'r darparwr, cafwyd cofnod AGA ar gyfer y myfyrwyr yr effeithiwyd arnynt gan ddefnyddio teitlau cyrsiau lle bo hynny'n briodol. Cafodd myfyrwyr a oedd ar gwrs heb achrediad AGA eu trin fel nad ydynt ar gwrs AGA sy'n arwain at SAC.
Ddiffiniadau
Gwlad y darparwr
Mae gwlad y darparwr wedi’i seilio ar gyfeiriad canolfan weinyddol y Sefydliad Addysg Uwch yr aethpwyd iddo. Ar gyfer myfyrwyr y Brifysgol Agored, mae gwlad y darparwr wedi’i seilio ar gyfeiriad canolfan genedlaethol y Brifysgol Agored.
Ymgeiswyr newydd
Ar gyfer blynyddoedd academaidd cyn 2022/23, myfyrwyr â dyddiad dechrau rhwng 1 Awst Bl1 a 31 Gorffennaf Bl2 (y flwyddyn ganlynol). Ar gyfer blynyddoedd academaidd o 2022/23, myfyrwyr â dyddiad cychwyn rhwng 18 Gorffennaf Bl1 a 17 Gorffennaf Bl2. Mae hyn yn golygu bod y diffiniad o ymgeiswyr newydd cyn 2022/23 ac o 2022/23 ymlaen yn wahanol. Fodd bynnag, nid yw'r gwahaniaeth hwn o ran diffiniad yn cael unrhyw effaith sylweddol ar y ffigurau yn y datganiad hwn.
Cyfeiriad parhaol
Cyfeiriad cartref y myfyriwr wrth ddechrau ar y cwrs. At ddibenion dadansoddi, mae Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw wedi'u cynnwys fel rhan o'r DU. Yn swyddogol, nid yw Tiriogaethau Dibynnol y Goron Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw yn rhan o'r DU na'r UE.
Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA)
Mae Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) yn cwmpasu pob llwybr y bydd rhywun yn ei ddilyn i ddod yn athro. Yn y cyhoeddiad hwn, mae cyrsiau AGA wedi'u cyfyngu i gyrsiau lle mae cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae'r cyhoeddiad hwn yn ymdrin â phobl sy’n dod yn athrawon drwy gyrsiau Addysg Uwch ffurfiol.
Statws Athro Cymwysedig (SAC)
Rhaid bod â Statws Athro Cymwysedig er mwyn addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae SAC yng Nghymru yn wahanol i SAC yn Lloegr neu gofrestr y Cyngor Addysgu Cyffredinol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. Fodd bynnag, caiff unigolyn sy’n ennill SAC yn Lloegr addysgu yng Nghymru. Gall athrawon sy’n ennill SAC yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon wneud cais i Gyngor y Gweithlu Addysg am gydnabyddiaeth fel athro sy’n gymwys i ymarfer yng Nghymru. Gall athrawon sydd wedi cael hyfforddiant rhyngwladol hefyd wneud cais i Gyngor y Gweithlu Addysg am gydnabod eu cymwysterau a chael SAC yng Nghymru.
Cyfnod AGA
Mae cyfnod AGA yn nodi a yw'r cwrs yn canolbwyntio ar hyfforddi athrawon cynradd neu uwchradd. Pan fydd athro wedi cymhwyso, efallai y bydd yn addysgu ystod oedrannau wahanol i’r un y bu’n hyfforddi ar ei chyfer i gychwyn. Mae'r cam AGA yn cael ei bennu gan yr achrediad AGA y mae'r myfyriwr yn ceisio ei gael.
Mae rhai cyrsiau AGA yn cwmpasu ystod oedran ehangach; yn yr achosion hynny, maent wedi’u categoreiddio yn ôl yr oedran hynaf y maent yn ei gwmpasu.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Sedeek Ameer
E-bost: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
